Corau

Rhywbeth dyfodd allan o fwrlwm Cymraeg yr ardal ar ddechrau'r saithdegau oedd Eisteddfod Gadeiriol Cylch Godre'r Garth. Roedd neuadd pentre Efail Isaf dan ei sang, a chystadlu brwd ar bob math o gystadlaethau, gan gynnwys cystadleuaeth y corau cymysg - 20. Côr (heb fod dan 15 mewn nifer): Huddersfield, Rhif 354 - Caniedydd.
    Bu tri côr yn cystadlu Côr Aelwyd Pontypridd, Côr Tonteg a Chôr Efail Isaf, a gymaint y brwdfrydedd ar y pryd nes i Wil Morus Jones a Penri Jones gael y syniad o ffurfio un côr o'r tri i gystadlu yn Eisteddfod Bro Myrddin ar ddechrau Awst 1974.
   Daeth 38 o aelodau i'r ymarfer cyntaf yng Nghapel y Tabernacl, Efail Isaf; ac o fewn tair wythnos roedd dros 70 o gantorion yn brysur ymarfer yr anthem Hosanna gan T.Hopkin Evans. O'r naw côr a fu'n cystadlu ar Gystadleuaeth y Corau Capeli a Gwledig, y côr newydd - Côr Godre'r Garth - a orfu, gyda 94 o farciau allan o 100 a'r dyfarniad disglair gan y beirniaid mai 'gwefreiddiol' oedd  safon eu perfformiad.

Gallwch ddarllen rhagor am lwyddiant Côr Godre'r Garth yma - Dathlu

 

Ymhen tair blynedd yn 1977 ffurfiwyd côr cerdd dant - Côr Merched y Garth a fu hefyd yn llwyddiannus iawn. Gallwch darllen eu hanes yma - Merched.

Ymhen rhai blynyddoedd penderfynodd y bechgyn eu bod nhw am ganu cerdd dant hefyd a ffurfiwd Parti'r Efail yn 1996.

 

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size