CASGLU DILLAD I FFOADURIAID
Daeth yn amser casglu dillad i ffoaduriaid unwaith eto, ac mae dipyn o frys. Mae’n braf gwybod, o brofiad y gorffennol, ein bod yn apelio at bobl hael a dyngarol.
Bydd lorri St Vincent de Paul yn gadael am Wlad Groeg ddiwedd Medi, felly bydd rhaid i ni ddanfon dillad atyn nhw yng Ngogledd Iwerddon ar FEDI 18fed.
Rydyn ni’n defnyddio’r elusen hon am ei bod mor effeithiol a dibynadwy. Mae Lisa Devlin, sydd mewn cysylltiad rheolaidd â Carys Davies, wedi treulio chwe wythnos yng Ngwlad Groeg dros yr haf ac yn adnabod amodau enbyd y gwersylloedd yn dda. Mae bywyd yn galed, a’r tir yn arw, sy’n peri i ddillad, ac esgidiau yn arbennig, dreulio’n gyflym.
Y tro hwn, rydyn ni’n casglu dillad ac esgidiau cryf i bob oed, plant ac oedolion, a dillad babis. Mae galw mawr am esgidiau cryf i oedolion. Bydd angen i bopeth fod fel newydd, neu yn newydd. Wrth gwrs, mae croeso i chi gyfrannu arian, ac fe brynwn ni beth sydd ei angen.
Does dim angen didoli’r dillad, fe wnawn ni hynny. Gadewch y bagiau yn llofft y capel, neu ffoniwch Carys Davies – 07544 593820, neu Ann Dwynwen Davies – 07544 584526, ac fe drefnwn ni i’w casglu.
Cofiwch y dyddiad pwysig – MEDI 18fed – dyna pryd fydd y dillad yn gadael Cymru am Ballymena, Gogledd Iwerddon, ar ddechrau eu taith i Wlad Groeg. Yn union fel y tro diwethaf, bydd y lorri’n cael ei thracio bob cam o’r ffordd, ac fe gawn ni gadarnhâd bod y llwyth wedi cyrraedd yn ddiogel.