Mae hanes diddorol iawn i Efail Isaf a'r ardal gyfagos ym Morgannwg.
Capel Tabernacl yw'r unig gapel yn y pentref ac mae ei ddatblygiad yn rhan annatod o'r hanes.
Cychwynwyd ar y gwaith o gasglu gwybodaeth am y capel a'r pentref ar gyfer arddangosfa arbennig i ddathlu agor Canolfan newdd y capel ym Medi 2010 gellir gweld paneli'r arddangosfa yma >> Arddangosfa.
Ar yr un pryd roedd y pentref yn gweld newidiadau mawr wrth i'r ffordd osgoi newydd gael ei agor.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y casgliad o luniau a gwybodaeth. Mae croeso i chi ddanfon rhagor.
Gobeithio y cewch fwynhad wrth ddarllen am y pentref gwledig a'r capel fu'n gornel o Gymreictod mewn ardal ddiwydiannol.