Archif Awdur: Golygydd

Cerddoriaeth Curiad Calon

♬ Cerddoriaeth
Curiad Calon 
 

Cyngerdd Tri Chôr

Côr Godre’r Garth / Côr yr Einion / Parti’r Efail

 Elw tuag at  

Apêl Diffibriliwr

Pentref Efail Isaf  

7yh Nos Sul 19eg Mawrth 2017

Capel y Tabernacl, Efail Isaf

Tocynnau £7 (Consesiynau £5)

Rhagor o fanylion i ddilyn

Newyddion Da – Rheolwr Safle

Newyddion Da – Rheolwr Safle

Ers diwedd yr haf, mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr wedi bod yn hysbysebu am olynydd i Ann Dixey, a fydd yn ymddeol ddiwedd Rhagfyr.

Mae’n braf felly medru cyhoeddi ein bod bellach wedi llenwi’r swydd. O 1 Ionawr 2017 bydd Ioan Rees yn gweithredu fel Gofalwr y Safle, ac mae Caroline a Geraint Rees wedi cytuno’n garedig iawn i ofalu am y dyletswyddau gweinyddol megis derbyn ‘bookings’. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth megis y manylion cyswllt cyn diwedd Rhagfyr.

Ar ran yr eglwys mae’r Bwrdd am longyfarch Ioan a diolch iddo am ei barodrwydd i ymgymryd â’r dyletswyddau pwysig hyn. Dymunwn yn dda iddo yn y swydd.

ON Daw cyfle ym mis Ionawr i’r eglwys ddiolch i Ann Dixey am ei gwasanaeth gwerthfawr hi dros gyfnod o naw mlynedd a dymuno’n dda iddi ar ei hymddeoliad.

 

 

ELUSENNAU 2016:

ELUSENNAU 2016:

Dyma pwy fydd yn elwa o arian yr amlenni brown eleni

1. Mae New Horizons Mental Health Resource Centre, Aberdâr yn gweithredu ystod o ganolfannau yn cynnig adnoddau ac yn estyn llaw i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac emosiynol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r Ganolfan yn hybu delwedd bositif ac yn herio gwahaniaethu ar sail iechyd drwy gyfrwng addysg, gweithio yn y gymuned, rhannu gwybodaeth, a chynnig cefnogaeth, ac yn cynnal prosiect arbennig i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed.

2. Nid dyma’r tro cyntaf i ni gefnogi Prosiect Gofalwyr Ifanc Rh.C.T. ac mae’n fraint cael gwneud hynny eto. Mae’r prosiect yn ceisio adfer ychydig o’u plentyndod i blant sy wedi gorfod tyfu i fyny yn llawer rhy gyflym oherwydd anawsterau teuluol sy’n eu gorfodi i ofalu am riant methedig neu wael ei iechyd.

Darperir cefnogaeth un i un, gweithgareddau grŵp a chysylltu â gweithgareddau cymunedol, gweithdai ac egwyl preswyl, er mwyn lleddfu ychydig ar faich ysgwyddau ifanc, a dod â rywfaint o normalrwydd plentyndod i’w bywydau.

3.  Mae hi’n flwyddyn ers i’r Samariaid, sy’n elusen gyfarwydd i bawb, lansio eu prosiect peilot yng Nghymoedd y De. Er eu bod ar gael i bawb sydd eu hangen ar ben arall y ffôn, maen nhw’n credu’n gryf mewn presenoldeb yn y gymuned er mwyn adnabod amgylchiadau cymdeithasol sy’n peri gofid ac anobaith i unigolion. Mae’r prosiect hwn yn arwyddocaol iddyn nhw am fod y gyfradd o ddynion sy’n cyflawni hunanladdiad yng Nghymru ar ei huchaf ers 1981. Mae’n bwysig iawn bod y prosiect newydd hwn yn cael cefnogaeth ariannol.

4.  Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae mwy o blant a phobl ifanc angen help ymgynghorol yn Rhondda Cynon Taf nag unrhyw ardal arall yng Nghymru gyfan.

5.Mae’r gwasanaeth Eye to Eye  yn helpu pobl ifanc 10-25 oed yn yr ardal, drwy ysgolion a chanolfannau cymunedol, ac yn rhoi cyfle i unigolion bregus gael help proffesiynol gyda phroblemau sy’n eu llesteirio ac yn amharu ar ansawdd eu bywydau.  Mae’r gwasanaeth yn hygyrch, a’r rhai sy’n teimlo angen help yn gallu cysylltu drwy lythyr, alwad ffôn, ebost neu decst.

6.Mae Ysgol Tŷ Coch, Ton-teg, yn darparu addysg bwrpasol, berthnasol, bersonol, i blant 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu dwys, a hynny mewn awyrgylch ddiogel, ofalgar sy’n eu hysgogi i gyrraedd eu potensial.

 

CYNLLUN NADOLIG YR YSGOL SUL 2016

CYNLLUN NADOLIG YR YSGOL SUL: Apêl Cawell Elusen ADREF

Wnewch chi gefnogi’r di-gartref yn Rh.C.T. y Nadolig hwn trwy gyflwyno eitemau i’r Ysgol Sul i’w rhoi mewn cewyll? Byddem yn gwerthfawrogi:

Bwyd sy’n cadw, bwyd mewn tuniau (yn cynnwys cig neu bysgod), siocled a danteithion Nadolig, jamiau a siytni, te, coffi, siocled yfed, llaeth sych, pot nŵdls, sudd ffrwythau, sgwash, creision, deunydd ymolchi, eitemau hylendid merched, anrhegion Nadolig plant (wedi eu lapio gan nodi’r oedran, a ph’run ai i fachgen neu ferch.)

Rhagor o fanylion gan Beth Reynolds ac athrawon yr Ysgol Sul

TAFOD Y TAB

TAFOD Y TAB

Daeth yn amser paratoi’r rhifyn nesaf o Tafod y Tab i’w gyhoeddi ddiwedd Ionawr 2017. Mae croeso i unrhyw aelod anfon erthyglau / newyddion / lluniau / cyhoeddiadau i’w cynnwys y tro hwn. Anfonwch yn syth ar ôl y Nadolig, ac ar yr hwyraf erbyn Ionawr 3 2017 at emlyn.davies@which.net neu ann.pentyrch@btinternet.com

Tafod y Tab

TAFOD Y TAB

Daeth yn amser paratoi’r rhifyn nesaf o Tafod y Tab i’w gyhoeddi ddiwedd Ionawr 2017. Mae croeso i unrhyw aelod anfon erthyglau / newyddion / lluniau / cyhoeddiadau i’w cynnwys y tro hwn. Anfonwch yn syth ar ôl y Nadolig, ac ar yr hwyraf erbyn Ionawr 3 2017 at emlyn.davies@which.net neu ann.pentyrch@btinternet.com

Dillad i Ffoaduriaid – Y Diweddaraf

DIOLCH  YN  FAWR

Diolch yn fawr i bawb fu mor hael eu rhoddion i’r ymgyrch helpu ffoaduriaid. Derbyniwyd cyflenwad helaeth o ddillad ac esgidiau pwrpasol a chyfraniadau ariannol sylweddol, a bu deuddeg o wirfoddolwyr yn brysur dros dri diwrnod yn didoli, pacio a chludo popeth.

Rydyn ni’n ffodus iawn bod y capel a’r Ganolfan ar gael i ni fel stordai diddos dros y cyfnod casglu. Mae ugain bocs mawr bellach ar eu ffordd i wersyll Moria ar Ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg. Difawyd rhan o’r gwersyll yn ddiweddar gan dân mawr, a bydd ein llwyth ni yn helpu i liniaru ychydig ar yr amgylchiadau dybryd yn dilyn hynny.

 

Mae Lisa Maria Devlin, sy’n derbyn ein cyfraniadau ni yng Ngogledd Iwerddon wrth ei bodd gydag addasrwydd a safon y dillad. Maen nhw’n cyrraedd Ballymena dros nos o Gaerdydd, mewn lorri DHL. Fel y gallwch ddychmygu, dydy cludiant mor effeithiol ddim yn rhad, ac mae’r cyfraniadau ariannol yn helpu tuag at y treuliau hyn.

 

 

 

Rydyn ni’n lwcus mai elusen St Vincent de Paul sy’n gyfrifol am y cludiant i Wlad Groeg – taith deg diwrnod – ac yn tracio’r lorri ac yn sicrhau bod y nwyddau’n cyrraedd y dwylo iawn. Mae’r lorïau’n gadael Ballymena’n rheolaidd, a’u llwyth yn amrywio o nwyddau meddygol a bwyd a dillad i bebyll ac offer ymarferol, yn ôl y galw. Maen nhw’n barod i helpu ble bynnag mae angen, ac mae’n fraint cael bod yn rhan fechan o’u gweithgarwch.

Diolch yn fawr iawn i chi am fod mor barod i roi ysgwydd dan y baich.

Mae casgliad o luniau i’w gweld YMA

Casglu Dillad i Ffoaduriaid

CASGLU  DILLAD I FFOADURIAID

 Daeth yn amser casglu dillad i ffoaduriaid unwaith eto, ac mae dipyn o frys. Mae’n braf gwybod, o brofiad y gorffennol, ein bod yn apelio at bobl hael a dyngarol.

Bydd lorri St Vincent de Paul yn gadael am Wlad Groeg ddiwedd Medi, felly bydd rhaid i ni ddanfon dillad atyn nhw yng Ngogledd Iwerddon ar FEDI 18fed.

 Rydyn ni’n defnyddio’r elusen hon am ei bod mor effeithiol a dibynadwy. Mae Lisa Devlin, sydd mewn cysylltiad rheolaidd â Carys Davies, wedi treulio chwe wythnos yng Ngwlad Groeg dros yr haf ac yn adnabod amodau enbyd y gwersylloedd yn dda. Mae bywyd yn galed, a’r tir yn arw, sy’n peri i ddillad, ac esgidiau yn arbennig, dreulio’n gyflym.

 Y tro hwn, rydyn ni’n casglu dillad ac esgidiau cryf i bob oed, plant ac oedolion, a dillad babis. Mae galw mawr am esgidiau cryf i oedolion. Bydd angen i bopeth fod fel newydd, neu yn newydd. Wrth gwrs, mae croeso i chi gyfrannu arian, ac fe brynwn ni beth sydd ei angen.

 Does dim angen didoli’r dillad, fe wnawn ni hynny. Gadewch y bagiau yn llofft y capel, neu ffoniwch Carys Davies – 07544 593820, neu Ann Dwynwen Davies – 07544 584526, ac fe drefnwn ni i’w casglu.

 Cofiwch y dyddiad pwysig  –  MEDI 18fed – dyna pryd fydd y dillad yn gadael Cymru am Ballymena, Gogledd Iwerddon, ar ddechrau eu taith i Wlad Groeg. Yn union fel y tro diwethaf, bydd y lorri’n cael ei thracio bob cam o’r ffordd, ac fe gawn ni gadarnhâd  bod y llwyth wedi cyrraedd yn ddiogel. 

Oedfaon

Oedfaon i ddechrau am 11:00 o’r gloch

 

Rhagfyr

4 Y Parchg. D. Eirian Rees


11 Y Parchedig Aled Edwards
(yn y Ganolfan)

18 Oedfa Nadolig plant yr Ysgol Sul ar Twmiaid

 

24 Carolau Nadolig am 5.30

Ionawr

1    Geraint Wyn Davies


8    Y Parchedig Aled Edwards


15  Y Parchedig Denzil John


22  Dr Cynan Dafydd Llwyd


29  Edwyn Evans

 

 

DOD YN AELOD

Beth am ddod yn aelod yn y capel yn ystod 2023? Mae’n bosib fod nifer ohonoch yn dod yn gyson ond heb ymaelodi eto.

Cliciwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth.