HANES YR ACHOS
CYFLWYNIAD:
Mae’n siŵr bod Capel y Tabernacl, Efail Isaf yn un o’r addoldai mwyaf adnabyddus yng Nghymru gyfan. Eto, mae’n deg dweud nad oes dim yn anarferol o brydferth ynddo, a go brin y gellid dadlau bod yna werth hanesyddol o bwys mawr yn perthyn i’r adeilad ychwaith. Y rheswm ei fod mor adnabyddus yw mai dyma’r capel sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson yn yr opera sebon Pobol y Cwm ar S4C, ac o ganlyniad daeth yn gyfarwydd iawn i wylwyr y gyfres honno.
Ond nid dyna ryfeddod mwyaf y Tabernacl. Yr hyn sy’n gwneud y capel yn anarferol yw ei hanes diweddar. Mae hon yn stori galonogol o gynnydd a llwyddiant, y llanw wedi’r trai a’r hyder newydd mewn trefn o rannu dyletswyddau a chydweithio rhwng yr aelodau i ateb her yr oes bresennol. Rydym yn wirioneddol ffodus i fedru dweud bod yr aelodaeth yn gryfach heddiw nag y bu erioed, yn agos i 200, o bob oed, gyda dros 100 o blant a phobl ifanc dan 18 oed hefyd ar y llyfrau. Teuluoedd ifanc sy’n gyfrifol am y cynnydd diweddar ac mae’r Ysgol Sul yn fywiog tu hwnt, a’r plant yn gyfrifol am yr oedfa deuluol unwaith bob mis. Erbyn heddiw, mae’r sesiwn nos Sul i bobl ifanc, sef Teulu Twm, yn enwog drwy Gymru gyfan am eu gweithgaredd elusennol. Rhwng y cyfan, mae yma fwrlwm a chyffro, ac rydym yn credu’n gryf mewn estyn llaw i’r gymdeithas o’n cwmpas.
Dros y blynyddoedd, rydym fel capel wedi elwa’n fawr o’r mewnfudiad i gyffiniau Caerdydd gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru. I’r rheiny oedd yn dymuno ymgartrefu ar gyrion y brifddinas yn hytrach nag yn ei chanol, daeth yr ardal hon yn dynfa naturiol. Yma yn Efail Isaf y sefydlwyd Côr Godre’r Garth, Côr Merched y Garth a Pharti’r Efail, ac er nad yw aelodau’r corau i gyd yn aelodau yn y Tabernacl, mae’r ymlyniad i’r capel yn deyrngar mewn cyngherddau gweddol gyson.
I’r sawl nad yw’n gyfarwydd â’r ardal hon, fe saif pentref Efail Isaf rhyw 9 milltir i’r gogledd o ganol dinas Caerdydd wrth droed gogleddol Mynydd y Garth, nid nepell o Bontypridd. Pentref bach amaethyddol oedd hwn yn wreiddiol ond tyfodd yn sgil y datblygiadau diwydiannol yn y 19eg ganrif. Am ryw reswm, fe ymddengys fod Efail Isaf wedi cadw’i gymeriad pentrefol a gwledig yn fwy na sawl lle arall yn yr ardal, ac fe ddiogelwyd yr iaith hithau hyd yn oed cyn y mewnlifiad o Gymry Cymraeg, gyda’r capel hwn yn galon i’r gweithgareddau Cymraeg.
OLRHAIN YR HANES:
Erbyn 40au’r 19eg ganrif, roedd pentref Efail Isaf wedi’i amgylchynu gan fwrlwm o weithgaredd mewn gwahanol gapeli Annibynnol, a sawl un ohonyn nhw’n efengylu’n egnïol yn yr ardal. Ar un ochr roedd Capel Groeswen, Eglwysilan, a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd R. Tudur Jones fel “prif bwerdy ysbrydol y fro”. Roedd dylanwad y capel yn fawr ar ardal eang, ac fe gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod gweinidogaeth Griffith Hughes yn hanner cyntaf y cyfnod rydym yn sôn amdano. Daeth capel Groeswen yn fam-eglwys i sawl achos dan yr Annibynwyr a’r Methodistiaid Calfinaidd yng nghyffiniau Llantrisant, Caerffili a chyrion Caerdydd.
I’r de o Efail Isaf roedd capel bywiog arall yn Rhydlafar, rhwng Pentyrch a Sain Ffagan. Sefydlwyd eglwys Taihirion hithau rywdro yn 60au’r 18fed ganrif, ac er mai capel bychan iawn oedd hwn, cafodd ddylanwad sylweddol ar grefydd yn y fro. Roedd capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth eisoes wedi’i sefydlu dan adain Taihirion ers 1831.
Dan anogaeth rhai o genhadon y ddau gapel hyn, dechreuodd criw o bobl ymgasglu at ei gilydd yn nhafarn y Carpenters yn Efail Isaf oddeutu’r 40au, a phenderfynwyd gwneud cais i eglwysi Taihirion a Gwaelod y Garth am gael capel yn Efail Isaf ei hun. Yn ôl R. Tudur Jones, y ddau brif ladmerydd oedd Philip Williams, un oedd newydd symud i fyw i’r pentref, a William Lewis, diacon yn Nhaihirion, yntau hefyd yn byw yn Efail Isaf. Cefnogwyd y cais yn frwd gan Lemuel Smith, gweinidog ifanc Taihirion a fu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd. Derbyniwyd rhodd o dir gan Thomas Philips, Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, ac agorwyd y Tabernacl yn swyddogol ym 1843.
Erbyn 1871 roedd angen adeilad newydd, ac fe ehangwyd ar hwnnw hefyd yn 1912. Ar wahân i’r capel ei hun, roedd yna festri fechan, a stablau oddi tani i gadw ceffylau’r gynulleidfa.
Ym 1851, rhoddwyd galwad i’r Parchg John Davies o Dreforus i ddod yn weinidog ar eglwysi Taihirion a’r Tabernacl, ac fe arhosodd yn Efail Isaf hyd ddiwedd ei oes yn 1904. Yn fuan iawn wedi cyrraedd, bu’n allweddol yn sefydlu achos arall ym Mhentyrch, sef Bronllwyn, ac ar y pryd roedd yn weinidog ar y tair eglwys. Rhoes y gorau i’r ofalaeth yn Nhaihirion ar ôl 42 o flynyddoedd, a bu hynny’n ergyd farwol i’r fam-eglwys, wrth iddi Seisnigo ac edwino’n gyflym. Ymddeolodd o gapel Bronllwyn, Pentyrch cyn diwedd ei yrfa hefyd, ac er mai yn yr Efail Isaf y treuliodd y rhan fwyaf o’i oes, fel “John Taihirion” y byddai pawb yn cyfeirio ato.
Yr oedd John Taihirion Davies yn berson dylanwadol a deinamig, yn bersonoliaeth gref ac yn bregethwr poblogaidd a huawdl. Cyfeirid ato’n aml fel “Esgob y Fro” oherwydd ei ofal, ei bregethu a’i wleidydda.
Wedi ei farw, codwyd cofeb farmor iddo yn y Tabernacl, a’i rhoi mewn lle canolog y tu ôl i’r pulpud. Mae’r arysgrif yn cynnwys y dyfyniad canlynol:
“Dyn o gymeriad pur, cymwynasgar, aiddgar o blaid dirwest, addysg ac yn neillduol y Genhadaeth dramor; a sefydliadau ei enwad a’i wlad; pregethwr hylithr, bugail gofalus, a Gweinidog da i Iesu Grist.”
PENTREF EFAIL ISAF
Tabernacl yw’r unig addol-dŷ ym mhentref Efail Isaf hyd y dydd heddiw. Pan y’i codwyd, pentref bach cysglyd iawn oedd hwn, gyda phoblogaeth o tua 500, casgliad o fythynnod glowyr, ychydig dyddynod, gorsaf rheilffordd a thafarn. Ond fe ddaeth ffrwydrad yn y boblogaeth, ac roedd y Cyfrifiad diwethaf yn dangos poblogaeth o dros 2,000 o breswylwyr. Eto, dyw’r cynnydd yma ddim wedi bod mor ddramatig ag yn rhai o’r pentrefi cyfagos megis Llanilltud Faerdref, Pentre’r Eglwys, Tonteg, Pentyrch, Creigiau a’r Groesfaen. Daw cynulleidfa’r Tabernacl o’r pentrefi hyn i gyd, a’r aelodau’n hannu o bob cwr o Gymru, ac wedi eu magu mewn sawl enwad gwahanol.
Yn ystod chwedegau’r ganrif ddiwethaf codwyd neuadd bentref yn Efail Isaf, gyferbyn â’r capel ar Heol y Ffynnon. Braf yw medru dweud bod y Neuadd a’r Tabernacl yn cydweithio’n ardderchog, yn gwbl gymharus eu darpariaeth ac yn wir mae’r cynnydd parhaus yn nhwf poblogaeth y pentref yn dangos yn eglur bod angen y ddau leoliad i ddarparu ar gyfer y cyhoedd. Bydd y capel ei hun yn gwneud defnydd o’r Neuadd bob bore Sul, gan nad yw ein festri ni yn ddigon mawr i gynnwys ein plant i gyd.
Fel y soniwyd eisoes, cadwodd y pentref ei gymeriad Cymraeg a Chymreig am flynyddoedd lawer, a does dim dwywaith nad oedd y capel yn gymorth mawr i hynny. Fel ym mhob capel, bu yma genedlaethau o arweinwyr a chymwynaswyr disglair, a hwythau’n bobl oedd yn gefn i’r bywyd Cymraeg mewn talcen caled ym Mlaenau Morgannwg am flynyddoedd lawer. Bu’r Parchg. D. Stanley Jones yn weinidog yma am flynyddoedd, ac roedd bri mawr ar y côr plant oedd yn perthyn i’r capel. Ond maes o law, fe adawodd y dylanwadau estron eu hôl, ac fe ddechreuodd yr achos ddirywio yn y Tabernacl.
Ar ddiwedd y chwedegau, dim ond 40 o aelodau oedd yma, a’r rhan fwyaf o’r rheiny yn bensiynwyr. Saesneg oedd iaith yr Ysgol Sul, ac fe ystyriwyd troi’r oedfaon yn Saesneg. Ond yna, fe gyrhaeddodd gwaed newydd, egni ffres, a brwdfrydedd heintus. Wrth i’r ysgolion Cymraeg gael eu sefydlu yn y fro, denwyd mwy a mwy o Gymry Cymraeg i ymsefydlu yn y cylch, a dechreuwyd cenhadu o’r newydd. Dyrchafwyd y Parchg. D. Eirian Rees yn weinidog gyda chefnogaeth werthfawr pobl fel Edward Morris-Jones a Penri Jones, ac yn raddol daeth tro ar fyd. Ochr yn ochr â’r bywyd newydd yn y capel ei hun, daeth Efail Isaf yn ganolbwynt i nifer o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Sefydlwyd eisteddfod, ac er fod honno wedi hen ddiflannu, mae Côr Godre’r Garth yn rhywbeth a dyfodd ohoni. Yn ddiweddarach daeth Côr Merched y Garth a Pharti’r Efail, a’r tri grŵp yn ymarfer yn rheolaidd yn y pentref, naill ai yn y neuadd neu yn festri’r capel. Mae côr plant y capel hefyd yn parhau i ffynnu. Nos Sul y Blodau 2006, bu côr cymysg lleol arall, Cantorion Creigiau, yn perfformio “Olivet to Calvary” gan Maunder yn y capel. Mae’r Tabernacl ar gael ar gyfer pob math o gynulliadau cymdeithasol eraill ac yn cael ei ddefnyddio felly gan y gymuned leol. Yn eu tro, bu’r ysgol feithrin leol, grŵp Ti a Fi a gwahanol ddosbarthiadau nos yn defnyddio’r festri’n gyson.