ELUSENNAU 2016:

ELUSENNAU 2016:

Dyma pwy fydd yn elwa o arian yr amlenni brown eleni

1. Mae New Horizons Mental Health Resource Centre, Aberdâr yn gweithredu ystod o ganolfannau yn cynnig adnoddau ac yn estyn llaw i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac emosiynol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r Ganolfan yn hybu delwedd bositif ac yn herio gwahaniaethu ar sail iechyd drwy gyfrwng addysg, gweithio yn y gymuned, rhannu gwybodaeth, a chynnig cefnogaeth, ac yn cynnal prosiect arbennig i bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed.

2. Nid dyma’r tro cyntaf i ni gefnogi Prosiect Gofalwyr Ifanc Rh.C.T. ac mae’n fraint cael gwneud hynny eto. Mae’r prosiect yn ceisio adfer ychydig o’u plentyndod i blant sy wedi gorfod tyfu i fyny yn llawer rhy gyflym oherwydd anawsterau teuluol sy’n eu gorfodi i ofalu am riant methedig neu wael ei iechyd.

Darperir cefnogaeth un i un, gweithgareddau grŵp a chysylltu â gweithgareddau cymunedol, gweithdai ac egwyl preswyl, er mwyn lleddfu ychydig ar faich ysgwyddau ifanc, a dod â rywfaint o normalrwydd plentyndod i’w bywydau.

3.  Mae hi’n flwyddyn ers i’r Samariaid, sy’n elusen gyfarwydd i bawb, lansio eu prosiect peilot yng Nghymoedd y De. Er eu bod ar gael i bawb sydd eu hangen ar ben arall y ffôn, maen nhw’n credu’n gryf mewn presenoldeb yn y gymuned er mwyn adnabod amgylchiadau cymdeithasol sy’n peri gofid ac anobaith i unigolion. Mae’r prosiect hwn yn arwyddocaol iddyn nhw am fod y gyfradd o ddynion sy’n cyflawni hunanladdiad yng Nghymru ar ei huchaf ers 1981. Mae’n bwysig iawn bod y prosiect newydd hwn yn cael cefnogaeth ariannol.

4.  Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae mwy o blant a phobl ifanc angen help ymgynghorol yn Rhondda Cynon Taf nag unrhyw ardal arall yng Nghymru gyfan.

5.Mae’r gwasanaeth Eye to Eye  yn helpu pobl ifanc 10-25 oed yn yr ardal, drwy ysgolion a chanolfannau cymunedol, ac yn rhoi cyfle i unigolion bregus gael help proffesiynol gyda phroblemau sy’n eu llesteirio ac yn amharu ar ansawdd eu bywydau.  Mae’r gwasanaeth yn hygyrch, a’r rhai sy’n teimlo angen help yn gallu cysylltu drwy lythyr, alwad ffôn, ebost neu decst.

6.Mae Ysgol Tŷ Coch, Ton-teg, yn darparu addysg bwrpasol, berthnasol, bersonol, i blant 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu dwys, a hynny mewn awyrgylch ddiogel, ofalgar sy’n eu hysgogi i gyrraedd eu potensial.