Y Tabernacl Heddiw

Y Tabernacl Heddiw 

Pa fath o gapel yw’r Tabernacl felly?

Capel hwyliog, cynnes a chroesawgar sy’n rhoi lle amlwg i blant

a theuluoedd ifanc.

Cynhelir oedfa Saesneg am 9.30 yn y bore, a’r oedfa Gymraeg yn dilyn am 11.00. Bydd yr Ysgol Sul Gymraeg yn cyfarfod yr un pryd, a’r sesiwn i’r bobl ifanc  yn digwydd am 5.00 pm. DSCF6101  Rydym wedi bod trwy gyfnod o newid mawr yn ddiweddar gyda’r aelodau yn cymryd llawer mwy o gyfrifoldeb am y gwasnaethau o Sul i Sul.

Mae’r Tabernacl yn rhan o grŵp ehangach o eglwysi o dan yr enw Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ond i bob pwrpas rydym yn eglwys gydweithredol.  Yn gyfreithiol, rydym yn gwmni elusennol gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr, a’r aelodau’n cynrychioli’r gwahanol elfennau o fewn yr eglwys.  Ein bwriad yw ceisio rhoi lle i bawb o blith y gynulleidfa allu cynnig arweiniad. Mae gennym grwpiau gwahanol sy’n gofalu am yr adeiladau, yr oedfaon, diogelu plant ac oedolion bregus, y wefan a nifer o bethau eraill.

DSCF6107Gweinidog

Er nad oes gweinidog amser-llawn, cyflogedig, wedi bod yn y Tabernacl ers degawdau, rydym yn ffodus i gael gwasanaeth y Parchg. D. Eirian Rees fel gweinidog anrhydeddus, ond mae’r oedfaon a’r sacramentau i gyd yng ngofal yr aelodau erbyn hyn.

Dros beth ydym ni’n sefyll?

Does dim rhestr o gredoau gyda ni, ond mae’r aelodau wedi cytuno ar y datganiad canlynol: “Rydym yn gymuned o unigolion sydd wedi cyfamodi i barchu gwahaniaethau ac wedi ymrwymo yn wirfoddol i geisio tyfu gyda’n gilydd mewn dealltwriaeth a gallu i ymarfer dysgeidiaeth ac ysbryd Iesu.”

Ymestyn i’r Gymuned

Rydym hefyd yn canolbwyntio ar  wahanol weithgareddau cymdeithasol a dyngarol drwy’r canlynol:

Y Gweithgor  Cyfiawnder Cymdeithasol

* casglu i’r banc bwyd lleol

* cynnal apêl Cymorth Cristnogol yn yr ardal a chefnogi’r gwaith drwy’r flwyddyn

* cyfrannu at rota i gefnogi bwydo’r di-gartref yng Nghaerdydd

*  ymateb i ofynion brys yn y gymdogaeth fel casglu dillad ac offer tŷ i deuluoedd anghenus

* cynlluniau cymunedol yn Lesotho

* cefnogi elusennau eraill yn lleol ac yn rhyngwladol.

Y Gofalwyr Ardal

Mae gan bob pentref unigolion allweddol sy’n cydlynu gofal dros deuluoedd ac unigolion pan fo’r angen yn codi.

Gwaith Ieuenctid ac Ysgol Sul

Mae nifer fawr o blant yn rhan o fywyd yr eglwys, a dros y deugain mlynedd diwethaf cynhaliwyd gwaith ieuenctid cyson hefyd.  Mae ysbryd cymdeithasol da ymysg rhieni’r ysgol Sul.

Merched y Tab

Bydd grŵp gwragedd/merched y capel yn cwrdd fel criw cymdeithasol a diwylliannol yn gyson, ac yn codi arian at elusennau lleol.

Cylch Cadwgan

Mae’r Capel yn un o bartneriaid Cylch Cadwgan sy’n cefnogi gweithgareddau llenyddol yn lleol.

Cymdeithasu

Cynhelir nosweithiau cymdeithasol yn achlysurol drwy’r flwyddyn.