Margaret Rosser

Roedd dylanwad Miss Margaret Rosser (1882 - 1967) ar y Capel, yr ardal a'r iaith Gymraeg yn sylweddol iawn.

Yn Llyfr y Canmlwyddiant cyfeirir ar Margaret Rosser yn y rhestr Organyddion :-
MARGARET J. ROSSER a ddewiswyd yn lle Mrs. Thomas yn 1902 , a hyd yma y mae yn glynu gyda'r gorchwyl. Gwnaeth waith mawr ac arhosol ym myd cerdd a llen yn y cylch. Mae wedi arwain y Gobeithlu am amser hir, ac yn parhau i wneud. Cododd Gôr Plant yn y lle, yr hwn a fu yn llwyddiannus iawn o dan ei harweiniad, pan dynnai am y dorch gyda chorau Caerdydd, Blaenrhondda a Nantyffyllon.
Yn 1918, wedi ennill yr Urdd Ofydd, derbyniwyd hi i gylch yr Orsedd, dan yr enw ‘Megan Illtyd’. Cvfansoddodd amryw ddramâu i blant yr Ysgolion Elfennol, a Gwerslyfrau dan nawdd yr Enwad, at wasanaeth yr Ysgol Sul. Yn y flwyddyn 1931, mwynhaodd y fraint o gael annerch Cyfarfod y Plant yn `Undeb' Aberteifi. Hi hefyd a enillodd y wobr am y Traethawd gorau ar `Hanes yr Eglwys' yn adeg gweinidogaeth y Parch E. B. Powell. Treuliodd ei hoes ym myd Addysg, ac ar hyn o bryd, hi ydyw Prifathrawes Ysgol y Gwindy, Caerffili.

Ceir crynodeb o'i hanes yn y llyfr Pontypridd Bro'r Eisteddfod

 

Ceir rhagor o wybodaeth am Margaret Rosser mewn dyfyniad o waith Dillwyn Lewis >> Margaret

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size