Wrth i'r to newydd o blant dyfu yn y capel gwelwyd yr angen am weithgareddau i bobl ifanc. Fe enwyd y criw ar ôl Twm, cath Eirian ac Ann Rees a ymunai â'r dyrnaid o bobl ifanc oedd yn cyfarfod bob nos Sul ar yr aelwyd yn Efail Isaf yn 1985.
Mewn cyfnod byr tyfodd Teulu Twm ac erbyn 1988 roedd dros 50 o bobl ifanc yn ymgynull yn Festri'r Tabernacl yn wythnosol.