Mae gennym Ysgol Sul lewyrchus a bywiog yn y Tabernacl, gyda dros 60 o blant ar y llyfrau. Ar y trydydd Sul ym mhob mis, nhw fydd yn gyfrifol am yr Oedfa Deulu trwy ddarllen, ledio emynau, gweddïo a chanu ambell i gân. Fel arfer, bydd arweinydd y gwasanaeth o blith yr oedolion yn gwneud cyflwyniad i’r plant, a bu’r cyfan yn llwyddiant ysgubol hyd yn hyn.
Mae gennym dîm brwdfrydig o rieni – mamau gan fwyaf, sy’n cydlynu gwersi’r gwahanol ddosbarthiadau, yn hyfforddi’r corau ac yn trefnu gweithgareddau y tu allan i furiau’r capel.