1841 Dechreuwyd yr 'achos' yn Efail Isaf - Cangen o Eglwys Taihirion, Rhydlafar gyda'r Parch Lemuel Smith yn Weinidog.
"Cychwynnwyd yn y ‘longroom' perthynol i dafarndy'r pentre a elwir ‘Carpenters' Arms'. Safai yr ystafell hon ar wahân i'r 'Carpenters' yn ymyl yr ardd, lle'r oedd grisiau yn esgyn iddi o'r tu allan". (O lyfryn y Canmlwyddiant 1941)
Penderfynwyd adeiladu capel ar dir fferm Y Celyn.
1842 Gosodwyd y sylfaen ar ddechrau'r flwyddyn. Bu farw Y Parch Lemuel Smith. Sefydlwyd y Parch Levi Lawrence yn Weinidog.
1843 Adeiladwyd ac agorwyd y capel cyntaf.
1847 Gadawodd y Parch Levi Lawrence i ofalu am Eglwys Adulam, Merthyr Tudful.
1851 25 o aelodau gyda'r Parch John Taihirion Davies yn Weinidog.
1869 71 o aelodau a'r capel cyntaf wedi mynd yn rhy fach. Penderfynwyd adeiladu capel newydd.
1870 Gorffennaf 3ydd a 4ydd. Agorwyd y capel presennol ar gost o £830.00.
1878 Aelodaeth yn 144. Erbyn diwedd y flwyddyn collwyd 27 o aelodau oherwydd cau pob pwll glo yn y gymdogaeth. Symudodd yr aelodau yma i’r Rhondda a Chwm Garw.
1898 Codwyd y festri a'r stabl oddi tano am £250.00
1901 Medi. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Jiwbilî i ddathlu hanner can mlynedd gweinidogaeth John Taihirion Davies.
1904 Bu farw Y Parch. John Taihirion Davies.
GWEINIDOGION
Y Parchedig Lemuel Smith 1841 - 1842
Y Parchedig Levi Lawrence 1842 - 1847
Y Parchedig John Taihirion Davies 1851 - 1904