Adeiladu'r Ganolfan

TROI HEN FESTRI YN GANOLFAN GYMUNEDOL (Hydref 2009)
Bydd  cynllun uchelgeisiol gwerth £450,000 yn dechrau yr wythnos hon i adnewyddu’r hen festri sy’n perthyn i gapel y Tabernacl, Efail Isaf, ger Pontypridd. Caiff y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Y Loteri Genedlaethol a’r Cynulliad, a’r disgwyl yw y bydd y gwaith o ymestyn ac ailwampio’r adeilad i’w droi’n ganolfan gymunedol yn cymryd rhyw saith mis. Y bwriad yw addasu’r hen festri, a godwyd yn wreiddiol ddechrau’r ugeinfed ganrif, i fod yn ganolfan amlbwrpas at ddefnydd y capel a’r gymuned yn gyffredinol. Mae gan y Tabernacl ddwy gynulleidfa, y naill yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg a’r llall yn cynnal oedfaon Saesneg, ond bydd yr adeilad newydd ar gael at ddefnydd cylch llawer ehangach o bobl, o fewn y pentref ei hun a’r ardal o gwmpas.
   Dyfarnwyd grant o £300,000 gan Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol y Cynulliad, a £122,000 gan gronfa Pawb a’i Le, Y Loteri Genedlaethol.
   Dywedodd Emlyn Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, “Mae cyflwr gwael yr adeilad hwn wedi bod yn broblem ers peth amser, ac yn llyffethair i’r capel rhag medru bod mor effeithiol ag yr hoffem fod yn y gymuned. Mae dirfawr angen am adnodd o’r fath yn yr ardal, a bydd y ganolfan newydd yn sylfaen i’r Tabernacl fedru parhau i gefnogi elusennau lleol yn ariannol ac yn ymarferol, trwy fudiadau dyngarol amrywiol a thrwy’r cydweithio agos gyda’r gwasanaethau cymdeithasol.” Ymysg y grwpiau a fydd yn elwa o’r datblygiad mae’r clwb ieuenctid sy’n cyfarfod bob nos Sul.
   Ychwanegodd Wyn Jones, Ysgrifennydd y Tabernacl, y bydd y ganolfan yn gartref i nifer o fudiadau gan gynnwys y Cylch Meithrin. “Elfen bwysig arall o’r bwrlwm cymdeithasol yw bod y Tabernacl, dros y degawdau diwethaf, wedi bod yn ganolbwynt i amrywiaeth eang o weithgareddau Cymraeg eu hiaith, gyda gwahanol gorau a chymdeithasau yn arfer cyfarfod yn yr hen festri, ond llawer ohonynt wedi gorfod gadael oherwydd cyflwr y lle.”
   Enillwyd y tendr i gwblhau’r gwaith gan Neil Smith a’i gwmni.

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size