Wrth i'r capel barhau i dyfu bu rhaid edrych ar yr adeilad a'r adnoddau a phenderfynwyd ar nifer o welliannau
1980 - Atgyweiriwyd ac adeiladwyd estyniad ir Festri ar gost o £6,600.
1985 - Adnewyddwyd to y Capel, gosodwyd ffenestri newydd, tynnwyd allan y "Sêt fawr" a gosodwyd trawst newydd i gynnal y galeri.
1987 - Adeiladwyd wal newydd o gwmpas y fynwent a gwnaed gwelliannau pellach i'r festri ar gost o £11,000.
1989 - Gosodwyd toiledau newydd, yn costio £5,000.
1991 - Gosodwyd organ newydd, yn costio £6,000.