Croesawu Ymwelwyr o Fadagasgar

Croesawu Ymwelwyr

Bnawn Mawrth 5 Mehefin, croesawyd criw hawddgar o Gristnogion o Fadagasgar i’r Ganolfan i fwynhau cinio a baratowyd ar eu cyfer gan aelodau o Ferched y Tabernacl dan arweiniad Ros Evans. Roedd y criw wedi teithio i Gymru er mwyn chwarae rhan yn nathliadau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i gofnodi daucanmlwyddiant glaniad y ddau genhadwr cyntaf, sef David Jones a Thomas Bevan, a’u teuluoedd ym Madagasgar yn 1818. Fel rhan o’r daith ymwelsant â nifer o gapeli  a sefydliadau eraill yn ne Cymru.

Cyfeillion Madagasgar

Bu eu hymweliad â’r Tabernacl yn un hynod lwyddiannus. Wedi iddynt fwynhau eu cinio a chael eu tywys o amgylch y capel, roeddynt yn awyddus iawn i ddiolch i’r eglwys am y croeso trwy ganu emyn i’r rhai fu’n gweini arnynt. 

Diddorol oedd deall ganddynt bod yna gapeli ym Madagasgar hyd heddiw a godwyd gyda’r arian a gasglwyd at y genhadaeth gan genedlaethau o blant Ysgolion Sul Cymru, a bod dros bum miliwn o drigolion Madasgasgar yn medru olrhain eu heglwysi ffyniannus i’r cenhadon a deithiodd yno ddau can mlynedd yn ôl.