Archif Awdur: Golygydd

Ar Drywydd Waldo

Ddydd Sul, Tachwedd 10fed, 2013, a hithau’n Sul y Cofio, trefnwyd taith undydd i fro Waldo i ymweld â rhai o’r lleoliadau pwysig yn hanes y bardd a’r heddychwr, Waldo Williams. Mentrodd tua 35 ohonom i gyd dan arweiniad Eirian Rees, a mawr oedd y cyffro o sylweddoli ein bod i gael ein cludo ym mws moethus Tîm Cymru o garej Edwards.

DSCF4680DSCF4695

 

Yn groes i’r rhagolygon, roedd y tywydd yn ddymunol a’r “wybren las” yn amlwg wrth inni nesáu at y Preselau. Yr alwad gyntaf oedd Capel Blaenconin, Llandysilio, lle cafwyd sgwrs hynod ddifyr gan yr hanesydd lleol Hefin Wyn am rai o gymeriadau’r ardal. Cawsom ein tywys wedyn i weld bedd Waldo, a gwrando ar y gweinidog, y Parchg. Huw M. George, yn adrodd y stori ryfedd am gladdu Waldo mewn un bedd, ond ei goffau ar garreg fedd arall, gyfagos.

DSCF4682 DSCF4683

 

Clywsom hefyd am y cynlluniau cyffrous i droi’r capel yn ganolfan berfformio gymunedol, sefydlu Canolfan Waldo yn y maes parcio a throi’r festri’n ddau fwthyn. Rydym yn ddiolchgar dros ben i gyfeillion Blaenconin am eu croeso cynnes ac am rannu’r fath frwdfrydedd gyda ni.

DSCF4691DSCF4690

Ymlaen â ni wedyn i gyfeiriad Crymych, a ninnau erbyn hyn wedi hen gynefino â moethusrwydd y bws, ond yn gorfod derbyn bod pris i’w dalu am y seddi lledr a’r byrddau cyfleus, gan ei fod yn rhy fawr i fynd â ni i gomin Rhos-fach at y garreg las sy’n coffau Waldo. Ond fe gafwyd sgwrs afiaethus, llawn gwybodaeth ddiddorol am yr ardal, gan Cerwyn Davies, cadeirydd Cymdeithas Waldo. Arweiniodd ni i gapel Bethel, Mynachlog-ddu, lle y cawsom y fraint o ymuno â’r gynulleidfa mewn gwasanaeth cynnes, pwrpasol, dan arweiniad y Parchg. Eirian Wyn Lewis. Ac wedi’r oedfa, rhaid oedd crwydro’r fynwent i gael cip ar fedd yr enwog Twm Carnabwth.

DSCF4694DSCF4692

Capel Cana, ger Bancyfelin, oedd yr alwad nesaf, i glywed am Lyfr Gwyn Caerfyrddin gan y Parchg. Beti Wyn James – ac wedi clywed ei hanes, roedd pawb yn fwy na pharod i’w arwyddo, a’r plant yn ein plith yn hoff iawn o’r syniad o’r Llyfr Gwyn Bach. Annog heddwch yn y byd yw bwriad y Llyfr Gwyn, a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad maes o law. Ymhlith y rhai sydd wedi ei lofnodi y mae’r Archesgob Desmond Tutu (gweler isod) ac mae englyn grymus gan Mererid Hopwood ar y clawr allanol.

DSCF4713DSCF4699

DSCF4702DSCF4705

 

DSCF4711 (2)

Llofnod yr Archesgob Desmond Tutu

DSCF4707

Englyn y Prifardd Mererid Hopwood

Roedd un lleoliad arall cyn troi tua thre, a’r Tanerdy yng Nghaerfyrddin oedd hwnnw, lle y cafwyd sgwrs felys a phryd blasus. Rydym yn ddyledus iawn i Eirian am drefnu’r cyfan, ac i’r Parchedig Aled Edwards am wasnaethu yn y Tabernacl ar gyfer y rhai hynny oedd yn methu dod ar y daith.