Apêl Bobathon

TEULU TWM

Ddiwedd Mawrth eleni, ar benwythnos diflas o law oer, bu criw o bobl ifanc capel y Tabernacl yn  brwydro yn erbyn yr elfennau i gerdded, seiclo a nofio fel rhan o apêl Bobathon. Roedd yr arian nawdd a godwyd yn mynd tuag at Bobath yng Nghaerdydd – canolfan sydd yn rhoi therapi i blant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd (cerebral palsy).

xvxv  Roedd cyfanswm y pellter a deithiwyd yn cyfateb i’r daith rhwng canolfan Bobath yn Yr Eglwys Newydd, a chanolfan gyffelyb yn Glasgow, sef tua 450 o filltiroedd.  Ac er gwaetha’r tywydd gwlyb, llwyddwyd i godi dros £1,500 at yr achos da, ac fe gafwyd digonedd o hwyl yn y fargen.

CAMU DROS DLODI

Roedd y digwyddiad yn gwbl nodweddiadol o’r math o weithgaredd sy’n rhan o raglen Teulu Twm, y grŵp ar gyfer yr arddegwyr yn y Tabernacl. Bob blwyddyn, dewisir rhyw elusen i dderbyn nawdd dros benwythnos o ymdrech galed, a thros y blynyddoedd fe lwyddwyd i godi tua £25,000 i gyd i wahanol achosion da. Y llynedd, ymgyrch fawr Rhown Derfyn ar Dlodi a gafodd eu cefnogaeth, ac fe gerddwyd miliwn o gamau i gynrychioli’r miliwn o blant a fyddai’n marw o dlodi yn ystod mis Mawrth y flwyddyn honno. Ar fferm yr Amelia Trust ym Mro Morgannwg y bu’r ymdrechu bryd hynny,  a chodwyd dros £2,200 o bunnau i Apêl Camu dros Dlodi.

Bydd y criw yn cyfarfod yn y festri yn rheolaidd bob nos Sul i groesawu siaradwr gwadd neu ddilyn gweithgaredd mwy ymarferol. Yn ychwanegol at hynny, bydd gwahanol deithiau yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau rywbryd yn  yr haf. O dro i dro, fe fyddan nhw’n gyfrifol am yr oedfa yn y capel, ac fe all rhywun fod yn siŵr o wreiddioldeb a dychymyg bryd hynny.