Aeth nifer o’r merched i Ben-rhys yn Y Rhondda fore Llun 13 o Fai. Nid cyrchfan ddelfrydol ar fore oer a gwlyb ond cawsom brofiadau a’n gwnaeth i deimlo’n ostyngedig iawn. Cawsom ein croesawu i Ganolfan Llanfair gan ferch o’r India a’r gŵr o Fadagascar a gŵr ifanc, yntau hefyd ar brofiad gwaith o Fadagascar. Mae’r gwaith mae’r tri yma a Sharon, sy’n rhedeg y ganolfan, yn ei wneud yn anhygoel. Maent yn gofalu, meithrin, diddanu ac annog y plant a’r bobl ifanc sydd yn byw’n lleol ac yn aml yn dioddef o anfanteision dybryd. Mae staff y ganolfan yn rhedeg clybiau gwaith cartref, trefnu gemau pêl-droed, gweithgareddau crefft a cherddoriaeth i’r plant. Mae yna olch-dŷ, caffi a siop ddillad sydd yn darparu adnoddau am brisiau rhesymol yn ogystal â Neuadd Weithgareddau a chapel sydd yn cael eu rhedeg er budd trigolion yr ystâd. Rhaid edmygu ymroddiad y bobl hawddgar a gweithgar yma.
Daeth Cennard Davies, brodor o Dreorci, i’n cyfarfod yn y Ganolfan i’n goleuo ychydig am hanes yr ardal. Soniodd am y cerflun o’r Forwyn Fair a Ffynnon Fair. Mae Ffynnon Fair ym Mhen-rhys wedi denu pererinion dirifedi ar hyd yr oesoedd a gwelir dylanwad y bererindod ym marddoniaeth grefyddol yr Oesoedd Canol. Soniodd Cennard am yr Ysbyty Afiechydon Heintus a fu ar fryniau Pen-rhys ac roedd Dilwen a minnau’n cofio’n dda am gyfnod haint y frech wen wrth inni ddechrau dysgu ym Mhontypridd ganol y ganrif ddiwethaf. Roedd y tai a’r fflatiau a godwyd ym Mhen-rhys yng nghanol y ganrif ddiwethaf yn aflwyddiant cymdeithasol ac mae’r gweithwyr ymroddgar yng Nghanolfan Llanfair yn gorfod delio â’r problemau heddiw. Bore i’w gofio!
Cyfarfod nesaf y criw merched fydd ymweliad â Thŷ Dyffryn ar Fehefin 26ain.