Tabernacl - Efail Isaf

 

Mae hanes diddorol iawn i Efail Isaf a'r ardal gyfagos ym Morgannwg. 

Capel Tabernacl yw'r unig gapel yn y pentref ac mae ei ddatblygiad yn rhan annatod o'r hanes.

Cychwynwyd ar y gwaith o gasglu gwybodaeth am y capel a'r pentref ar gyfer arddangosfa arbennig i ddathlu agor Canolfan newdd y capel ym Medi 2010 gellir gweld paneli'r arddangosfa yma >> Arddangosfa.

Ar yr un pryd roedd y pentref yn gweld newidiadau mawr wrth i'r ffordd osgoi newydd gael ei agor.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y casgliad o luniau a gwybodaeth. Mae croeso i chi ddanfon rhagor.   

Gobeithio y cewch fwynhad wrth ddarllen am y pentref gwledig a'r capel fu'n gornel o Gymreictod mewn ardal ddiwydiannol.

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size