Tom Bryant

Mae hanes y teulu Bryant yng nghlwm â thafarn y Carpenter's Arms am dros ganrif. Mae'r enwocaf ohonynt, Tom Bryant, wedi derbyn clod rhyngwladol.

BRYANT , TOM ( 1882 - 1946 ), telynor ; g. 22 Gorff. 1882 yn y Carpenter's Arms , Efail Isaf , ger Pontypridd , Morgannwg . Yr oedd John Bryant ( Bywg. , 50) yn ewythr iddo, ac ef a'i dysgodd i ganu'r delyn . Dechreuodd yn ieuanc gystadlu ac ennill gwobrwyon mewn eisteddfodau . Enillodd y wobr gyntaf yn yr eisteddfod genedlaethol 1891-1896 . Ymwelodd ag ardaloedd y deheudir gyda ‘ Watcyn Wyn ’ ac ‘ Eos Morlais ’; darlithiai  Watcyn Wyn  ar ganeuon gwerin, a chenid gan  Eos Morlais  i gyfeiliant y delyn gan Tom Bryant . Yn 1906 enillodd radd A.R.C.M. ; yr un flwyddyn, ar achlysur agor doc newydd yng Nghaerdydd gan y brenin Edward VII , gwahoddwyd ef i ganu'r delyn i'w Fawrhydi . Ymwelodd â phrif drefi Prydain i gynnal cyngherddau gyda'r ‘ Golden Quartette ’. Cyfansoddodd ddarnau i'r delyn , ac amrywion ar yr alawon ‘ Merch y Felin ’ a ‘ Merch Megan ’. Bu f. 13 Ion. 1946 , a chladdwyd ef ym mynwent Tabernacl , Efail Isaf , ger Pontypridd .
O'r Bywgraffiadur Ar-Lein y Llyfrgell Genedlaethol

 

 

Mae hanes y Teulu Bryant wedi ei gofnodi mewn rhifyn o'r Garth Domain > Bryant

 

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size