Mae wedi dod yn adeg cyfrannu at Gymorth Cristnogol eto eleni. Bu byddin fach o aelodau’r Tabernacl yn crwydro strydoedd y pentre’ â’u bagiau coch llachar yn casglu o ddrws i ddrws. Casglwyd dros fil o bunnoedd eleni.
Ddiwedd Ebrill gwnaeth yr eglwys yn y Tabernacl ymdrech arbennig i godi arian at Gymorth Cristnogol drwy gynnal cyngerdd yn y capel. Cafwyd eitemau bywiog gan Ysgolion Cynradd Castellau a Maesybryn. Cafwyd gwledd o gerddoriaeth gan Barti Merched Ysgol Gyfun Garth Olwg, ac Elis Widgery â’i gitâr a thair telynores ddawnus iawn, Eleri Roberts, Branwen Roberts ac Ella Iles. Ymddangosodd Côr yr Einion am y tro cyntaf i glo’r noson ac yn ôl pob ymateb roedd y perfformiad wedi plesio. Roedd yn noson lwyddiannus yn ariannol hefyd gan i ni godi naw cant a hanner o bunnoedd i goffrau Cymorth Cristnogol.