Roedd dyn wedi ymsefydlu yn ardal y Garth ers Oes y Cerrig ac mae'r olynion cynharaf o'i waith i'w weld yn Cae'r Arfau rhwng Creigiau ac Efail Isaf.
Mae'r twmpathau ar ben y Garth yn dyddio o'r Oes Efydd
Mae'n amlwg fod ffermio wedi bod yn fodd i gynnal cymunedau yn yr ardal a gellir olrhain hanes nifer o ffermydd yr ardal dros y canrifoedd.
Ymhlith y ffermydd mae Fferm Celyn a Fferm Garth Uchaf.
Mae sôn yn 1671 am fwthyn Gwaun Hirion gyda efail wrth ei ymyl yn rhan o ystad y Ffrwd.
Roedd Gwaun Hirion (neu Gweunydd Hirion) ar safle presennol y Carpenter's Arms.
Map o tua 1830.