YR ACHOS

Mae taflen yn disgrifio bywyd yr eglwys ar gael YMA

Mae’r Tabernacl yn gymuned Gristnogol fywiog gydag addoli’n digwydd ar wahân drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg

Yn wahanol i’r patrwm yn genedlaethol, ’dyw’r aelodaeth ddim wedi gostwng; yn wir, mewn blynyddoedd diweddar mae wedi cynyddu, ac mae’n galonogol bod yna sbectrwm eang gyda llawer o deuluoedd ifanc yn mynychu. Mae’r  Ysgol Sul yn ffynnu, ac i’r bobl ifanc sydd wedi pasio oedran Ysgol Sul,  mae’r grŵp ieuenctid (Teulu Twm) yn cynnig profiad egnïol i’w hysgogi ac ar y funud mae yna tua 40 o arddegwyr yn mynychu.

Wrth gwrs, mae’r Tabernacl yn adnodd pwysig yn Efail Isaf yn enwedig gan nad oes mudiad crefyddol arall yn y pentref. Yn wir, ychydig o gapeli ac eglwysi sydd ar gael yn yr ardal o gwmpas, felly mae’n ganolbwynt, er enghraifft,  i seremonïau megis priodasau ac angladdau, achlysuron a ddeil yn arwyddocaol hyd yn oed o fewn amgylchedd sy’n seciwlar yn bennaf.  Yn yr un modd bydd ysgolion lleol yn ymweld â’r Tabernacl yn rheolaidd fel modd i gyfarwyddo’r plant â’u treftadaeth hanesyddol a chrefyddol.

Heb amheuaeth, mae’r Tabernacl yn gymuned Gristnogol weithredol a bywiog, sy’n cydnabod bod ganddi sawl swyddogaeth bwysig i’w chwarae yng nghyswllt ei haelodau ei hun a’r diriogaeth y tu hwnt i’w drysau.  Ar yr un pryd mae’n cydnabod na all sefyll yn yr unfan; yn wir yn ystod 2005 bu wrthi, dan arweiniad y gweinidog, yn  pwyso a mesur y modd y mae’n gweithredu ac mae canlyniadau’r gwerthusiad hwnnw wrthi’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd.