Sefydlu y Capel

Capel TaihirionErbyn 40au’r 19eg  ganrif, roedd pentref Efail Isaf wedi’i amgylchynu gan fwrlwm o weithgaredd mewn gwahanol gapeli Annibynnol, a sawl un ohonyn nhw’n efengylu’n egnïol yn yr ardal.  Ar un ochr roedd Capel Groeswen, Eglwysilan, a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd R. Tudur Jones fel “prif bwerdy ysbrydol y fro”.  Roedd dylanwad y capel yn fawr ar ardal eang, ac fe gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod gweinidogaeth Griffith Hughes yn hanner cyntaf y cyfnod rydym yn sôn amdano. Daeth capel Groeswen yn fam-eglwys i sawl achos dan yr Annibynwyr a’r Methodistiaid Calfinaidd yng nghyffiniau Llantrisant, Caerffili a chyrion Caerdydd.
 
I'r de o Efail Isaf roedd capel bywiog arall yn Rhydlafar, rhwng Pentyrch a Sain Ffagan.  Sefydlwyd eglwys Taihirion hithau rywdro yn 60au’r  18fed ganrif, ac er mai capel bychan iawn oedd hwn, cafodd ddylanwad sylweddol ar grefydd yn y fro. Roedd capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth eisoes wedi’i  sefydlu dan adain Taihirion ers 1831.

Dan anogaeth rhai o genhadon y ddau gapel hyn, dechreuodd criw o bobl ymgasglu at ei gilydd yn nhafarn y Carpenters yn Efail Isaf oddeutu’r 40au, a phenderfynwyd gwneud cais i eglwysi Taihirion a Gwaelod y Garth am gael capel yn Efail Isaf ei hun. Yn ôl R. Tudur Jones, y ddau brif ladmerydd oedd Philip Williams, un oedd newydd symud i fyw i’r pentref, a William Lewis, diacon yn Nhaihirion, yntau hefyd yn byw yn Efail Isaf. Cefnogwyd y cais yn frwd gan Lemuel Smith, gweinidog ifanc Taihirion a fu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd. Derbyniwyd rhodd o dir gan Thomas Philips, Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, ac agorwyd y Tabernacl yn swyddogol ym 1843. Yn 1991 traddodwyd darlith gan y Parchedig Ddoctor R Tudur Jones ar gefndir yr achos yn Efail Isaf. Gellir ei ddarllen yma >> Cefndir

Saif Capel Taihirion ger draffordd yr M4 yng Nghapel Llanilltern i'r gorllewn o Rhydlafar ar yr A4119. Adfeilion sydd yno erbyn hyn. Mae erthygl am Taihirion yn Garth Domain Rhif 24  >> Taihirion

 

 

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size