Cynnal yr Achos

Roedd cynulleidfa ffyddlon a swyddogion brwdfrydig yn cynnal yr achos yn ystod y 1950'au a'r 1960'au. Er fod y gynulleidfa yn dirywio yn araf penderfynwyd parhau i gynnal y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wneud yr hyn oedd yn bosib i'r adeiladau. Gwerthwyd adeilad Gwynfa yn 1966 gan ddod ac arian i barhau i gynnal yr achos yn y Tabernacl.

Yn 1968 penderfynodd aelodau Tabernacl a Bethlehem, Gwaelod y Garth i uno a'i gilydd mewn un fugeiliaeth. Ond ni benodwyd Gweinidog yr adeg honno.    

Yn 1969 roedd 59 o aelodau yn cynnal yr achos gan gynnwys o leiaf chwech o aelodau newydd.  

ATGOFION GERAINT ROBERTS
Daethom i fyw i’r Efail Isaf ym 1963. Roedd y Tabernacl yn eglwys annibynnol a thraddodiadol iawn. Roedd un oedfa Saesneg yn cael ei chynnal bob mis, ond er hynny mynnid canu emynau Cymraeg. Ar oedfa dda roedd 40 o bobl yn mynychu. Ond o fewn rhyw bum mlynedd roedd y gynulleidfa wedi gostwng i ryw bymtheg a hynny trwy farwolaethau. Roedd y ffyddloniaid yn sicr mai eglwys Gymraeg oedd y Tabernacl. Roedd afiaith ar y canu er bod y nifer yn fychan.
   Roedd yn gyfnod o anobaith ac o ofn gweld y drws yn cau. Roedd Gwynfa wedi ei werthu ac nid oedd modd defnyddio'r festri ac roedd y fynwent wedi ei gadael i dyfu'n wyllt. Methwyd yn aml â llenwi'r pulpud, ac ar aml i dro roedd safon y pregethu'n druenus o wael.
   Bu i ni fel teulu gael Byrdwn Gweddi ar ran y Tabernacl, gweddi am weinidog ifanc, un a allai ymroddi i waith cenhadol yn y cylch. Rhoddwyd y cyfan gerbron Un a fedrai ateb gweddi. Rhyfeddod un diwrnod oedd cyfarfod ag Eirian a'r teulu ar ochr y ffordd - hen ffrindiau i ni o ddyddiau llencyndod; rhyfeddod mwy oedd deall eu bod yn symud i fyw i'r pentre. Ai hwn oedd y person yr oeddwn wedi gweddïo amdano?

 

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size