FFORDD Y CAPEL, EFAIL ISAF,
PONTYPRIDD
CF38 1AP
Ysgrifennydd: Gwilym Huws gehpengwern@yahoo.co.uk 07710 237327
HANES YR ACHOS Llyfryn digidol, rhyngweithiol, ar gael YMA
Y DIWEDDARAF
Y newyddion diweddaraf a’r cyhoeddiadau ar gael yma:
Mae pob ôl-rifyn ar gael
yma.
Cliciwch
Archif Dolen y Tab
ARGYFWNG WCRÁIN
A ninnau i gyd wedi ein brawychu gan erchyllterau Pwtin yn Wcráin, bu cryn holi a dyfalu am y ffordd orau i helpu’r bobl yn y fath argyfwng, yn yr hir-dymor yn ogystal ag ar frys.
Penderfynwyd ein bod yn cefnogi apêl Cymorth Cristnogol, fel rhan o DEC, sef
UKRAINE CRISIS APPEAL – CHRISTIAN AID
Mae Cymorth Cristnogol bob amser yn gweithio gyda phartneriaid lleol ym mhob argyfwng, ac yn medru saernïo eu cymorth yn effeithiol, a ninnau wedi ymateb i argyfyngau drwyddyn nhw yn y gorffennol. Drwy anfon arian atyn nhw, fe wyddwn y bydd yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau a mwyaf effeithiol.
Gallwch wneud trosglwyddiad banc: Côd didoli: 30-96-72 Rhif cyfrif: 03607499 gan nodi Apêl Wcráin Cymorth Cristnogol
Gallwch anfon siec at Y Trysorydd: Arwyn Lloyd Jones Tŷ Newydd 39 Parc Bryn Derwen Llanharan Pontyclun CF72 9TU yn daladwy i Capel y Tabernacl Cyf gan nodi 'Apêl Wcráin Cymorth Cristnogol' ar gefn y siec. Gallwch roi cyfraniad mewn amlen yn y blwch casglu yn y cyntedd, gan nodi 'Apêl Wcráin Cymorth Cristnogol' DIOLCH YN FAWR Y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol
Mai 15 Sul Cymorth Cristnogol gyda John Llew, Eleri Mai, Y Twmiaid, Bethan Roberts ac Ann Davies
Mai 22 Y Parchedig Gethin Rhys a Lyn West
Mai 29 Geraint Rees
Meh 5 Dafydd Iwan a Helen Prosser
Meh 12 Y Parchedig Aled Edwards a Nia Williams
Meh 19 Glenys Roberts
Meh 26 Ann ac Emlyn Davies
Medrwch weld mwyafrif oedfaon rhithiol y 18 mis diwethaf drwy glicio ar y ddolen isod. Mae rhai oedfaon na fedrwn eu rhannu am na chafwyd caniatâd rhieni i ddangos eu plant neu am eu bod yn deillio o gyfrif Facebook preifat. I weld y rhestr, cliciwch YMA. Mae'r cyhoeddiadau wythnosol ar gael YMA
DOD YN AELOD
Beth am ddod yn aelod yn y capel yn ystod 2020? Mae’n bosib fod nifer ohonoch yn dod yn gyson ond heb ymaelodi eto.
Cliciwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth.
Am y Newyddion diweddaraf, cliciwch YMA
Cewch fanylion llawn am bob un o’r elusennau sy’n cael cefnogaeth yr eglwys wrth glicioYMA
Adroddiad Blynyddol 2018 YMA
Rydym yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg:
www.annibynwyr.org
Mae’r Tabernacl hefyd yn Eglwys Masnach Deg: