Y Rhai a Gollwyd

Ar Sul y Cofio 2018, a ninnau’n nodi canrif union ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, rhoddwyd sylw teilwng i’r pump o fechgyn ifanc sy’n cael eu cofio ar y cofebau yn nhu blaen y capel. Hefyd, buom yn ddigon ffodus i gael cwmni’r Prifardd Aled Gwyn i draddodi myfyrdod yn seiliedig ar rai o gerddi Waldo Williams, ac roedd pawb yn hynod werthfawrogol o’i sylwadau cyfoethog a diddorol. Yng ngeiriau Aled, “Er mor ddyrys ac arswydus yw mater rhyfel, braint i fi oedd cael ceisio dweud gair dros y llwybr amgen. Fel dwedodd Waldo – ‘Gobaith fo’n meistr, rhoed amser i ni’n was.’

Rydym yn ddyledus i Geraint Rees am ei waith ymchwil yn casglu’r wybodaeth am y bechgyn a gollwyd o’r capel, ac roedd yntau’n cydnabod ei fod wedi elwa o waith cynharach a wnaed gan rai o staff y Ganolfan Gydol Oes, Gartholwg.

Ychwanegwyd at y profiad dyrchafol yn yr oedfa gan y straeon dirdynnol a basiwyd ymlaen gan Emlyn Penny Jones, fel y gwelwn isod.  Diolch i bob un ohonynt am eu gwaith.

Yr enw cyntaf ar y cofebau yw  enw’r 2il Is-gapten Wilfred Brynmor Williams, o’r Gatrawd Cymreig, a laddwyd ar y 5ed o Orffennaf 1916, ac yntau’n 30 oed. Ganwyd a magwyd  Brynmor yn Llanillltud Faerdref.

Roedd ei dad, Lewis Williams yn bennaeth ar yr Ysgol Sirol yn Llanilltud Faerdref am 36 o flynyddoedd o 1876,  yn aelod o Gyngor y Plwyf ac yn Rhyddfrydwr adnabyddus iawn. Roedd ganddo ef a’i wraig Ann bum merch a phedwar  mab – Brynmor oedd yr ieuengaf o’r bechgyn.

Cartref y teulu oedd Trewernen, ac roeddent yn aelodau yng Nghapel Methodisitaidd Calfinaidd Bethesda – er, mae’n debyg fod Brynmor yn dod draw i’r Tabernacl yn Efail Isaf hefyd – mae’n bosib am fod ganddo famgu/tadcu oedd yn dod i’r Tabernacl.

A hynny sydd i gyfrif ei fod ar ein cofeb ni.

Trewernen

 

Rhwng 1898 a 1904 bu Brynmor yn mynychu Ysgol Ganolradd Pontypridd, lle bu’n llwyddiannus yn academaidd ac yn boblogaidd iawn gyda’i gyd-ddisgyblion, ac yn 1904 ymunodd â Choleg Prifysgol Cymru, Caerdydd, a graddiodd yn y fan honno.

 

Arweiniodd hyn at swydd fel athro yn Evesham, Lloegr cyn iddo adael Prydain am swydd gyffrous iawn yn dysgu Lladin a Saesneg yn Sefydliad Raffles, Singapore. Roedd yn ieithydd galluog a dysgodd siarad Malay yn rhugl o fewn blwyddyn.

Dychwelodd Brynmor o Singapore er mwyn ymuno â’r fyddin ym mis Gorffennaf 1915 ac fe’i danfonwyd i’r Ffrynt Orllewinol gyda’r Rheng Gymreig. 

Ar y 5ed o Orffennaf 1916 teithiodd y bataliwn tuag at Carnoy ar bumed diwrnod Brwydr y Somme. Danfonwyd grŵp o swyddogion i archwilio’r safleodd gerllaw. Yn anffodus, sylwodd yr Almaenwyr ar y grŵp yn cerdded ar hyd llwybr, a dechreuon nhw eu bomio. Bu farw dau ohonynt o’u clwyfau gan gynnwys yr ail is-gapten Brynmor Williams, a fu unwaith yn blentyn yn ysgol Sul y Tabernacl.

Wedi lladd Brynmor fe dorrodd ei dad, Lewis Williams, ei galon.  Bu’n dost am gyfnod hir wedi hyn, ac ni ddaeth byth dros farwolaeth ei fab Brynmor, gan farw o’i salwch. Claddwyd Brynmor ym mynwent Dantzig Alley.

Brwydr y Somme

Parhodd Brwydr y Somme am chwe mis, o Orffennaf y cyntaf 1916. 

Ar y diwrnod cyntaf, cafodd bron i 60,000 o filwyr Prydain anafiadau difrifol.  

Bu bron i 20,000 farw ar y diwrnod hwnnw.

Yn ystod y cyfnod o chwe mis, anafwyd neu lladdwyd  tua 500,000 o filwyr Prydeinig a 600,000 o Almaenwyr.

 

 

 

Ymddangosodd yr adroddiad isod ym mhapur newydd y Cambrian ar farwolaeth Lewis Williams, tad Brynmor.

Trwy gyd-ddigwyddiad, daeth un o aelodau’r Tabernacl o hyd i fedd Brynmor Williams yn Ffrainc. Dyma stori Emlyn Penny Jones:

“Wrth ymweld â Mynwent Dantzig Alley, heb fod ymhell iawn o Mametz Wood, fe ddois ar draws bedd Wilfred Brynmor Williams, ac fe nodir yn y llyfr gwybodaeth yn y fynwent ei fod yn fab i Lewis ac Ann Williams o ‘Trewemen’, Llantwit Vardre. Wyddwn i ddim beth oedd y cyfeiriad cywir – Trewernen, mae’n debyg.”

Mynwent Danzig Alley a’r cofnod yn y llyfr

Bedd W. Brynmor Williams

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae gan Emlyn Penny Jones ragor o straeon diddorol am ei deulu ei hun:

“Roeddwn eisiau darganfod ym mha ardal roedd Taid wedi bod, a gwyddwn i ffrind agos iddo o bentref Llandwrog Uchaf farw yn ei freichiau. Fe’i clywodd o’n gweiddi o’r ‘shell-hole’ nesaf ato: “Dei! Maen nhw wedi nghael i!” Bu farw J. Thomas Humphreys yn 1917 a bu’n gysur mawr i’w fam fod fy nhaid efo fo yn ei funudau olaf. Fe ddois o hyd i’r bedd ym mynwent y dref yn Peronne. Bu taid ei hun yn lwcus, oherwydd fe’i saethwyd yn ei frest , ond fe ataliwyd y fwled gan y Testament Newydd roedd yn gadw ym mhoced ei frest. Mae ôl y bwled ar y gornel ac wedi llosgi rhywfaint o’r tudalennau olaf. Rhoddwyd copi o’r Testament Nwydd i aelodau’r Gatrawd Gymreig.

Testament taid Emlyn Penny Jones

Mae ôl y bwled yn amlwg ar yr ymyl

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Daeth fy nhaid, Owen John Penny adre’n saff, ond wedi’i glwyfo tipyn, a dw i’n cofio’r olion erchyll (shell splints) ar ei goesau a’i freichiau, ac anaml iawn y byddai’n torchi’i lewys, er mwyn cuddio’r creithiau.” 

Yr ail o blant y capel i farw oedd Charles Rees. 

 Gunner Charles Rees, Royal Garrison Artillery. 
Lladdwyd yn syth ar Awst 26 ain 1917 yn 22 oed.

Ganwyd Charles yn 1895,  yn fab i löwr o’r enw Lewis Rees, a’i wraig Mary Anne Lewis yr Hendre, Efail Isaf – tŷ yn agos i gapel y Tabernacl. Yn 1901 roedd ganddynt 6 o blant, 3 merch a 3 mab – a Charles oedd yr ieuengaf.   Roedden nhw’n byw yn agos  i’r Goodfellows, a’r Gymraeg oedd iaith y ddau deulu.  Roedd y plant yn aelodau o ysgol Sul y Tabernacl.

David Rees, y Trengholwr/Crwner ac ysgrifennydd y capel, oedd wncwl Charles.   Roedd  e hefyd yn frawd yng nghyfraith i Brynmor Williams. O fewn blwyddyn roedd David Rees wedi colli ei nai a’i frawd yng nghyfraith yn y rhyfel.   

Cyn y rhyfel fe weithiodd Charles fel clerc yn swyddfa waith Pontypridd, ac wedyn cafodd ddyrchafiad i fynd i weithio yng Nghaerdydd.   Gwirfoddolodd reit ar ddechrau’r rhyfel, ar yr un pryd a  Nicholas Goodfellow, y bachgen drws nesaf – mae’n debyg yr aeth y ddau gyda’i gilydd i gofrestru. 

Yn 1916 fe ymunodd Charles gyda’r gunners, oedd yn defnyddio peiriannau mawr i ymladd yn Ffrainc yn erbyn yr Almaenwyr.  Yn aml roedd y gynnau mawr yn cael eu lleoli ar reilffyrdd bychan dros dro, ac roedd y saethwr yn eistedd tu ôl i’r ddryll ac yn gallu symud lan a lawr trac weddol fyr – galwyd nhw’n ‘sitting targets’.

Mae’n debyg ei fod yn cael ei ystyried yn ddyn dewr iawn gan ei gyd-filwyr, a rhoddwyd iddo yr enw ‘Iron Welshman’.    Bu’n brwydro am 15 mis cyn cael ei ladd ar ddiwedd Awst 1917. 

Mae Charles Rees wedi ei gladdu ym mynwent Huts, Ypres, Gwlad Belg.

Wyth wythnos, a dim ond cwpwl o filltiroedd o’r man y lladdwyd  Charles Rees, bu farw

        2il Is-gapten Thomas William Lewis, 29 oed
             Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Bu farw o’i anafiadau: 27/10/1917, Passchendaele

Mab Roderick a Mary Ann Lewis Maesglas, Efail Isaf oedd Thomas. Ym 1901 roedd ganddo 4 chwaer ac 1 brawd a roedd y teulu’n aelodau yn y Tabernacl.  Y diwethaf o’i deulu i gael perthynas gyda’r capel oedd Beti James (a John James).  Magwyd ef yn Maesglas ar Heol y Ffynnon (rhwng y siop a pont y rheilffordd)

Ar ddechrau’r rhyfel roedd yn gadet yng Nghorfflu Hyfforddi‘r Swyddogion. Ymunodd Thomas Lewis â’r Bataliwn cyntaf o’r Ffiwsilwyr Cymreig a chomisiynwyd ef fel ail is-gapten ar yr 28ain o Fawrth 1917.

Erbyn y 15fed o Fehefin roedd Thomas wedi cyrraedd Coedwig Longeast ble roedd y Bataliwn yn derbyn hyfforddiant ac yn gorffwys.   Fe anafwyd Thomas yn ddifrifol gan fwled.  

Mae’n debyg iddo gael ei drin am rai misoedd, ac erbyn mis Hydref fe alwyd arno unwaith eto i fynd nôl i ymladd. 

Dyddiadur Cyd-Swyddog:

“Yn ystod y dyddiau cyn ei farwolaeth ym mis Hydref, 
fe newidiodd swyddogion Prydain eu gorchmynion i’w milwyr
ifanc.  Collwyd nifer o ddynion, ac erbyn y 26ain 
o Hydref galwyd ar y Bataliwn wrth gefn i ymosod ar 
bentref Gheluveldt  ger Ypres. Dechreuodd yr ymosodiad 
jyst ar ôl hanner awr wedi pump yn y bore.  
27ain o Hydref :   
“Llawer o saethu yn ystod y dydd ar y ddwy ochr gyda
llawer o fomio. Atgyfnerthwyd y llinell.  
Colledion – swyddogion bu farw o anafiadau 2il is-gapten
I. Rees cwmni ‘A’ a’r 2il is- gapten T. W. Lewis 
cwmni ‘D’
Anafiadau – 2il is-gapten J. Evans cwmni ‘D’
Milwyr eraill – lladdwyd 2, anafwyd 10, ar goll 3, 
sâl 1 Atgyfnerthion – DIM”

 

Claddwyd Thomas Lewis ym mynwent Hooge Crater ger Ypres

Y pedwerydd o fechgyn y capel i farw oedd Emrys Jones.  Ef fu farw bellaf o’i gartref. 

Preifat Peter Emrys Jones, y Gatrawd Gymreig:Meirchfilwyr Penfro a Morgannwg

Lladdwyd: 1af o Ragfyr 1917

 

Cafodd Emrys Jones ei eni yn Ystradyfodwg, rhwng Gilfach Goch a Phenybont ar Ogwr  ac erbyn  dechrau’r rhyfel,  roedd yn byw yn Llanilltyd Faerdref ac yn mynychu’r Tabernacl. Ymunodd â’r fyddin ym Mhenybont ar Ogwr.  Roedd yn aelod o’r Meirchfilwyr, sef  milwyr oedd yn defnyddio ceffylau.  

Anfonwyd y bataliwn i Balesteina i ymladd yn erbyn y Twrciaid, a buont yn cymryd rhan yn nhrydedd brwydr Gaza gerllaw Beersheba yn Hydref 1917. Parhaodd y brwydro yma tan y 6ed o Dachwedd.

Symudodd y ffocws wedyn yn agosach at atal y Twrciaid rhag concro Jerwsalem.    Bu’r brwydro yn waedlyd iawn, gyda’r milwyr yn ymladd dros un pentref ar y tro.   Lladdwyd Emrys yn ystod yr ymosodiad ar bentref El Tire ar y 1af o Ragfyr.  

 

Yn y frwydr am y pentref hwnnw, bu farw 250 o’i gyd-filwyr Prydeinig. Nid yw lleoliad ei fedd yn hysbys felly mae ei enw yn ymddangos ar Gofeb Rhyfel Jerwsalem. 

Roedd cadw’r Moslemiaid Twrcaidd allan o Jerwsalem yn bwysig i’r Ymerodraeth Brydeinig. Ddyddiau ar ôl marwolaeth Emrys, dywedodd Lloyd George fod ennill Brwydr Jerwsalem yn “a Christmas present for the British people”. Trist gwybod ein bod yn dal i fyw gyda phroblemau eu hoes hwythau. 

Gyrrwr William Nicholas Goodfellow

Marw: 30 o Fedi 1918 yn 26 oed

Y diwethaf i farw yn y rhyfel, mis yn unig o ddiwedd y rhyfel oedd Nicholas Goodfellow.  Magwyd ef drws nesaf i’r Tŷ Capel.   

Roedd yn fab i John Goodfellow, saer maen o Ddyfnaint a’i wraig Annie (Williams, gynt) o Bentyrch. Roedd ganddo chwaer o’r enw Lizzie, bum mlynedd yn hŷn nag ef.   Roedd y teulu cyfan yn mynychu’r Tabernacl a holl aelodau’r teulu yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg.  Aeth Nicholas a Charles Rees, ei gymydog, i Bontypridd i wirfoddoli i fynd i’r rhyfel ar yr un diwrnod.

 

 

Anfonwyd Nicholas a’i frigâd i Gallipoli, yn Nhwrci, a hynny ym 1915, cyn symud ymlaen i’r Aifft a Phalesteina. Byddai wedi bod yn ymladd mewn llefydd yr oedd wedi clywed amdanyn nhw yn yr ysgol Sul.   Wedyn ym mis Mawrth 1918, fisoedd yn unig cyn diwedd y rhyfel, fe alwyd arno i gynorthwyo ar y Ffrynt Orllewinol yn Ffrainc.   

 

Roeddent ynghlwm â’r brwydro o amgylch tref Cambrai yng Ngogledd Ffrainc – ddim ymhell i lawr y draffordd wedi i chi adael Calais.   Dim ond am bedwar diwrnod y Parhaodd y frwydr ar ddiwedd Medi 1918, ond lladdwyd Nicholas wrth frwydro a chladdwyd ef ym mynwent Brydeinig Flesquieres.

O fewn mis i farwolaeth Nicholas Goodfellow, roedd y rhyfel drosodd a phlwyf Llanilltud Faerdref wedi colli 38 o ddynion ifanc, 5 ohonyn nhw yn blant y Tabernacl.

Os hoffech chi ddarllen rhagor am Lewis Williams, tad Brynmor Williams, hoffem eich atgoffa bod yna eisoes adran amdano mewn lle arall ar y wefan hon, sef yn yr hanes lleol. Pwyswch YMA i ddarllen ei hanes ac yna medrwch ddarllen fersiwn ddigidol o ran gyntaf ei nofel hanesyddol, Mallt o’r Dyffryn drwy bwyso YMA.