Agor y Ganolfan

Anerchiad Geraint Stanley Jones
wrth agor y Ganolfan, Tabernacl, Efail Isaf. 5 Medi 2010

TABERNACL, EFAIL ISAF

Diolch am 'Wres yr Efail' ac am y cyfle i brofi ychydig ohono unwaith eto.
Mae hi bron yn drigain mlynedd, ers i mi sefyll yn y fan hon, ar Fore Sul y Plant, yn adrodd ' Duw cariad yw' , a nhad yn gwgu arnai, am mod i heb ddysgu adnod newydd am yr ugeinfed tro.

Fe allai nhad ddweud, fel Emlyn Williams, wrth iddo gychwyn ei anerchiad lywyddol yn Steddfod y Rhyl, erstalwm. “Bachgen bach o Sir y Fflint ydwi” . Dyna oedd nhad, ac er iddo golli acenion y sir, fe fu dylanwadau Ffynnongroew a'r ardal yn gry arno trwy ei oes.

OND - 'Crwtyn o'r Efail ' ydwi. Cael fy ngeni ym Mhontypridd a'm magu yma yn yr Efail Isaf am y ddwy flynedd ar bymtheg cynta o'm hoes. A dwi'n eitha sicr fod dylanwadau'r blynyddoedd hynny, wedi bod yr un mor gry arna i, ag y bu Ffynnongroew ar nhad. Er holl grwydro'r blynyddoedd, yma mae' ngwreiddiau.

Fe lifodd cryn dipyn o ddŵr drwy nant fach y Dyffryn, ers i'r Dr Gareth Edwards a minnau ddal y trên, o orsaf Efail Isaf, ar ein ffordd i'r Brifysgol ym Mangor, a dwi'n hynod falch ei fod yma efo ni bore ma, gan fod y fangre hon mor bwysig yn ei hanes bersonol o ag ydio i mi. Mil naw pump tri oedd hi ac roedd y siwrne honno yn fwy tyngedfennol i mi na gadael am y coleg, gan fod nhad a mam ar fin symud i Dregwyr, a Thabernacl newydd yn eu hanes.

Minnau hefyd, felly, yn torri cysylltiad â chymdeithas oedd wedi bod yn gymaint rhan o'm magwraeth. Cymdeithas war, hynod ddiwylliedig, a aeth ati'n egniol i oresgyn pryderon ail rhyfel byd, a'i rwystrau, trwy weithgaredd unigol ac ar y cyd, gyda phenderfyniad llawen, ac mewn ysbryd gwir Gristnogol, o oddefgarwch a charedigrwydd.

Fel  teulu mawr o deuluoedd rydwi'n cofio'r Tabernacl yn y dyddiau hynny, - y Chubbs, y Rossers, y Curnows, Olivers, Rees, Rowlands, Humphreys, Davies, Jones, Morgan, Griffiths, Powell ac yn y blaen. Yn eitha treibal yn ei ffordd ond yn cyd dynnu i greu cymdeithas gadarnhaol, hwyliog.
Mi roedd yna weithgarwch diddiwedd yma yn y capel, bryd hynny hefyd, yn enwedig i fab y gweinidog, oedd ar alwad parhaol i gymryd rhan mewn rhywbeth neu i gilydd, a thu allan, mi roedd yna lot o sbort i ni blant. Mi roedd yr allotments, drws nesa i'r fynwent, a'r fynwent ei hun hefyd, yn llefydd da i chwarae cuddio a cowbois ag indians, er waetha ymdrechion gwarchodol y diweddar annwyl Tom Powell Ac i mi'n arbennig, yr oedd yard y stesion, (bellach wedi diflannu) drws nesa i lle ro ni'n byw, yn ysgogi'r dychymyg i greu pob math o sefyllfaoedd anhygoel, a breuddwydio am bellafoedd byd.

Cynhaeafu wedyn, gyda cheffylau, ar ffermydd Y Dryscoed, a Tŷ Newydd, a dilyn yr helfa fyddai'n ymgynnull wrth Y Carpenter's Arms.( Unwaith yn unig, cofiwch chi y bues i mewn yn y dafarn, a hynny i weld a chlywed Tom Bryant yn chwarae'r delyn. A hyd heddiw fedrai ddim camu dros y drws rhag ofn i nhad glywed!)

 

'Roedd peryglon rhyfel yn bell iawn i ffwrdd i ni blant yn Efail Isaf, gan ein bod ni'n teimlo mor ddiogel yn ein bydau bach ein hunain. Adeg, a lle, arbennig o dda, i feithrin creadigrwydd a dychymyg.

Ac ar ôl y rhyfel, y Carnifal a'i Fandiau Bazooka yn y cae gyferbyn a'r capel, a the partis llawn jelly a blankmange ar bob achlysur posib yn y Festri.
Ia'r festri, sy'n ganolbwynt i'r dathliadau heddiw. O gofio am gwrs y mywyd i, yn y byd darlledu, mae'n siŵr gen i mae yn y festri y cefais i flas am y tro cynta, ar y byd theatrig, a afaelodd ynof yn ddiweddarach. Dwi'n siŵr mae yn y fan honno y gwelais i ffilm am y tro cynta - sef y sinema deithiol, a ddeuai o gwmpas adeg rhyfel, yn gymysgedd o ffilmiau propaganda, a chomedïau di- sain Chaplin, Laurel and Hardy, ag ati.

Ond yn fwy pwysig wrth gwrs, oedd y cyfle i ddysgu sol-ffa, i ganu, i adrodd, a chymryd rhan yn nramâu yr anfarwol Bopa. 'Pwca'r Trwyn', 'Mrs Morgrugyn a Sioncyn y Gwair' a'r gweddill. Mae nhw i gyd gen i o hyd. A'r pasiant mawreddog hwnnw a grëwyd ganddi i ddathlu Steddfod Caerffili. Gareth yn Fardd Coronog a finnau'n sblenydd o Archdderwydd - ysywaeth, am yr unig dro yn ein hanes.

Ia Bopa - Margaret Rosser, Megan Illtyd, bach o gorff ond anferthol o fawr o egni, brwdfrydedd, penderfyniad, a thalentau. Ac, wrth gwrs, fel nhad, ar dan, mewn cyfnod digon llugoer, dros achos iaith a diwylliant. Ac wrth ei hochor bob amser Aunti Vi - Elvira Davies, oedd yn medru troi ei llaw at unryw offeryn allweddol, ac unryw fath o gerddoriaeth, heb feddwl ddwywaith.

Hi oedd meistres y 'crossover' rhwng piano'r dafarn a'r operetta, accordion y ddawns,  harmonium y capel a'r festri, mor ddi-lol â neb welais i erioed mewn hanner canrif o ddarlledu. Fe fyddai'r ddwy wedi bod yn gaffaeliad i S4C.

Wrth geisio dilyn hynt a helynt y Tabernacl a'r pentre dros y blynyddoedd mae'n amlwg fod ysbryd Bopa ag Anti Vi, yn dal yn fyw yn eich amryfal weithgareddau, crefyddol, cymdeithasol, a cherddorol, ac mae'n amlwg, o fod yn eich plith bore ma, fod y gwmnïaeth deuluol, a ddylanwadodd arna i a Gareth a'n cenhedlaeth ni, yn dal i fodoli.

'R oedd yma le amlwg i geffylau yn y dyddiau hynny. Doedd hi ddim yn beth rhyfedd, felly, i stabal gysurus gael ei adeiladu iddyn nhw dan y festri. Nag ychwaith o edrych nôl, mod i wedi mynnu treulio cymaint o oriau pleserus dros y blynyddoedd yn marchogaeth.

I feel, a little like Dr Who this morning. My time capsule has taken me back sixty and more years, to a place once so familiar, so changed, yet so the same. So much has happened in the interim years, and yet the link between my yesteryear in Efail Isaf, and especially its Tabernacl, and my being here this morning, is remarkably in tact. I've made a point over the years of trying hard, not to revisit old memories, in an attempt to encourage new experiences. But that does not mean airbrushing them away. If they have been worthwhile, they remain as part of who I am. Such is the connection between my yesterdays in this place, and my today in this spot. Being here is an extraordinarily happy experience, and to be opening a new chapter in the life of Chapel and Village is a great honour.

Y mae llwyddiannau'r Tabernacl sy'n dal i ddatblygu fel canolfan grefyddol, ddiwylliadol a chymdeithasol, mewn oes o ddymchwel Tabernaclau, yn rywbeth i'w ddathlu. Fe fyddai'n nhad am i mi ychwanegu- 'Annibynia ar ei orau'.

Diolch i chi i gyd.
Geraint Stanley Jones
(Traddodwyd yn y Tabernacl, Efail Isaf, Medi 5ed 2010)TABERNACL, EFAIL ISAF

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size