Un o adeiladau hynaf y pentref yw'r Carpenter's Arms. Bu'n fan cyfarfod i sefydlu Capel Tabernacl ac yn fwrlwm o fywyd diwylliannol yr ardal.
Roedd Gwaun hirion yn yn rhan o Ffrwd Phillip. Yn 1671 disgrifiwyd yr ardal yn ‘Tair gwayne hir alias gweynydd hirion and the forge’, y cyfeiriad cyntaf i’r pentref fel Efail.
Bwthyn Gweunydd Hirion safai ar y gornel pan symudodd teulu’r Bryant yno tua 1820. Ond erbyn cyfrifiad 1841 roedd Daniel Bryant yn cadw tafarn y Carpenters Arms yno.
Mae hanes y teulu Bryant yng nghlwm â'r dafarn am dros ganrif a'r enwocaf ohonynt, Tom Bryant, wedi derbyn clod rhyngwladol.