Ffrydio Oedfaon

Arfer a ddechreuwyd adeg cyfnod y Covid oedd ffrydio Oedfaon y Tabernacl i gartrefi’r aelodau. Erbyn hyn mae sustem mwy soffistigedig wedi ei sefydlu gyda help grant Ymddiriedolaeth Pantyfedwen. Mae’r ystafell a fu unwaith yn Ystafell y Diaconiaid, bellach wedi troi yn Ystafell Reoli. Mae criw o wirfoddolwyr medrus wrthi’n reolaidd yn meistroli’r dechnoleg pob Sul. Diolch o galon iddynt am eu gwaith ac mae’n deg eu henwi gan ei bod yn gweithio yn y dirgel y tu ôl i ddrws caeedig. Diolch felly i Emlyn Davies, Gwion Evans, Hefin Gruffydd, Eirian Hughes, Aled a Gareth Humphreys, Emlyn Jones a Geraint Rees.

Hefin yng Nghadair y Cyfarwyddwr