John Taihirion Davies

Mae dylanwad y Parch John Taihirion Davies ar y capel a'r ardal yn enfawr. Bu'n weinidog am gyfnod o 55 mlynedd. 

Gymaint oedd gwerthfawrogiad a pharch ei gynulleidfa ato fe osodwyd cofeb tu ôl i'r pulpud yn y capel.

Dyma ran o'i Fywgraffiad o Lyfr y Canmlwydiant

JOHN TAIHIRION DAVIES. – Ganwyd ef yn y flwyddyn 1825, ym Mhlwyf Llangyfelach. Cafodd ei dderbyn yn bedair-ar-ddeg oed, gan y Parch. J. Davies, Mynyddbach. Dechreuodd bregethu dan weinidogaeth ei frawd Thomas Davies, yn Horeb, Treforus. Pan weithiau fel crwt yn un o weithiau tân Treforus, arferai y gweithwyr dalu `turn' iddo bob tro y byddai Cyfarfod Blynyddol yn y cylch, er mwyn iddo fynd yno i wrando y pregethau, a'u hail-adrodd wrth y gweithwyr drannoeth yn ystod yr awr ginio. Bu hyn yn gynhorthwy mawr iddo i ddatblygu ei gof, i ymarfer traddodi, a'i drwytho mewn athrawiaeth grefyddol.

Daeth i'r Efail Isaf yn ddyn ieuanc 26ain oed, yn llawn ynni a brwdfrydedd. Gwnaeth ei lety yn fferm Rhydlafar, ryw hanner milltir yn nes i gyfeiriad Caerdydd na Thai¬hirion. Yr oedd ganddo ddwy filldir i gerdded oddiyno i'r Bronllwyn, a phedair milltir i'r Efail Isaf. Wedi cychwyn achos Bronllwyn, pregethai yn y tair eglwys ambell Sul.

Rhoddodd i fyny Taihirion yn y flwyddyn 1893, ac aeth i fyw i Bentyrch, gerllaw Bronllwyn, lle bu nith iddo yn gofalu am ei dŷ am rai blynyddoedd. Priododd yn y flwyddyn 1895 â Miss Mary Walters, Y Faerdref, ac yn fuan wedi hyn, rhoddodd i fyny gofal eglwys Bronllwyn. Adeiladodd dŷ yn Church Village, ac yno yn “Huanfa" y bu fyw, nes iddo gael ei symud i'r Tŷ nad o waith llaw, "tragwyddol yn y Nefoedd."

Cymerodd ddiddordeb ymhob cylch o fywyd. Gwnaeth ei orau i ddyrchafu diwylliant a manteision addysg yn yr ardal. Ef ydoedd Cadeirydd yr hen "School Board", a bu yn flaenllaw ynglyn â'r gwaith o adeiladu ysgol i gwrdd â gofynion y cylch.

Mynych y gwelwyd ef ar lwyfan Politicaidd, a byddai ei arabedd a'i hiwmor bob amser, yn tynnu allan gymeradwyaeth y dyrfa yn un fanllef. Nid oedd un cyfarfod yng Nghyfundeb Dwyreiniol Morgannwg yn gyfiawn, os na fyddai `Davies, Taihirion' ynddo, ac yn cymeryd rhan. Adnabyddwyd ef am lawer blwyddyn fel "Esgob y Fro." Yr oedd Mr. Davies yn gasglwr dihafal, ac yn werthwr tocynnau heb ei debyg.

Fel pregethwr, byddai yn cael `yr awel' o'i du yn fynych. Wrth bregethu ar dro yn Aberystwyth, torrodd yn foliannu drwy yr holl le, a bu'n ddiwygiad yno am beth amser wedi iddo ymadael. Dro arall, cafodd oedfa debyg yng Nghroesoswallt, ac ymhen ychydig derbyniodd alwad daer oddiyno i'w bugeilio. O bosibl, mai hon oedd yr unig alwad a gafodd yn ystod ei weinidogaeth, ond teimlodd fod y cwlwm yn rhy dynn rhyngddo â'r Efail Isaf i'w derbyn. Yr oedd ei serch gymaint at Taihirion hefyd, er iddo roi yr eglwys honno i fyny yn y flwyddyn 1893, fel y mynnodd gael ei adnabod bellach fel John Taihirion Davies. Bu farw Medi 1904, wedi gwneud diwrnod da o waith, ac ni adawodd neb fwlch mwy ar ei ôl. Heddwch i'w lwch.

 

  

 

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size