I ateb y galw am wasanaethau ym Mhentre'r Eglwys cychwynnwyd Ysgol Sul yn Neuadd y Bedyddwyr Saesneg ar y Sul cyntaf yn 1907.
Penderfynwyd adeiladu festri yn Church Village, at wasanaeth yr Ysgol Sul. Costiodd yr adeilad ar Heol Sant Illtyd £600, ac fe’i hagorwyd ar Chwefror l6eg, 1910.
Cam pwysig yn y flwyddyn 1914 oedd cychwyn gwasanaeth cyson ar nos Sul yng Ngwynfa.
Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yng Ngwynfa ar 20 Hydref 1955.
Llun: Aelodau Gwynfa yn cynnal Cyngerdd yn 1923