Mae'r gwythiennau glo yn dod i'r brig yn ardal Efail Isaf ac felly roedd yr ardal hon ymhlith yr ardaloedd cyntaf i'w gweithio. Doedd dim angen tyllu yn ddwfn ond roedd y tir yn wlyb iawn a'r amgylchiadau yn anodd. Wrth adeiladu'r ffordd osgoi newydd gwelwyd olion rhai o'r pyllau cynharaf yn Nant Celyn a Bryn Menyn ac Ystrad Barwig.
Roedd Edward Llwyd yn ysgrifennu yn 1699 am y gweithfeydd glo yng Nghastellau a Rhiw Saeson ac roedd llawer iawn o weithfeydd glo ym mhlwyf Llanilltud Faerdref. Roeddynt yn lofeydd bach ar gyfer cynhesu tai, bragu cwrw a llosgi calch at ddibenion amaethyddol. Meddai Ficer Llantrisant wrth Edward Llwyd “Coal works have been and are diged up in severall place, those that are viz, Mase mawr & bryn y menin.” Hefyd mewn ateb i Edward Llwyd dywedodd Charles Jevans o Dyffryn Dowlais “Coale works very numerous in most gorunds in the parish. Att Bryner menin is a fine coale that burns bright & yet is lasting to wch. being mixt with the coale dugg at Cystelle makes a godd bright & a lasting fire tryed by my self this sumer, but Brynne menin of itself is not soe lasting but affords a bright fire. Coale likewise at maes mawr & maes bach.”
Erbyn 1793 roedd perchnogion gwaith haearn Pentyrch yn prynu lês ar y glofeydd yn Dihewyd a Thir yr Eglwys.
Thomas Powell, a oedd yn datblygu glofeydd yng Nghwm Cynon a ‘r Rhondda, oedd yn berchen ar lofa Llantwit yn 1845. Agorodd pedwar pwll, dau yn Dihewyd, yna Ystradberwig (ger tafarn y Ship) ac yna Tynynant.
Hefyd agorwyd pyllau gan berchnogion eraill yn yr 1860’au - Corporation Land Colliery, Llantwit Wallsend Colliery, Gelynog Llantwit Colliery a Llantwit Mine Colliery a agorwyd gan David Jones yn 1855.
Aeth y glofeydd i drafferthion yn ystod dirwasgiad canol yr 1870’au.
Roedd glofeydd i’r de o Efail Isaf yn Tynycoed a Craig Gwilym ac i’r dwyrain ar Fferm y Gedrys a Maes Mawr.