AILAGOR Y CAPEL
Medi’r 5ed
11.00 – 11.45
Oedfa Gymraeg
Bydd yr oedfa'n dechrau am 11:00
yn hytrach nag am 10.45
er mwyn gadael bwlch digonol
yn dilyn yr oedfa Saesneg.
I fynychu'r oedfa,
rhaid anfon
(e-bost, tecstio neu ffonio)
capelytabernacl@gmail.com
07710 237327 / 01443 225205
yn datgan eich bwriad.
Cyhoeddiad gan C21
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol C21 am 3:00p.m. ddydd Sul, Mehefin 27ain yng nghwmni’r pregethwr, y cerddor a’r awdur John Bell o Gymuned Iona yn yr Alban. Y teitl fydd Haleliwia am Heresi ac mae croeso i bawb ymuno. Rhaid cofrestru ymlaen llaw, a chyfyngir nifer y dyfeisiau a all ymuno i 100. Anfonwch neges cyn Mehefin 18fed at cristnogaeth21@gmail.com, a byddwch yn derbyn manylion sut i dalu’r tâl mynediad o £8 y ddyfais (drwy siec neu drosglwyddiad banc), a chewch ddolen ar gyfer ymuno â’r cyfarfod Zoom.
ANRHYDEDDU
Gyda balchder y clywsom fod Jason M. Edwards, Uchel Siryf Morgannwg Ganol, wedi dyfarnu tystysgrifau arbennig i’r capel ac i John Llewellyn Thomas yn bersonol am gyfraniad nodedig i’r gymuned yn ardal Pontypridd ynghanol y pandemig presennol. Gan nad oedd hi’n bosibl cyflwyno’r tystysgrifau gerbron y gynulleidfa gyfan, trefnwyd bod Mike ac Iwan West yn ymuno â John i dderbyn y tystysgrifau mewn seremoni breifat yn y capel.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth i’r gwahanol ymgyrchoedd sydd yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod anodd hwn, a llongyfarchiadau mawr i John, gyda ddiolch iddo am ein hysgogi a’n hysbrydoli.
CYHOEDDIADAU PWYSIG:
Diolch yn fawr iawn i chi i gyd, yn aelodau a chyfeillion y Tabernacl, am eich cyfraniadau hael at gasgliad Cronfa Llifogydd Rhondda Cynon Taf. Bydd siec gwerth £2,100 yn cael ei hanfon, swm anrhydeddus fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r ymdrechion i helpu pobl yr ardal ddioddefodd yn ystod y stormydd.
Mae’r casgliad at Fanc Bwyd Taf Elái hefyd yn tystio i’ch haelioni dihysbydd. Os na chawsoch gyfle eto, mae modd cyfrannu drwy siec neu drosglwyddiad banc tan benwythnos y Pasg.
Bydd yr apêl yn cau ddydd Mawrth Ebrill 14eg.
Anfonwch sieciau at Arwyn Jones, ein trysorydd, yn daladwy i
Capel y Tabernacl Cyf, gyda nodyn yn enwi’r Banc Bwyd.
Dyma ei gyfeiriad:
Mr Arwyn Lloyd Jones, Tŷ Newydd, 39 Parc Bryn Derwen, Llanharan, Pontyclun, CF72 9TU
Neu medrwch wneud trosglwyddiad banc i:
Côd didoli: 30-96-72 Rhif cyfrif: 03607499
a chofiwch gynnwys eich enw a nodi Banc Bwyd.
GWASANAETH DANFON BWYD
Cliciwch YMA i weld pa gwmnïau lleol sy’n cynnig gwsanaeth danfon bwyd i gwsmeriaid sy’n hunan-ynysu.
Y BANC BWYD
Gan na fedrwn gasglu bwyd yn y capel na chynorthwyo gyda’r casgliad blynyddol yn Tesco, rydym yn trefnu casgliad ariannol arbennig ar gyfer y Banc Bwyd. Mae’n braf iawn medru cyhoeddi bod cannoedd o bunnoedd wedi cyrraedd ein Trysorydd, a’r gobaith yw anfon siec sylweddol iawn at y Banc Bwyd cyn gynted ag sy’n bosib fel bod modd i’w trefnwyr brynu’r bwyd sydd ei angen. Diolch o galon i bawb sydd eisoes wedi cyfrannu’n hael unwaith yn rhagor, a hynny mor fuan wedi apêl y llifogydd. Os ydych eto i gyfrannu, gallwch wneud hynny trwy anfon siec at Arwyn Jones, ein trysorydd, yn daladwy i Capel y Tabernacl Cyf, gyda nodyn yn enwi’r Banc Bwyd. Dyma ei gyfeiriad:
Mr Arwyn Lloyd Jones,
Tŷ Newydd,
39 Parc Bryn Derwen,
Llanharan,
Pontyclun CF72 9TU
Neu medrwch wneud trosglwyddiad banc i:
Côd didoli 30-96-72 Rhif cyfrif 03607499. Cofiwch gynnwys eich enw a nodi Banc Bwyd.
Y TREFNIADAU BUGEILIOL
Yn wyneb cyhoeddiad diweddaraf y llywodraeth ar yr argyfwng yr ydym i gyd yn ei wynebu yn sgil y coronafeirws, mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn eu doethineb wedi penderfynu cau’r Tabernacl a’r Ganolfan i bob gweithgarwch. Felly ni chynhelir oedfaon nac Ysgol Sul am y tro. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa yn rheolaidd dros y misoedd nesaf ac yn gobeithio medru ailymgynnull unwaith y bydd yr amgylchiadau wedi gwella. Yn y cyfamser, hyderwn y byddwn yn cefnogi ein cyd-aelodau ac aelodau’r gymuned ehangach i wrthsefyll yr haint orau gallwn ni. Ceir rhagor o fanylion sut y medrwn gynorthwyo ein gilydd isod . . .
GWASANAETH GOFAL
Os ydych angen help neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, yna mae croeso i chi gysylltu â Geraint Wyn (02920 890501 / geraintdavies888@btinternet.com) neu Lowri Roberts (01443 228196 neu 07812 089870/ lowri@glancreigiau.plus.com).
GWASANAETH DANFON BWYD
Cliciwch YMA i weld pa gwmnïau lleol sy’n cynnig gwsanaeth danfon bwyd i gwsmeriaid sy’n hunan-ynysu.
CASGLIAD AT DDIFROD Y LLIFOGYDD
LLIFOGYDD: APÊL Y TABERNACL
Brawychwyd ni i gyd gan ymchwydd storm Dennis a sut y difrododd fywydau pobl yn ein hardal ni, a phawb yn pendroni sut i helpu. Gwyddom fod llawer ohonoch wedi cyfrannu’n ymarferol yn barod.
Mae John Llew wedi ymchwilio’n fanwl i’r sefyllfa ac yn deall bod y ddarpariaeth yn ddigonol ar hyn o bryd, ond y bydd pobl angen cefnogaeth ariannol maes o law.
Gyda hyn mewn golwg, a phob hyder yn eich haelioni dihysbydd, rydyn ni fel Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol yn eich gwahodd i gyfrannu mewn amlen wedi’i labelu “Llifogydd” drwy gasgliad yn ein hoedfaon dros yr wythnosau nesaf, er mwyn i ni fod o gymorth i’r bobl sy’n ceisio ail-afael yn eu bywydau.
Bydd John yn sicrhau bod ein rhoddion yn cyrraedd cronfa swyddogol gydnabyddedig fydd yn trin yr arian yn y ffordd decaf bosib.
Byddwn hefyd yn ystyried ffyrdd eraill o helpu ac yn croesawu unrhyw awgrymiadau o’ch eiddo.
johnllewt@hotmail.comann.pentyrch@btinternet.com
Cewch fwy o fanylion gan John yn yr oedfa fore Sul Chwefror 23ain.
CASGLIAD ADREF
Yn dilyn y newyddion annisgwyl na fydd Adref yn gyfrifol am hosteli pobl ddigartref RhCT yn y dyfodol, ac er mawr syndod i Paul a’i dîm o wirfoddolwyr ac i ninnau yn y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol, bydd siopau Adref yn cau, ac felly ni fyddwn bellach yn casglu dillad a nwyddau ar eu cyfer.
Cewch fwy o fanylion am gasgliadau yn y dyfodol ar ôl cyfarfod mis Mawrth y Gweithgor.
Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth hael dros y blynyddoedd.
NEWYDDION ARALL
CASGLIAD BANC BWYD TAF ELÁI
Diolch yn fawr i’r criw selog lwyddodd i helpu gyda’r casgliad eleni, ynghanol tywydd diflas, a hynny ar fyr rybudd. Bu’n dda i ni fod yno, gan fod ein hangen i chwyddo’r rhengoedd, yn wahanol i droeon diweddar.
TALEBAU NADOLIG
Unwaith eto eleni, bu’r casgliad yn llwyddiant rhyfeddol, sy’n golygu y bydd rhai o bobl ifanc yr ardal sy’n gadael gofal yn medru siopa ar gyfer y Nadolig yng nghwmni eu gweithwyr cymdeithasol, ac yn cael cyfle i brofi rhywfaint o lawenydd yr Ŵyl. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd.
Croesawu Ymwelwyr
Bnawn Mawrth 5 Mehefin, croesawyd criw hawddgar o Gristnogion o Fadagasgar i’r Ganolfan i fwynhau cinio a baratowyd ar eu cyfer gan aelodau o Ferched y Tabernacl dan arweiniad Ros Evans. Roedd y criw wedi teithio i Gymru er mwyn chwarae rhan yn nathliadau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i gofnodi daucanmlwyddiant glaniad y ddau genhadwr cyntaf, sef David Jones a Thomas Bevan, a’u teuluoedd ym Madagasgar yn 1818. Fel rhan o’r daith ymwelsant â nifer o gapeli a sefydliadau eraill yn ne Cymru.

Cyfeillion Madagasgar
Bu eu hymweliad â’r Tabernacl yn un hynod lwyddiannus. Wedi iddynt fwynhau eu cinio a chael eu tywys o amgylch y capel, roeddynt yn awyddus iawn i ddiolch i’r eglwys am y croeso trwy ganu emyn i’r rhai fu’n gweini arnynt.
Diddorol oedd deall ganddynt bod yna gapeli ym Madagasgar hyd heddiw a godwyd gyda’r arian a gasglwyd at y genhadaeth gan genedlaethau o blant Ysgolion Sul Cymru, a bod dros bum miliwn o drigolion Madasgasgar yn medru olrhain eu heglwysi ffyniannus i’r cenhadon a deithiodd yno ddau can mlynedd yn ôl.