Teulu Twm

Fideo y Twmiaid

Dyma fideo diweddaraf y Twmiaid a ddangoswyd am y tro cyntaf yn y capel fore Sul, Chwefror 21ain, 2016.

 

 

Bu rhai o blant yr Ysgol Sul ar y rhaglen ‘Stwnsh’  fore Sadwrn, Tachwedd 22ain.  Dyma nhw ynghanol eu hwyl:

Plant y Tab ar Stwnsh

 
6 Tachwedd 2014

Y TWMIAID BACH YN NEWID Y BYD – FIDEO NEWYDD

Dyma fideo a ddangoswyd gan y Twmiaid Bach yn ein Gwasanaeth Diolchgarwch ym mis Hydref eleni (2014)

24 Hydref 2014

Plant yr Ysgol Sul ar Stwnsh

Stwnsh1Boom Plant

 

Plant yr Ysgol Sul yn gynulledifa ar Stwnsh Sadwrn Tachwedd 23ain 2013

23 Tachwedd 2013

Apêl Bobathon

TEULU TWM

Ddiwedd Mawrth eleni, ar benwythnos diflas o law oer, bu criw o bobl ifanc capel y Tabernacl yn  brwydro yn erbyn yr elfennau i gerdded, seiclo a nofio fel rhan o apêl Bobathon. Roedd yr arian nawdd a godwyd yn mynd tuag at Bobath yng Nghaerdydd – canolfan sydd yn rhoi therapi i blant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd (cerebral palsy).

xvxv  Roedd cyfanswm y pellter a deithiwyd yn cyfateb i’r daith rhwng canolfan Bobath yn Yr Eglwys Newydd, a chanolfan gyffelyb yn Glasgow, sef tua 450 o filltiroedd.  Ac er gwaetha’r tywydd gwlyb, llwyddwyd i godi dros £1,500 at yr achos da, ac fe gafwyd digonedd o hwyl yn y fargen.

CAMU DROS DLODI

Roedd y digwyddiad yn gwbl nodweddiadol o’r math o weithgaredd sy’n rhan o raglen Teulu Twm, y grŵp ar gyfer yr arddegwyr yn y Tabernacl. Bob blwyddyn, dewisir rhyw elusen i dderbyn nawdd dros benwythnos o ymdrech galed, a thros y blynyddoedd fe lwyddwyd i godi tua £25,000 i gyd i wahanol achosion da. Y llynedd, ymgyrch fawr Rhown Derfyn ar Dlodi a gafodd eu cefnogaeth, ac fe gerddwyd miliwn o gamau i gynrychioli’r miliwn o blant a fyddai’n marw o dlodi yn ystod mis Mawrth y flwyddyn honno. Ar fferm yr Amelia Trust ym Mro Morgannwg y bu’r ymdrechu bryd hynny,  a chodwyd dros £2,200 o bunnau i Apêl Camu dros Dlodi.

Bydd y criw yn cyfarfod yn y festri yn rheolaidd bob nos Sul i groesawu siaradwr gwadd neu ddilyn gweithgaredd mwy ymarferol. Yn ychwanegol at hynny, bydd gwahanol deithiau yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau rywbryd yn  yr haf. O dro i dro, fe fyddan nhw’n gyfrifol am yr oedfa yn y capel, ac fe all rhywun fod yn siŵr o wreiddioldeb a dychymyg bryd hynny.

28 Hydref 2011

Taith Mari Jones

Teulu Twm
Wnaeth Teulu Twm gwblhau taith noddedig Mari Jones penwythnos olaf Hydref 2010 – 28 milltir dros ddau diwrnod o Lanfihangel y Pennant i’r Bala. Fe fysai’r grwp yn ddiolchgar iawn am unryw gyfraniad i’r elusen, yr NSPCC

18 Tachwedd 2010

Tylwyth Teg

TYLWYTH TEG

Ddiwedd y llynedd, penderfynodd Teulu Twm sefydlu siop masnach deg, sef stondinau sy’n cael eu trefnu yn syth ar ôl yr oedfa unwaith y mis, dan yr enw Tylwyth Teg. Mae’r siop yn gwmni cydweithredol gafodd ei sefydlu fel rhan o gynllunYoung Cooperatives Traidcraft, ac aelodau Teulu Twm eu hunain sy’n rheoli ac yn berchen ar y cwmni. Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar gael ar www.youngcoopertaives.org.uk

Arweinyddion Teulu Twm yw Huw a Beth Roberts

 

Siop Teulu Twm

Siop Teulu Twm

Siop Teulu Twm

28 Hydref 2010