Mae Tabernacl wedi gweld ffurf ac awyrgylch yr oedfaon yn newid ac yn dod yn fwy cyfoes dros y blynyddoedd. Roedd y capel ymhlith y cyntaf i ddysgu'r caneuon ac emynau modern sy'n rhan o fywyd pob capel erbyn hyn. Bu'r Gweinidog yn ogystal â phregethu a chynnal y gwasanaethau, yn annog aelodau'r gynulleidfa i gymryd cyfrifoldeb am rannau o'r oedfa.
Mae Efengyl Crist yn parhau i fod yn gonglfaen i holl weithgarwch y capel.