1904-05 Yn ystod y diwygiad, derbyniwyd 25 o aelodau o'r newydd.
1906 Ar ddechrau'r flwyddyn gosodwyd Tablen Goffa tu ôl i'r pulpud yn datgan parch ac edmygedd yr Eglwys o’r Weinidogaeth rymus ag eithriadol a fu. Costiodd y Tablen Goffa £30. Gorffennaf 19. Ordeiniwyd myfyriwr o Goleg Bangor Mr E. B. Powell Glanaman yn weinidog. Aelodaeth 100.
1907 Ionawr. Dechreuwyd Ysgol Sul yn Neuadd y Bedyddwyr Saesneg yn Church Village.
1909 Symudodd y Parch E.B. Powell i Faesycwmer. 24 Medi Cyfarfodydd ordeinio'r myfyriwr o Goleg Caerfyrddin, Mr T. E. Jones, Treorci.
1910 Chwefror 16. Adeiladwyd ac agorwyd Gwynfa, Church Village ar gost o £600 fel festri ychwanegol ar gyfer aelodau Llanilltud Faerdref a Church Village.
1911 Derbyniwyd 25 o aelodau newydd a rhan fwyaf o rhain yn aelodau'r Ysgol Sul.
1914 Dechreuwyd cynnal gwasanaethau'r nos yng Ngwynfa.
1916 Gadawodd y Parch T. E. Jones am Drewyddel, Sir Benfro. Yn ystod ei weinidogaeth (1909-16) bu cynnydd o 105 i 133 o aelodau. Gosodwyd golau trydan yn y capel ar gost o £23-13s-0d. 1920 Sefydlwyd y Parch John Howell, Fonciau Rhos.
1921 Gadawodd y Parch John Howell am Moreia, Rhymni. Derbyniodd 27 o aelodau yn ystod y 14 mis.
1922 Gosodwyd peiriant cynhesu newydd yn y capel, peintiwyd y capel a chodwyd ystafell i’r gweinidog a’r diaconiaid am £400.00
1925 Gorffennaf 24. Cyfarfodydd ordeinio myfyriwr o Goleg Caerfyrddin, Mr. D. Stanley Jones o Ffynnongroyw, Sir Fflint. Ehangwyd y fynwent wrth brynu hanner erw o dir am £133.00
1926 Nifer mwyaf o aelodau yn hanes yr Eglwys. 176 o aelodau.
1941 Canmlwyddiant yr Achos. Cafwyd oedfaon dathlu ar Fedi 6 - 8. Aelodaeth yn 118.
1945 Penderfynwyd cau Ysgol Sul y Gwynfa. Aelodaeth 114.
1951 Adnewyddu'r to capel am £81,00. Aelodaeth 119.
1953 Gadawodd y Parch D. Stanley Jones am Dregwyr.
1958 Aelodaeth yn 78.
1963 Penderfynwyd gwerthu Gwynfa.
1967 Peintiwyd y capel.