Newyddion

 

Croesawu Meddyg BanglaCymru

Ar Sul olaf Medi daeth Dr Jishumoy Dev draw o Bangladesh i sôn wrthym yn y Tabernacl am ei waith gyda BanglaCymru. Sefydlwyd yr elusen yn 2008 gan Wil Morus Jones i roi llawdriniaethau i blant sy’n dioddef o gyflwr gwefus a thaflod hollt yn ogystal â’r rhai sydd wedi dioddef llosgiadau difrifol.  Cyflawnir y gwaith mewn canolfan newydd pwrpasol ac yn Ysbyty Centrepoint yn Chittagong.  Hefyd bu’r tîm meddygol ar deithiau yn cynnal sesiynau mewn llefydd megis Varanasi, Cox’s Bazar a Tanagail.

wilbanglacymruimg_6825

Dr Jishumoy Dev

wilbanglacymruimg_6827

Wil Morus Jones a Dr Jishumoy Dev

Bangladesh, yn ôl ystadegau’r Cenhedloedd Unedig yw gwlad dlotaf Asia, ac mae mwy o blant yn cael eu geni gyda thaflod a gwefus hollt yma nag unrhyw ran arall o’r byd. Amcangyfrifir bod tua pum mil o blant yn cael eu geni gyda’r cyflwr hwn yn flynyddol ym Mangladesh ond dim ond eu hanner sy’n cael eu trin oherwydd diffyg cyllid a darpariaethau meddygol. Mae’r driniaeth yn newid bywydau’n ddramatig, nid yn unig o ran pryd a gwedd ond hefyd yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Cyflawnwyd dros 1200 o lawdriniaethau dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Cewch ragor o fanylion, ynghyd â ffurflen i wneud cyfraniad ariannol YMA.

 

 

 

 

Y CYNLLUN ADEILADU

O’r diwedd, ar ôl cyfnod o ddeunaw wythnos yn addoli yn Neuadd y Pentref, daeth y newydd ein bod i gael dychwelyd i’r capel ar Ionawr 24ain. Mawr oedd y cyffro a’r disgwyl i weld yr adeilad ar ei newydd wedd, a chafodd neb eu siomi: roedd pawb wedi gwirioni ar y lliwiau glanwaith, cynnes, ac roedd croeso arbennig i’r cadeiriau newydd, cyfforddus.

Croesawyd pawb yn ôl gan Wendy Reynolds, Cadeirydd y Bwrdd, a diolchodd hithau ar ein rhan ni i gyd i bawb a fu ynghlwm â’r gwaith adnewyddu, ond yn arbennig i Helen Middleton a Pens (Emlyn Penny Jones) sydd wedi ysgwyddo’r baich mwyaf o ddigon. Fel y dywedodd Wendy, buom yn hynod ffodus yn eu hymroddiad diflino dros gyfnod maith, ond roedd yn gaffaeliad mawr eu bod ill dau yn ymddiddori mewn gwaith adeiladu, ac yn medru dal eu tir i drafod yn synhwyrol a gwneud penderfyniadau anodd ar ein rhan.

DSCF6033 DSCF6035 DSCF6040
DSCF6038

Os am weld lluniau o’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo

Pwyswch Yma: Y Gwaith Adeiladu

Y TWMIAID BACH

Daeth tua 15 o bobl ifanc ynghyd ar gyfer cyfarfod cyntaf y Twmiaid Bach nos Sul Medi 13eg.  Dymunwn yn dda iddyn nhw yn eu tymor newydd.

Twmiaid Bach 2 Twmiaid Bach

 

 

 

Dyma gopi o’r cylchlythyr a anfonwyd at yr aelodau i gyd yn egluro’r trefniadau dros gyfnod atgyweirio’r capel.

Cylchlythyr Medi 2015

 

 

 

NEWYDDION MIS GORFFENNAF:

PROFEDIGAETH

Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion brawychus am farwolaeth annhymig Lowri Gruffydd. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i Hefin a’r bechgyn, Trystan ac Osian. Rydym yn meddwl amdanoch.

CASGLIAD Y BANC BWYD YN ARCHFARCHNAD TESCO

Llawer o ddiolch i bawb a ddaeth ynghyd i gefnogi’r Banc Bwyd drwy gasglu nwyddau yn siop Tesco ddechrau Gorffennaf. Bu tîm o 24 ohonom o’r Tabernacl yn gwneud gwahanol shifftiau o ddwy awr yr un. Byddwn yn cyhoeddi cyfanswm gwerth y casgliad yn fuan.

PENWYTHNOS PENRHYN GŴYR

Ddiwedd mis Mehefin, cafodd y Twmiaid Bach benwythnos wrth eu boddau yng nghwmni Catrin a Heulyn ym Mhenrhyn Gŵyr. Braf eu gweld wedi cael amser mor braf gyda’i gilydd, a diolch i’r trefnwyr am roi cymaint o’u hamser i gyfoethogi profiadau’r criw ifanc.

 

OEDFA GYMUN WAHANOL

Ar Sul cyntaf Gorffennaf cafwyd oedfa gofiadwy yng nghwmni plant yr Ysgol Sul, dan lywyddiaeth Heulyn Rees. Mentrodd y plant lleiaf i ffau’r llewod ar gyfer eu cyfraniad hwy drwy ganu “Ble Mae Daniel?”, a chawsom ddatganiad o “Bythol Wyrdd” gan y Twmiaid Bach. Yna, bu Heulyn yn holi Siân Knott am ei gwaith fel Prif Ffisiotherapydd Chwaraeon Cymru, a soniodd hithau am ei phrofiadau yn y Gemau Olympaidd a Chwaraeon y Gymanwlad, gan bwysleisio’r angen i gydweithio fel tîm. Gweinyddwyd y Cymun gan Emlyn Davies, gyda’r bobl ifanc yn cymuno am y tro cyntaf.

Oedfa Gymun Gorffennaf

ARCHIF NEWYDDION:

YMGYRCH YR YSGOLION
Bu rhai o arweinwyr yr Ysgol Sul wrthi’n brysur yn dosbarthu cannoedd o daflenni yn yr ysgolion cynradd lleol i geisio denu rhagor o blant i’r capel. Pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni ragor o rieni yn dod hefyd. Dyma’r daflen ddwyieithog:

+Taflen Yr Ysgolion

BORE COFFI

Rhai o aelodau’r gynulleidfa Saesneg eu hiaith yn eu bore coffi wythnosol a drefnir ar gyfer trigolion Efail Isaf. Bydd yr elw o’r boereau hyn yn mynd i achosion da yn yr ardal.

IMG_1266

HAMPERI NADOLIG

Diolch i bawb a gyfrannodd i greu’r hamperi Nadolig eleni eto  i bobl ifanc sy’n sefydlu cartref am y tro cyntaf yn yr ardal. Cafodd yr hamperi eu dosbarthu drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhontypridd.

IMG_1264

BANC BWYD PONTYCLUN

Bu dros ugain ohonon ni’n brysur ddiwedd Tachwedd yn helpu trefnwyr Banc Bwyd Pontyclun yn eu casgliad yn Tesco Tonysguboriau. Dyma’r ail dro i aelodau’r Tabernacl wneud hyn a’r bwriad yw helpu ym mhob casgliad o hyn allan.
Helpu achos teilwng yw’r prif reswm, wrth gwrs, ond rhaid cyfaddef hefyd ei fod yn brofiad amheuthun. Mae’n gyfle gwych i weld ochr orau pobl, mae haelioni pobl o bob cefndir yn gwneud i rywun deimlo’n wylaidd iawn, a’u hagwedd fel chwa o awyr iach mewn oes mor faterol. Mae’r rhoddion i gyd yn cael eu pwyso fel bod Tesco’n ychwanegu 30% yn ariannol at y cyfanswm. Mae cefnogaeth staff Tesco Tonysguboriau yn ddiarhebol.
Mae’n braf teimlo ein bod yn gwneud rhywbeth ymarferol sydd o les i gymaint o bobl, ond cyn swnio’n annioddegol o hunangyfiawn, mae’n bwysig ychwanegu ei fod yn brofiad sy’n eli i’r galon, ac mae pawb mor brysur, mae shift ddwyawr yn hedfan!
Byddwn yno eto ym mis Gorffennaf. Os ydych chi’n awyddus i fod yn rhan o’r profiad gwerth chweil yma, gallwch wneud hynny drwy ymateb i’r ebost fydd yn eich cyrraedd ddechrau mis Mehefin.

Tair Cenhedlaeth wrth y gwaith

Tair cenhedlaeth wrth y gwaith – Lowri, Math, Glenys a Gwenno.

PRIODASAU UN RHYW

Mae disgwyl i bob eglwys Annibynnnol benderfynu a ydyn nhw o blaid neu yn erbyn cofrestru eu hadeilad ar gyfer priodasau un rhyw.  Byddwn ni’n gwneud hynny ar Ionawr 11eg, a chyhoeddwyd y ddogfen isod i ysgogi’r drafodaeth:

PRIODASAU UN RHYW

 

AR DRYWYDD WALDO

Cliciwch ynma i gael hanes y daith i Sir Benfro ar Sul y Cofio, 2013:

Ar Drywydd Waldo

PREGETH OLAF EIRIAN

Yma y cewch chi hanes pregeth olaf Eirian ym mis Rhagfyr 2013:

Pregeth Olaf Eirian

 

LLYTHYR AT Y GWLEIDYDDION

Wrth i’r Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol drafod y Banc Bwyd yn eu cyfarfod cyn y Nadolig fe nodwyd gyda phryder y defnydd cynyddol a wneir o’r Banciau Bwyd ar draws y Deyrnas Gyfunol a’r cyni y mae hynny yn ei ddynodi. Cwestiynwyd pam fod angen Banc Bwyd o gwbl mewn gwlad sydd i fod i edrych ar ôl y gwannaf yn y gymdeithas trwy’r Wladwriaeth Les. Daethpwyd i’r penderfyniad y dylid datgan y pryder yn gyhoeddus ac anfon llythyr at Adran Gwaith a Phensiynau y Llywodraeth yn Llundain sydd â chyfrifoldeb dros y ddarpariaeth i’r tlawd a’r difreintiedig, gan anfon copi o’r llythyr at y Prif Weinidog David Cameron, Canghellor y Trysorlys George Osborne ynghyd â’n Haelod Seneddol Owen Smith, ein Haelod Cynulliad Mick Antoniw a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru. Dyma gopi o’r llythyr a anfonwyd:

Llythyr y Gwleidyddion