Cynhelir arbrawf am rai misoedd wrth drefnu’r Oedfaon yn Y Tabernacl. Ar y trydydd Sul ymhob mis ni fydd Oedfa foreol am un ar ddeg y bore, yn hytrach fe gynhelir Oedfa yn y prynhawn er mwyn galluogi’r Oedolion, yr ifanc a’r plant ddod ynghyd i gymdeithasu a mwynhau cyflwyniad yn y capel.
Roedd y capel yn llawn pan gafwyd y cyntaf o’r Oedfaon hyn brynhawn Sul, Ionawr 21ain pan groesawyd Ffion Glyn o gwmni Mewn Cymeriad i adrodd stori Mari James a’i Beibl. Cafodd y plant gyfle i actio, ac mi roedd gweld Geraint Rees yn carlamu lawn yr ale ar “ei geffyl” fel Thomas Charles yn hwyl go iawn. Cadwch eich llygaid ar agor – mae Dafydd Iwan gyda ni cyn bo hir.