Hanes Tabernacl 1841 – 1904

Sefydlu y Capel

Erbyn 40au’r 19eg  ganrif, roedd pentref Efail Isaf wedi’i amgylchynu gan fwrlwm o weithgaredd mewn gwahanol gapeli Annibynnol, a sawl un ohonyn nhw’n efengylu’n egnïol yn yr ardal.  Ar un ochr roedd Capel Groeswen, Eglwysilan, a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd R. Tudur Jones fel “prif bwerdy ysbrydol y fro”.  Roedd dylanwad y capel yn fawr ar ardal eang, ac fe gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod gweinidogaeth Griffith Hughes yn hanner cyntaf y cyfnod rydym yn sôn amdano. Daeth capel Groeswen yn fam-eglwys i sawl achos dan yr Annibynwyr a’r Methodistiaid Calfinaidd yng nghyffiniau Llantrisant, Caerffili a chyrion Caerdydd.

 Capel Taihirion
Capel Taihirion 
 
I’r de o Efail Isaf roedd capel bywiog arall yn Rhydlafar, rhwng Pentyrch a Sain Ffagan.  Sefydlwyd eglwys Taihirion hithau rywdro yn 60au’r  18fed ganrif, ac er mai capel bychan iawn oedd hwn, cafodd ddylanwad sylweddol ar grefydd yn y fro. Roedd capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth eisoes wedi’i  sefydlu dan adain Taihirion ers 1831.


Dan anogaeth rhai o genhadon y ddau gapel hyn, dechreuodd criw o bobl ymgasglu at ei gilydd yn nhafarn y Carpenters yn Efail Isaf oddeutu’r 40au, a phenderfynwyd gwneud cais i eglwysi Taihirion a Gwaelod y Garth am gael capel yn Efail Isaf ei hun. Yn ôl R. Tudur Jones, y ddau brif ladmerydd oedd Philip Williams, un oedd newydd symud i fyw i’r pentref, a William Lewis, diacon yn Nhaihirion, yntau hefyd yn byw yn Efail Isaf. Cefnogwyd y cais yn frwd gan Lemuel Smith, gweinidog ifanc Taihirion a fu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd. Derbyniwyd rhodd o dir gan Thomas Philips, Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, ac agorwyd y Tabernacl yn swyddogol ym 1843. Yn 1991 traddodwyd darlith gan y Parchedig Ddoctor R Tudur Jones ar gefndir yr achos yn Efail Isaf. Gellir ei ddarllen yma >> Cefndir

Saif Capel Taihirion ger draffordd yr M4 yng Nghapel Llanilltern i’r gorllewn o Rhydlafar ar yr A4119. Adfeilion sydd yno erbyn hyn. Mae erthygl am Taihirion yn Garth Domain Rhif 24  >> Taihirion

Adeiladu’r Capel yn Efail Isaf

Ar ôl bod yn y longroom am rai misoedd, penderfynwyd chwilio am le cyfleus i godi capel arno. O’r diwedd cafwyd darn o dir, yn cynnwys lle i fynwent, ar brydles o
fil-ond-un o flynyddoedd gan Thomas Phillips, Ysw., Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, am rent o ddeg swllt y flwyddyn. Ddechrau 1842 gosodwyd y sylfaen. Roedd craig fawr yn un o gaeau cyfagos Garth Isaf. Chwalwyd hon gan y dynion yn y nosweithiau a chariodd y merched y darnau at wasanaeth y saer maen yn ystod y dyddiau canlynol. Does dim cyfrif o’r gost ariannol, ac mae’n debyg nad oedd yn fawr iawn. Cymerodd y Tabernacl cyntaf bron i flwyddyn i’w adeiladu a chafodd ei agor ym mis Ionawr 1843. Levi Lawrence, gweinidog a oedd newydd ddod i Lantrisant, a gymerodd ofal o’r eglwys am y blynyddoedd nesaf hyd 1847.

Fu’r flwyddyn honno o adeiladu ddim heb ei phroblemau na’i chyfnodau dwys. Ar ôl codi’r waliau yn barod i roi’r to arnyn nhw, cododd storm enbyd a chwythwyd y pingwn nesaf i’r fynwent i’r llawr. Roedd bedd wedi ei agor yn ymyl i gladdu merch fach Bili’r Gof o Lanmyddlyn. Bu’n rhaid gohirio’r angladd am ddiwrnod neu ddau. Dyna’r cynhebrwng cyntaf i’r fynwent newydd.

 

1841 – 1904

1841    Dechreuwyd yr ‘achos’ yn Efail Isaf – Cangen o Eglwys Taihirion, Rhydlafar gyda’r Parch Lemuel Smith yn Weinidog.

“Cychwynnwyd yn y ‘longroom’ perthynol i dafarndy’r pentre a elwir ‘Carpenters’ Arms’. Safai yr ystafell hon ar wahân i’r ‘Carpenters’ yn ymyl yr ardd, lle’r oedd grisiau yn esgyn iddi o’r tu allan”.  (O lyfryn y Canmlwyddiant 1941)

Penderfynwyd adeiladu capel ar dir fferm Y Celyn.

1842    Gosodwyd y sylfaen ar ddechrau’r flwyddyn.  Bu farw Y Parch Lemuel Smith. Sefydlwyd y Parch Levi Lawrence yn Weinidog.

1843    Adeiladwyd ac agorwyd y capel cyntaf.

1847    Gadawodd y Parch Levi Lawrence i ofalu am Eglwys Adulam, Merthyr Tudful.

1851    25 o aelodau gyda’r Parch John Taihirion Davies yn Weinidog.

1869    71 o aelodau a’r capel cyntaf wedi mynd yn rhy fach. Penderfynwyd adeiladu capel newydd.

1870    Gorffennaf 3ydd a 4ydd. Agorwyd y capel presennol ar gost o £830.00.

1878    Aelodaeth yn 144. Erbyn diwedd y flwyddyn collwyd 27 o aelodau oherwydd cau pob pwll glo yn y gymdogaeth. Symudodd yr aelodau yma i’r Rhondda a Chwm Garw.

1898    Codwyd y festri a’r stabl oddi tano am £250.00

1901    Medi. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Jiwbilî i ddathlu hanner can mlynedd gweinidogaeth John Taihirion Davies.

1904    Bu farw Y Parch. John Taihirion Davies.

 

Gweinidogion

Lemuel Smith oedd gweinidog ifanc Taihirion a gefnogodd sefyldu capel yn Efail Isaf. Bu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd.

Mae erthygl am Lemuel Smith yn y Garth Domain 23 > Garth

Ym 1851, rhoddwyd galwad i’r Parchg John Davies o Dreforus i ddod yn weinidog ar eglwysi Taihirion a’r Tabernacl, ac fe arhosodd yn Efail Isaf  hyd ddiwedd ei oes yn 1904.

GWEINIDOGION

Y Parchedig Lemuel Smith               1841 – 1842

Y Parchedig Levi Lawrence               1842 – 1847

Y Parchedig John Taihirion Davies   1851 – 1904

John Taihirion Davies

Mae dylanwad y Parch John Taihirion Davies ar y capel a’r ardal yn enfawr. Bu’n weinidog am gyfnod o 55 mlynedd.

 

Gymaint oedd gwerthfawrogiad a pharch ei gynulleidfa ato fe osodwyd cofeb tu ôl i’r pulpud yn y capel.

Dyma ran o’i Fywgraffiad o Lyfr y Canmlwydiant

JOHN TAIHIRION DAVIES. – Ganwyd ef yn y flwyddyn 1825, ym Mhlwyf Llangyfelach. Cafodd ei dderbyn yn bedair-ar-ddeg oed, gan y Parch. J. Davies, Mynyddbach. Dechreuodd bregethu dan weinidogaeth ei frawd Thomas Davies, yn Horeb, Treforus. Pan weithiau fel crwt yn un o weithiau tân Treforus, arferai y gweithwyr dalu `turn’ iddo bob tro y byddai Cyfarfod Blynyddol yn y cylch, er mwyn iddo fynd yno i wrando y pregethau, a’u hail-adrodd wrth y gweithwyr drannoeth yn ystod yr awr ginio. Bu hyn yn gynhorthwy mawr iddo i ddatblygu ei gof, i ymarfer traddodi, a’i drwytho mewn athrawiaeth grefyddol.

Daeth i’r Efail Isaf yn ddyn ieuanc 26ain oed, yn llawn ynni a brwdfrydedd. Gwnaeth ei lety yn fferm Rhydlafar, ryw hanner milltir yn nes i gyfeiriad Caerdydd na Thai¬hirion. Yr oedd ganddo ddwy filldir i gerdded oddiyno i’r Bronllwyn, a phedair milltir i’r Efail Isaf. Wedi cychwyn achos Bronllwyn, pregethai yn y tair eglwys ambell Sul.

Rhoddodd i fyny Taihirion yn y flwyddyn 1893, ac aeth i fyw i Bentyrch, gerllaw Bronllwyn, lle bu nith iddo yn gofalu am ei dŷ am rai blynyddoedd. Priododd yn y flwyddyn 1895 â Miss Mary Walters, Y Faerdref, ac yn fuan wedi hyn, rhoddodd i fyny gofal eglwys Bronllwyn. Adeiladodd dŷ yn Church Village, ac yno yn “Huanfa” y bu fyw, nes iddo gael ei symud i’r Tŷ nad o waith llaw, “tragwyddol yn y Nefoedd.”

Cymerodd ddiddordeb ymhob cylch o fywyd. Gwnaeth ei orau i ddyrchafu diwylliant a manteision addysg yn yr ardal. Ef ydoedd Cadeirydd yr hen “School Board”, a bu yn flaenllaw ynglyn â’r gwaith o adeiladu ysgol i gwrdd â gofynion y cylch.

Mynych y gwelwyd ef ar lwyfan Politicaidd, a byddai ei arabedd a’i hiwmor bob amser, yn tynnu allan gymeradwyaeth y dyrfa yn un fanllef. Nid oedd un cyfarfod yng Nghyfundeb Dwyreiniol Morgannwg yn gyfiawn, os na fyddai `Davies, Taihirion’ ynddo, ac yn cymeryd rhan. Adnabyddwyd ef am lawer blwyddyn fel “Esgob y Fro.” Yr oedd Mr. Davies yn gasglwr dihafal, ac yn werthwr tocynnau heb ei debyg.

Fel pregethwr, byddai yn cael `yr awel’ o’i du yn fynych. Wrth bregethu ar dro yn Aberystwyth, torrodd yn foliannu drwy yr holl le, a bu’n ddiwygiad yno am beth amser wedi iddo ymadael. Dro arall, cafodd oedfa debyg yng Nghroesoswallt, ac ymhen ychydig derbyniodd alwad daer oddiyno i’w bugeilio. O bosibl, mai hon oedd yr unig alwad a gafodd yn ystod ei weinidogaeth, ond teimlodd fod y cwlwm yn rhy dynn rhyngddo â’r Efail Isaf i’w derbyn. Yr oedd ei serch gymaint at Taihirion hefyd, er iddo roi yr eglwys honno i fyny yn y flwyddyn 1893, fel y mynnodd gael ei adnabod bellach fel John Taihirion Davies. Bu farw Medi 1904, wedi gwneud diwrnod da o waith, ac ni adawodd neb fwlch mwy ar ei ôl. Heddwch i’w lwch.