1970'au

Ceir darlun o sefyllfa Tabernacl yn ystod y 70'au gan Penri Jones, a oedd yn Ysgrifennydd y Capel o 1971 i 1975. Ysgrifennodd am y Tabernacl yn ei lyfr Capeli Cymru.

"Ar ddiwedd y '60au roedd aelodaeth y capel yn 40 a'r rhan fwyaf yn bensiynwyr. Ond daeth ychydig o deuluoedd newydd a chynhaliwyd ymgyrchoedd o dŷ i dŷ ... daeth pobl newydd, pan welsant cyn lleied oedd yn y gwasanaeth ni ddaeth y rhan fwyaf yn ôl, ond yn araf roedd newid yn digwydd."

Yn nechrau'r '70au roedd yr Ysgol Sul yn Saesneg ond gyda'r cynydd mewn galw am addysg Gymraeg roedd yn amlwg fod angen Ysgol Sul Cymraeg hefyd. Daeth hyn a chwyldro i fywyd y capel gyda aelodaeth yr ysgol Sul yn cyrraedd 80.

Ffurfiwyd Teulu Twm ar gyfer y bobl ifanc.

Cynyddodd aelodaeth y capel o 78 yn 1974 i 143 yn 1978.

ATGOFION PENRI JONES
(Allan o Capeli Cymru, Gwasg y Lolfa, 1983)
Cofiaf yn dda symud i fyw o Gaerdydd i Don-teg yn 1968 ac ar ôl clywed pregeth Saesneg yn un neu ddau o gapeli honedig Gymraeg y cylch, dyma fentro i'r Tabernacl un bore Sul, Nid oeddwn yn gwybod enw'r capel, pa enwad ydoedd na chwaith iaith y gwasanaethau. Holi gwraig yn y cyntedd a
chael yr esboniad yn nhafodiaith bersain Cwm Taf: 'Cwmra’g yw popeth yma hyd yn hyn.’
   Gwyrth oedd canfod cymdeithas o bobl yn byw ryw ychydig o filltiroedd o Gaerdydd ac yn siarad Cymraeg fel iaith naturiol yn y dafodiaith frodorol. Y frenhines yn eu mysg oedd Anti Fei, neu Elvira Davies, a fu'n cyfeilio ac yn hyrwyddo cerddoriaeth ymysg plant y Tabernacl ers cenedlaethau.
   Ar ddiwedd y chwedegau 40 oedd rhif aelodaeth yr eglwys a'r mwyafrif yn bensiynwyr. Hwy oedd y to olaf o Gymry Cymraeg yn y pentref. Saesneg erbyn hyn oedd iaith yr Ysgol Sul er bod rhai Cymry o'r Ysgol Gymraeg yno. Pur ddigalon oedd trwch yr aelodau ynglŷn â'r dyfodol, a bu cwrdd eglwys i ystyried newid y gwasanaethau i Saesneg, ond pleidleisiodd bron pawb yn erbyn hynny. Ymaelododd nifer fechan o deuluoedd newydd yn yr eglwys a dechreuwyd cynnal Ysgol Sul Gymraeg ar fore Sul.
   Gan fod y Cymry Cymraeg yn symud i'r ardal yn gyson a'r Ysgol Gymraeg yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn roedd cyfle gwych i gryfhau’r eglwys. Paratowyd pamffled at bwrpas cenhadu ac aethpwyd o gwmpas yr ardal yn gwahodd pobl i fynychu. Roedd y Parchedig Eirian Rees wedi ymsefydlu yn y pentref ac etholwyd ef yn weinidog. Deuai rhai i'r oedfaon a digalonni'n syth o weld dim ond rhyw ddwsin wedi dod ynghyd ar nos Sul ond arhosai ambell un ac yn araf daeth yn amlwg fod yr eglwys ar gynnydd.

 

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size