Cofiwch am y Myfyrdodau
a'r negeseuon sydd ar
dudalen Facebook y
capel YMA
Oedfa 21 Chwefror 2021
Diolch i Lyn, Iwan a Gwilym
am wasanaeth y bore yma, ac i
Rhiannon a Gareth Humphreys
am y dechnoleg. Diolch hefyd i
Cwmni Da am ganiatau i ni gynnwys
fideos Elin Fflur a Dwylo Dros y Môr 2020.
Ar gael YMA
Oedfa Sul Cyfiawnder Hiliol ar gyfer
Capel y Tabernacl, Efail Isaf,
Chwefror 14, 2021.
Y Parchg. Ganon Aled Edwards sy’n
arwain yr oedfa ar gyfer y Sul
arbennig hwn. Mae’r rhannau agoriadol
yng ngofal Hefin Gruffydd a darparwyd
y lluniau llonydd gan John Llewellyn Thomas.
Cliciwch YMA
Oedfa Rithiol 7 Chwefror, 2021
Rhai o aelodau pentref Pentyrch fydd
yn arwain yr oedfa ddigidol ar ein cyfer,
pan ddaw cyfle i ganolbwyntio ar
weithredoedd da pobl sy’n gweld cyfle
i wneud daioni yn wyneb sefyllfaoedd
anodd. Dyma’r rhai sy’n codi calon,
ac yn llwyddo i wneud gwahaniaeth.
Byddwn ninnau’n dathlu eu hymdrechion.
Cliciwch YMA.
Oedfa 31 Ionawr, 2021 Ar Sul olaf mis Ionawr, cawn gwmni Sara Esyllt ac Emlyn Davies i drafod natur a gwerth 'awdurdod'. Cliciwch YMA ar ôl 7:30 a.m. fore Sul. Oedfa 24 Ionawr, 2021 A hithau'n ail Sul yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol, byddwn yn cael cwmni'r Parchg. Gethin Rhys i gyflwyno'r Myfyrdod. Y Llywydd yw Kathryn Gwyn, gyda chyfraniad ar y piano gan Eleri Huws. Ar gael YMA Oedfa 10 Ionawr, 2021 Gwasanaeth yng ngofal Geraint Rees, Brengain Rees a Mabon Rees a chyfle i ail-fwynhau datganiad gan Sian Elin Jones. YMA Oedfa 27 Rhagfyr 2020yng nghwmni Geraint a Sara Davies, Hedd a Lena. Cliciwch YMA 'Tua Bethlehem'Oedfa'r Nadolig ar gyfer Rhagfyr 20fed, 2020 YMA Oedfa 13 Rhagfyr, 2020 Gwasanaeth Nadolig y plant i'w weld ar dudalen Facebook y capel YMA (Ni fydd yn ymddangos ar You Tube am resymau diogelwch) Ail Sul yr Adfent 6 Rhagfyr 2020 Myfyrdod gan Ceri Anwen gyda charolau ar y piano gan Eleri Huws YMA Sul Cyntaf yr Adfent Gethin Rhys sy'n arwain yr oedfa gyda chymorth Marian Wynne a Gwenfil Thomas YMA Oedfa 22 Tachwedd Sul Crist y Brenin yng ngofal Eleri Huws, Wyn Rees, Ann ac Emlyn Davies ar gael o 7:00 ymlaen YMA Oedfa 15 Tachwedd yng ngofal Catrin a Heulyn Rees ac aelodau'r Twmiaid ar gael YMA Oedfa 8 Tachwedd Sul Heddwch yng nghwmni Helen Prosser a Mererid Hopwood YMA Oedfa 1 Tachwedd Edwyn Evans sy'n cyflwyno'r Myfyrdod gyda chyfraniadau gan Rhiannon a Gareth Humphreys, a chân newydd sbon gan Sian Elin Jones. YMA Oedfa 25 Hydref Y Parchg. Gethin Rhys sy'n cyflwyno'r Myfyrdod gyda chyfraniadau gan Eleri Jones, Lowri Roberts, Margaret White ac Eleri Huws. YMA Oedfa 18 Hydref gyda Lyn, Iwan, Mike West a Jac y ci. YMA Oedfa 11 Hydref yn cynnwys dwy fideo. Cân gan Huw M a Bethan Mai ydy'r cyfraniad cyntaf YMA ac yna cawn fyfyrdod a stori yng nghwmni Beth a Wendy, Elis a Mari YMA Oedfa 4 Hydref gyda chyfeillion pentref Creigiau sef Wyn Jones, Gwenfil Thomas. Glenys Roberts a Helen Middleton. YMA Oedfa 27 Medi Mae'r Myfyrdod yng ngofal y Parchedig Gethin Rhys, gyda chyfraniadau gan Wyn Rees, Elain Llwyd Davies a Gwenfil Thomas. Cawn forio canu yng nghwmni Côr CF1 a Chôr Godre'r Garth. Pwyswch YMA Oedfa 20 Medi dan ofal Iwan Rowlands ar gael YMA Oedfa 13 Medi. Y Parchg. Aled Edwards sy'n cyflwyno'r Myfyrdod ar ein cyfer gyda chyfraniadau hefyd gan Sara a Geraint Wyn Davies, Gaynor Evans, Eleri Huws a Nia Williams. Côr CF1 sy'n canu'r emyn agoriadol oddi ar eu CD 'Diolch a Chân', a chawn glywed 'Ffydd Gobaith, Cariad' o waith Robat Arwyn. Cliciwch YMA Mae oedfa heddiw, 6 Medi, dan ofal rhai o aelodau pentref Efail Isaf, sef Eirian Rees, Ann Rees a Manon Huws. Gwasgwch YMA Dyma Oedfa 30 Awst dan ofal Rhodri-Gwynn Jones a chyfeillion Bethlehem Gwaelod y garth ar gael YMA Mae oedfa 23 Awst yng ngofal Edwyn Evans, Gwenno Rees a Geraint Rees ac ar gael YMA Myfyrdod 16 Awst, 2020 gan Delwyn Siôn, Arweinydd Bethlehem ar gael YMA Oedfa 9 Awst ar y cyd gyda Bethlehem Gwaelod-y-garth. Myfyrdod gan Emlyn Davies. Yn cymeryd rhan hefyd mae Glenys M. Roberts, Ann Dwynwen Davies, Ken Jones, Eleri Huws ac Elain Llwyd Davies. Cawn hefyd glywed emyn o'r archif gan Gôr Godre'r Garth. Ar gael YMA Oedfa Gymun 2 Awst yng ngofal Y Parchg. Ddr R. Alun Evans a rhai o aelodau Bethlehem, Gwaelod-y-garth. Cliciwch YMA Oedfa 26 Gorffennaf Heulyn Rees a rhai o'r Twmiaid sy'n ein cyfarch gan gynwys cartŵn amserol. I weld y neges Cliciwch YMA A dyma'r cartŵn YMA Oedfa 19 Gorffennaf Wendy Reynolds a Huw M. Roberts sy'n cynnig yr arlwy fore heddiw, gyda chartŵn annwyl iawn i ddifyrru plant ac oedolion. Mae mewn tair rhan a dyma'r dolenni i glicio arnyn nhw: Huw M Wendy Cartŵn Oedfa 12fed Gorffennaf 2020 yng nghwmni Geraint Rees Loreen Williams a Sian Elin Jones YMA Oedfa arbennig i ddathlu 150 o flynyddoedd ers adeiladu'r capel presennol yn Efail Isaf. Y cyflwynydd yw Sara Esyllt a'r cyfranwyr yw Nia Williams, Gwenfil Thomas, Ann Dwynwen Davies ac Emlyn Davies. Cawn glywed perfformiad o'r archif gan Gôr Cerdd Dant Merched y Garth. Bydd datganiadau ar y piano gan Eleri Huws ac Elain Llwyd Davies. Mae'r oedfa'n cynnwys rhannau defosiynol, myfyrdod a phytiau hanesyddol. Gobeithio y medrwch neilltuo amser i wylio. YMA Cawsom gwmni Aled Edwards a theulu Maes-yr-Haf ar gyfer ein hoedfa ar 28 Mehefin YMA Y triawd Geraint Rees, Rhiannon a Gareth Humphreys oedd yng ngofal yr oedfa ar 21 Mehefin ar Facebook.YMA Mae Myfyrdod 14 Mehefin dan ofal Gethin Rhys i'w weld YMA Myfyrdod ar gyfer Sul yr Amgylchedd yng nghwmni Helen Prosser ac eraill YMA Oedfa Sul y Pentecost 31 Mai gyda rhai o aelodau Pentyrch ar gael YMA Myfyrdod Geraint Rees Mai 24ain YMA Cân Huw M. ar gael YMA STORI I'R PLANT Beth Reynolds YMA Myfyrdod Heuyn Rees YMA OEDFA ARBENNG AR GYFER SUL CYMORTH CRISTNOGOL YMA MYFYRDOD Y PASG Fideo Newydd ar gael YMA
MYFYRDOD ARBENNIG
AR GYFER SUL Y BLODAU
GAN D. EIRIAN REES
AR GAEL YMA
MAE EIN HOEDFAON A'N CYFARFODYDD I GYD WEDI EU GOHIRIO AM Y TRO
Mae'r cyhoeddiadau
wythnosol ar gael
YMA
DOD YN AELOD
Beth am ddod yn aelod yn y capel yn ystod 2020? Mae’n bosib fod nifer ohonoch yn dod yn gyson ond heb ymaelodi eto.
Cliciwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth.