Mae gennym Ganolfan aml-bwrpas ardderchog sy’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf. Wyddech chi bod modd llogi’r Ganolfan ar gyfer pob math o weithgareddau?
Mae’n Ganolfan boblogaidd sy’n cynnig amgylchedd deniadol, cyfoes, am bris rhesymol ar gyfer gweithgreddau grwpiau bychain.
Beth am gysylltu i drafod beth allwn ni ei gynnig?
Os hoffech chi logi’r Ganolfan neu adeilad y capel ar gyfer unrhyw achlysur, cysylltwch â
Geraint Rees, 07816 341527 geraintrees@hotmail.com
Caroline Rees 07539 452130 carolinerees2@hotmail.com
Mae’r daflen hon yn rhoi’r manylion diweddaraf am yr hyn sydd ar gael.
Y Ganolfan
Mae’r hen festri wedi cael ei ehangu ac addasu i fod yn neuadd gymunedol aml-bwrpas. Mae’n cynnwys neuadd sy’n dal hyd at 70 o bobl a lolfa gellir ei rannu’n ddwy ystafell a chegin. Mae pedwar cyfrifiadur yn y lolfa gyda chysylltiad rhyngrwyd ac mae sgriniau teledu ar gael ar gyfer cyflwyniadau.
Agorwyd y Ganolfan gan Dr Geraint Stanley Jones C.B.E. dydd Sul, 5 Medi 2010. Bu’n wythnos o ddathlu yn y capel gyda cinio yn dilyn yr agoriad ac arddangosfa arbennig o hanes y capel a’r ardal yn y Ganolfan newydd. I gloi’r dathlu cynhaliwyd Gymanfa Ganu ar brynhawn Sul 12 Medi.
Gellir gweld lluniau o’ r broses o adeiladu’r Ganolfan yma >> Adeiladu
Gellir gweld paneli’r arddangosfa yma >> Arddangosfa
Cyhoeddwyd llyfr arbennig ‘Gwres yr Efail’ yn olrhain hanes y capel a’r datblygiadau ers 1970.