Hanes Cynnar

Y dystiolaeth archeolegol gynharaf yn yr ardal yw'r Gromlech yn Caer yr Arfau, Creigiau. Mae'n dangos fod pobl Neolithic wedi ymgartrefu yn yr ardal tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl, tua 1,500 o flynyddoedd cyn cyfnod Côr y Cewri.

Cliriwyd y coedwigoedd yn yr ardal ar gyfer ffermio a magu anifeiliaid gan deuluoedd y rhai a gladdwyd yn y Tomenni Crwn ar ben y Garth 4000 o flynyddoedd yn ôl.

I reoli'r ardal adeiladwyd Caer yn ystod yr Oes Haearn tua 2500 o flynyddoedd yn ôl ar y bryn uwchben Hendresguthan i'r de o Efail Isaf.   

 

 

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size