APÊL MADAGASCAR 2018/2019
Mae apêl Undeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni’n anelu at godi £200,000 i helpu Madagascar, un o wledydd tlotaf y byd. Bydd yr arian yn cefnogi prosiectau i ddarparu lloches i ferched bregus, meddygfa a deintyddfa i bobl anghenus, cartref i blant amddifad, a chynllun i hyfforddi gweinidogion i ddysgu’r bobl sut i dyfu mwy o gnydau er mwyn lliniaru problemau diffyg maeth.
Daw’r apêl i ben ym mis Mehefin 2019, a’n gobaith ni fel capel yw casglu £30 gan bob aelod dros y flwyddyn. Erbyn diwedd mis Medi bydd amlenni pwrpasol ar gael i bob aelod gyfrannu yn ôl eu dymuniad, a chyflenwad i gyfeillion yn ein plith sy’n awyddus i gefnogi. Mae croeso mawr i unrhyw un drefnu achlysur fel bore coffi hefyd, i chwyddo’r coffrau.
Byddai’n braf anelu at godi dros £5,000 fel coron deilwng ar ymdrechion gloyw Merched y Tab i groesawu’r bobl o Fadagascar fu yma yn ystod dathliadau’r daucanmlwyddiant ym mis Mehefin.