Ffermydd

Cliriwyd coedwigoedd yr ardal ar gyfer amaethu a chadw anifeiliad gan deuluoedd y rhai a gladdwyd yn y Tomeni Crwn ar ben Mynydd y Garth dros 4000 o flynyddoedd yn ôl. Yna bu’r ardal o dan ddylanwad y Celtiaid a lluoedd arfog Rhufain.  

Gellir olrhain perchnogaeth nifer o ffermydd yr ardal i deulu Hywel ap Meredith, Arglwydd Cymreig olaf Meisgyn. Fe’i orchfygwyd gan Richard de Clare yn 1246. Ond roedd yr Arglwyddi Cymreig yn parhau i gadw eu tir ar yr amod eu bod yn cydweithio gyda’r Normanaid.

Prif ffermydd yr ardal oedd Garth Fawr, Maes Mawr, Celyn, Dyffryn, Dyhewyd, Bryn Menyn, Ystrad Berwg a Hendresguthan. Mae rhai o’r adeiladau cynnar yn dyddio o’r 16 a 17 ganrif.   

Roedd y felin hefyd yn chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ardal.

 

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size