Adeiladu'r Capel

Ar ôl bod yn y longroom am rai misoedd, penderfynwyd chwilio am le cyfleus i godi capel arno. O'r diwedd cafwyd darn o dir, yn cynnwys lle i fynwent, ar brydles o
fil-ond-un o flynyddoedd gan Thomas Phillips, Ysw., Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, am rent o ddeg swllt y flwyddyn. Ddechrau 1842 gosodwyd y sylfaen. Roedd craig fawr yn un o gaeau cyfagos Garth Isaf. Chwalwyd hon gan y dynion yn y nosweithiau a chariodd y merched y darnau at wasanaeth y saer maen yn ystod y dyddiau canlynol. Does dim cyfrif o'r gost ariannol, ac mae'n debyg nad oedd yn fawr iawn. Cymerodd y Tabernacl cyntaf bron i flwyddyn i'w adeiladu a chafodd ei agor ym mis Ionawr 1843. Levi Lawrence, gweinidog a oedd newydd ddod i Lantrisant, a gymerodd ofal o'r eglwys am y blynyddoedd nesaf hyd 1847.

 

Fu'r flwyddyn honno o adeiladu ddim heb ei phroblemau na'i chyfnodau dwys. Ar ôl codi'r waliau yn barod i roi'r to arnyn nhw, cododd storm enbyd a chwythwyd y pingwn nesaf i'r fynwent i'r llawr. Roedd bedd wedi ei agor yn ymyl i gladdu merch fach Bili'r Gof o Lanmyddlyn. Bu'n rhaid gohirio'r angladd am ddiwrnod neu ddau. Dyna'r cynhebrwng cyntaf i'r fynwent newydd.

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size