Y Cynllun Adeiladu

Y Cynllun Adeiladu

Cawsom wybodaeth gyffrous am y cynllun adeiladu gan Helen Middleton ac Emlyn Penny Jones mewn cyfarfod arbennig ar brynhawn Sul yn niwedd Mehefin. Clywsom y bydd y tendr ar gyfer gwneud y gwaith yn cael ei hysbysebu’n fuan, a’r gobaith yw y bydd yr adeiladwyr yn dechrau arni yn gynnar ym mis Medi, gyda’r nod o gwblhau’r cyfan erbyn y Nadolig.

Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld y bydd y costau yn fwy na’r hyn sydd gennym yn y coffrau, ac felly bydd yn rhaid chwilio am grant a gofyn am fenthyciad gan Undeb yr Annibynwyr.

Hyd yn oed wedyn, fydd yr arian i gyd ddim ar gael gennym. Y bwriad felly yw troi at y gynulleidfa i ofyn am gyfraniadau arbennig, unwaith ac am byth, i’n galluogi i wneud y gwaith. Byddwch yn derbyn llythyr yn weddol fuan gyda rhagor o fanylion, yn gofyn am gyfraniad.

O gofio na fu’n rhaid i ni fel aelodau dalu am y Ganolfan, ac na wariwyd unrhyw swm sylweddol ar y capel ers tua 30 mlynedd, teimlwn yn hyderus y bydd pawb yn hael eu cefnogaeth i’r cynllun hwn.

Capel

Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n ceisio codi arian ar gyfer cynllun adeiladu uchelgeisiol a fydd yn golygu  ail-wampio’r capel a’r festri i’w gwneud yn fwy addas i ateb y gofynion o’n safbwynt ni fel cynulleidfa a’r gymuned yn gyffredinol. Rydym yn teimlo bod yr adeiladau presennol yn llyffetheirio gwaith yr eglwys, yn ein rhwystro rhag symud gyda’r oes a rhag bod yn fwy mentrus yn ffurf  ein hoedfaon.

O safbwynt y festri, mae’r adeilad yn rhy fach erbyn hyn.  Does dim modd cynnal mwy nag un gweithgaredd yr un pryd, ac mae’r cyfleusterau yn annigonol. Yn syml, mae angen lleoliad mwy i’r Ysgol Sul ac ar gyfer Teulu Twm fel ei gilydd. Byddwn yn codi  estyniad i ganiatáu ychwanegu cegin, toiled i’r anabl ac ystafell ychwanegol at yr adeilad presennol.  Bydd un ystafell yn cynnwys meithrinfa a man chwarae gwlyb. O ganlyniad, bydd yn bosib cynnal mwy nag un gweithgaredd ar yr un pryd. Bwriedir hefyd gosod offer clyweled yno at ddibenion y capel ac unrhyw gymdeithas o’r tu allan a fydd yn defnyddio’r lle.Taflen

Bydd creu amgylchfyd mwy hylaw i ddefnyddwyr yn golygu creu mwy o amrediad i gwrdd ag anghenion  grwpiau lleol sydd eisoes yn bodoli ac i greu gweithgareddau newydd.  Ar ben hyn i gyd, bydd codi safon y cyfleusterau, gan sicrhau bodloni gofynion cyfreithiol, yn annog sefydliadau o’r tu allan i’r capel i ddefnyddio’r ddarpariaeth.   Yn y capel cyfnewidir yr eisteddleoedd sefydlog ar y llawr gwaelod am seddau unigol, symudol,  i greu awditoriwm gyda seddau i  300 a fydd yn cynnig gwell cyfforddusrwydd i’r gynulleidfa.  Gosodir cyfarpar clyweled modern a chaiff y cyntedd ei ymestyn.  Bydd y prosiect yn cynnwys gosod system wresogi effeithiol, garedig i’r amgylchedd. Bydd hefyd yn arwain at uwchraddio’r adeiladau presennol i sicrhau eu bod yn ateb gofynion personau anabl a rheoliadau iechyd a diogelwch.

Gyda golwg ar y defnydd ychwanegol a ragwelir o’r adeiladau, neilltuir tir o fewn y libart ar gyfer maes parcio gyda mynediad uniongyrchol i’r adeiladau “newydd”.  Bydd hyn yn cynnig mynediad/allanfa ddiogel i blant bach a phersonau anabl fel ei gilydd. Bydd hefyd yn lleihau’r parcio ar y stryd yn y gymdogaeth – mater sy’n peri consyrn ar y funud oherwydd y ffyrdd cul sy’n arwain at y Tabernacl.Prosbectws

Yn wahanol i lawer o gapeli ac eglwysi y dyddiau hyn sy’n chwilio am gyllid dim ond i gefnogicynulleidfa sy’n edwino neu i gynnal adeiladau sydd â’u harwyddocâd bellach wedi mynd yn hanesyddol, mae’r Tabernacl yn esiampl o lwyddiant – trwy gynnal cymuned sy’n addoli, trwy ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc,  a thrwy gefnogi gweithredoedd elusennol, cymunedol a chymdeithasol. Mae hyn yn creu galwadau na all yr adeiladau presennol eu hateb, a hynny’n llyffetheirio ein bwriadau.

Am y rhesymau hyn, byddai troi’r freuddwyd  yn ffaith yn golygu buddsoddi mewn corff sy’n meddu ar egni a gweledigaeth.  Mae’n cyflawni sawl swyddogaeth bwysig o fewn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu; fodd bynnag, rydym yn grediniol y byddai gwireddu’r cynllun adeiladu  yn galluogi cyfoethogi’r cyfraniad mewn modd arwyddocaol ac yn rhoi cyfle i gyfrannu’n llawnach i fywyd y gymuned.

Mae croeso i unrhyw un gyfrannu at y gronfa i wireddu’r cynllun hwn: rydym yn gwerthfawrogi pob ceiniog. I wneud hynny dylech lawrlwytho’r daflen hon sy’n cynnwys ffurflen a chyfeiriad y Trysorydd.

I ddarllen ymhellach am y Cynllun Adeiladu, dylid lawrlwytho’r Prosbectws dwyieithog sy’n cael ei anfon i wahanol gyrff a mudiadau gyda’n cais am arian.

Datganiad i’r Wasg 25 Tachwedd 2009

 TROI HEN FESTRI YN GANOLFAN GYMUNEDOL

Bydd cynllun uchelgeisiol gwerth £450,000 yn dechrau yr wythnos hon i adnewyddu’r hen festri sy’n perthyn i gapel y Tabernacl, Efail Isaf, ger Pontypridd. Caiff y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Y Loteri Genedlaethol a’r Cynulliad, a’r disgwyl yw y bydd y gwaith o ymestyn ac ail-wampio’r adeilad i’w droi’n ganolfan gymunedol yn cymryd rhyw saith mis.  Y bwriad yw addasu’r hen festri, a godwyd yn wreiddiol ddechrau’r ugeinfed ganrif, i fod yn ganolfan aml-bwrpas at ddefnydd y capel a’r gymuned yn gyffredinol. Mae gan y Tabernacl ddwy gynulleidfa, y naill yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg a’r llall yn cynnal oedfaon Saesneg, ond bydd yr adeilad newydd ar gael at ddefnydd cylch llawer ehangach o bobl, o fewn y pentref ei hun a’r ardal o gwmpas.  Dyfarnwyd grant o £300,000 gan Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol y Cynulliad, a £122,000 gan gronfa Pawb a’i Le, Y Loteri Genedlaethol.