Archifau Categori: Hanes

Hanes Tabernacl 1841 – 1904

Sefydlu y Capel

Erbyn 40au’r 19eg  ganrif, roedd pentref Efail Isaf wedi’i amgylchynu gan fwrlwm o weithgaredd mewn gwahanol gapeli Annibynnol, a sawl un ohonyn nhw’n efengylu’n egnïol yn yr ardal.  Ar un ochr roedd Capel Groeswen, Eglwysilan, a ddisgrifiwyd gan yr hanesydd R. Tudur Jones fel “prif bwerdy ysbrydol y fro”.  Roedd dylanwad y capel yn fawr ar ardal eang, ac fe gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod gweinidogaeth Griffith Hughes yn hanner cyntaf y cyfnod rydym yn sôn amdano. Daeth capel Groeswen yn fam-eglwys i sawl achos dan yr Annibynwyr a’r Methodistiaid Calfinaidd yng nghyffiniau Llantrisant, Caerffili a chyrion Caerdydd.

 Capel Taihirion
Capel Taihirion 
 
I’r de o Efail Isaf roedd capel bywiog arall yn Rhydlafar, rhwng Pentyrch a Sain Ffagan.  Sefydlwyd eglwys Taihirion hithau rywdro yn 60au’r  18fed ganrif, ac er mai capel bychan iawn oedd hwn, cafodd ddylanwad sylweddol ar grefydd yn y fro. Roedd capel Bethlehem, Gwaelod-y-garth eisoes wedi’i  sefydlu dan adain Taihirion ers 1831.


Dan anogaeth rhai o genhadon y ddau gapel hyn, dechreuodd criw o bobl ymgasglu at ei gilydd yn nhafarn y Carpenters yn Efail Isaf oddeutu’r 40au, a phenderfynwyd gwneud cais i eglwysi Taihirion a Gwaelod y Garth am gael capel yn Efail Isaf ei hun. Yn ôl R. Tudur Jones, y ddau brif ladmerydd oedd Philip Williams, un oedd newydd symud i fyw i’r pentref, a William Lewis, diacon yn Nhaihirion, yntau hefyd yn byw yn Efail Isaf. Cefnogwyd y cais yn frwd gan Lemuel Smith, gweinidog ifanc Taihirion a fu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd. Derbyniwyd rhodd o dir gan Thomas Philips, Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, ac agorwyd y Tabernacl yn swyddogol ym 1843. Yn 1991 traddodwyd darlith gan y Parchedig Ddoctor R Tudur Jones ar gefndir yr achos yn Efail Isaf. Gellir ei ddarllen yma >> Cefndir

Saif Capel Taihirion ger draffordd yr M4 yng Nghapel Llanilltern i’r gorllewn o Rhydlafar ar yr A4119. Adfeilion sydd yno erbyn hyn. Mae erthygl am Taihirion yn Garth Domain Rhif 24  >> Taihirion

Adeiladu’r Capel yn Efail Isaf

Ar ôl bod yn y longroom am rai misoedd, penderfynwyd chwilio am le cyfleus i godi capel arno. O’r diwedd cafwyd darn o dir, yn cynnwys lle i fynwent, ar brydles o
fil-ond-un o flynyddoedd gan Thomas Phillips, Ysw., Ysgubor Fawr, Sain Ffagan, am rent o ddeg swllt y flwyddyn. Ddechrau 1842 gosodwyd y sylfaen. Roedd craig fawr yn un o gaeau cyfagos Garth Isaf. Chwalwyd hon gan y dynion yn y nosweithiau a chariodd y merched y darnau at wasanaeth y saer maen yn ystod y dyddiau canlynol. Does dim cyfrif o’r gost ariannol, ac mae’n debyg nad oedd yn fawr iawn. Cymerodd y Tabernacl cyntaf bron i flwyddyn i’w adeiladu a chafodd ei agor ym mis Ionawr 1843. Levi Lawrence, gweinidog a oedd newydd ddod i Lantrisant, a gymerodd ofal o’r eglwys am y blynyddoedd nesaf hyd 1847.

Fu’r flwyddyn honno o adeiladu ddim heb ei phroblemau na’i chyfnodau dwys. Ar ôl codi’r waliau yn barod i roi’r to arnyn nhw, cododd storm enbyd a chwythwyd y pingwn nesaf i’r fynwent i’r llawr. Roedd bedd wedi ei agor yn ymyl i gladdu merch fach Bili’r Gof o Lanmyddlyn. Bu’n rhaid gohirio’r angladd am ddiwrnod neu ddau. Dyna’r cynhebrwng cyntaf i’r fynwent newydd.

 

1841 – 1904

1841    Dechreuwyd yr ‘achos’ yn Efail Isaf – Cangen o Eglwys Taihirion, Rhydlafar gyda’r Parch Lemuel Smith yn Weinidog.

“Cychwynnwyd yn y ‘longroom’ perthynol i dafarndy’r pentre a elwir ‘Carpenters’ Arms’. Safai yr ystafell hon ar wahân i’r ‘Carpenters’ yn ymyl yr ardd, lle’r oedd grisiau yn esgyn iddi o’r tu allan”.  (O lyfryn y Canmlwyddiant 1941)

Penderfynwyd adeiladu capel ar dir fferm Y Celyn.

1842    Gosodwyd y sylfaen ar ddechrau’r flwyddyn.  Bu farw Y Parch Lemuel Smith. Sefydlwyd y Parch Levi Lawrence yn Weinidog.

1843    Adeiladwyd ac agorwyd y capel cyntaf.

1847    Gadawodd y Parch Levi Lawrence i ofalu am Eglwys Adulam, Merthyr Tudful.

1851    25 o aelodau gyda’r Parch John Taihirion Davies yn Weinidog.

1869    71 o aelodau a’r capel cyntaf wedi mynd yn rhy fach. Penderfynwyd adeiladu capel newydd.

1870    Gorffennaf 3ydd a 4ydd. Agorwyd y capel presennol ar gost o £830.00.

1878    Aelodaeth yn 144. Erbyn diwedd y flwyddyn collwyd 27 o aelodau oherwydd cau pob pwll glo yn y gymdogaeth. Symudodd yr aelodau yma i’r Rhondda a Chwm Garw.

1898    Codwyd y festri a’r stabl oddi tano am £250.00

1901    Medi. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Jiwbilî i ddathlu hanner can mlynedd gweinidogaeth John Taihirion Davies.

1904    Bu farw Y Parch. John Taihirion Davies.

 

Gweinidogion

Lemuel Smith oedd gweinidog ifanc Taihirion a gefnogodd sefyldu capel yn Efail Isaf. Bu farw’n annhymig iawn yn 27 oed, a hynny cyn gweld agor y capel newydd.

Mae erthygl am Lemuel Smith yn y Garth Domain 23 > Garth

Ym 1851, rhoddwyd galwad i’r Parchg John Davies o Dreforus i ddod yn weinidog ar eglwysi Taihirion a’r Tabernacl, ac fe arhosodd yn Efail Isaf  hyd ddiwedd ei oes yn 1904.

GWEINIDOGION

Y Parchedig Lemuel Smith               1841 – 1842

Y Parchedig Levi Lawrence               1842 – 1847

Y Parchedig John Taihirion Davies   1851 – 1904

John Taihirion Davies

Mae dylanwad y Parch John Taihirion Davies ar y capel a’r ardal yn enfawr. Bu’n weinidog am gyfnod o 55 mlynedd.

 

Gymaint oedd gwerthfawrogiad a pharch ei gynulleidfa ato fe osodwyd cofeb tu ôl i’r pulpud yn y capel.

Dyma ran o’i Fywgraffiad o Lyfr y Canmlwydiant

JOHN TAIHIRION DAVIES. – Ganwyd ef yn y flwyddyn 1825, ym Mhlwyf Llangyfelach. Cafodd ei dderbyn yn bedair-ar-ddeg oed, gan y Parch. J. Davies, Mynyddbach. Dechreuodd bregethu dan weinidogaeth ei frawd Thomas Davies, yn Horeb, Treforus. Pan weithiau fel crwt yn un o weithiau tân Treforus, arferai y gweithwyr dalu `turn’ iddo bob tro y byddai Cyfarfod Blynyddol yn y cylch, er mwyn iddo fynd yno i wrando y pregethau, a’u hail-adrodd wrth y gweithwyr drannoeth yn ystod yr awr ginio. Bu hyn yn gynhorthwy mawr iddo i ddatblygu ei gof, i ymarfer traddodi, a’i drwytho mewn athrawiaeth grefyddol.

Daeth i’r Efail Isaf yn ddyn ieuanc 26ain oed, yn llawn ynni a brwdfrydedd. Gwnaeth ei lety yn fferm Rhydlafar, ryw hanner milltir yn nes i gyfeiriad Caerdydd na Thai¬hirion. Yr oedd ganddo ddwy filldir i gerdded oddiyno i’r Bronllwyn, a phedair milltir i’r Efail Isaf. Wedi cychwyn achos Bronllwyn, pregethai yn y tair eglwys ambell Sul.

Rhoddodd i fyny Taihirion yn y flwyddyn 1893, ac aeth i fyw i Bentyrch, gerllaw Bronllwyn, lle bu nith iddo yn gofalu am ei dŷ am rai blynyddoedd. Priododd yn y flwyddyn 1895 â Miss Mary Walters, Y Faerdref, ac yn fuan wedi hyn, rhoddodd i fyny gofal eglwys Bronllwyn. Adeiladodd dŷ yn Church Village, ac yno yn “Huanfa” y bu fyw, nes iddo gael ei symud i’r Tŷ nad o waith llaw, “tragwyddol yn y Nefoedd.”

Cymerodd ddiddordeb ymhob cylch o fywyd. Gwnaeth ei orau i ddyrchafu diwylliant a manteision addysg yn yr ardal. Ef ydoedd Cadeirydd yr hen “School Board”, a bu yn flaenllaw ynglyn â’r gwaith o adeiladu ysgol i gwrdd â gofynion y cylch.

Mynych y gwelwyd ef ar lwyfan Politicaidd, a byddai ei arabedd a’i hiwmor bob amser, yn tynnu allan gymeradwyaeth y dyrfa yn un fanllef. Nid oedd un cyfarfod yng Nghyfundeb Dwyreiniol Morgannwg yn gyfiawn, os na fyddai `Davies, Taihirion’ ynddo, ac yn cymeryd rhan. Adnabyddwyd ef am lawer blwyddyn fel “Esgob y Fro.” Yr oedd Mr. Davies yn gasglwr dihafal, ac yn werthwr tocynnau heb ei debyg.

Fel pregethwr, byddai yn cael `yr awel’ o’i du yn fynych. Wrth bregethu ar dro yn Aberystwyth, torrodd yn foliannu drwy yr holl le, a bu’n ddiwygiad yno am beth amser wedi iddo ymadael. Dro arall, cafodd oedfa debyg yng Nghroesoswallt, ac ymhen ychydig derbyniodd alwad daer oddiyno i’w bugeilio. O bosibl, mai hon oedd yr unig alwad a gafodd yn ystod ei weinidogaeth, ond teimlodd fod y cwlwm yn rhy dynn rhyngddo â’r Efail Isaf i’w derbyn. Yr oedd ei serch gymaint at Taihirion hefyd, er iddo roi yr eglwys honno i fyny yn y flwyddyn 1893, fel y mynnodd gael ei adnabod bellach fel John Taihirion Davies. Bu farw Medi 1904, wedi gwneud diwrnod da o waith, ac ni adawodd neb fwlch mwy ar ei ôl. Heddwch i’w lwch.

Hanes Tabernacl 1905 -1969

1905 – 1969

1904-05 Yn ystod y diwygiad, derbyniwyd 25 o aelodau o’r newydd.

1906 Ar ddechrau’r flwyddyn gosodwyd Tablen Goffa tu ôl i’r pulpud yn datgan parch ac edmygedd yr Eglwys o’r Weinidogaeth rymus ag eithriadol a fu. Costiodd y Tablen Goffa £30. Gorffennaf 19. Ordeiniwyd myfyriwr o Goleg Bangor Mr E. B. Powell Glanaman yn weinidog. Aelodaeth 100.

1907 Ionawr. Dechreuwyd Ysgol Sul yn Neuadd y Bedyddwyr Saesneg yn Church Village.

1909 Symudodd y Parch E.B. Powell i Faesycwmer. 24 Medi Cyfarfodydd ordeinio’r myfyriwr o Goleg Caerfyrddin, Mr T. E. Jones, Treorci.

1910 Chwefror 16. Adeiladwyd ac agorwyd Gwynfa, Church Village ar gost o £600 fel festri ychwanegol ar gyfer aelodau Llanilltud Faerdref a Church Village.

1911 Derbyniwyd 25 o aelodau newydd a rhan fwyaf o rhain yn aelodau’r Ysgol Sul.

1914 Dechreuwyd cynnal gwasanaethau’r nos yng Ngwynfa.

1916 Gadawodd y Parch T. E. Jones am Drewyddel, Sir Benfro. Yn ystod ei weinidogaeth (1909-16) bu cynnydd o 105 i 133 o aelodau. Gosodwyd golau trydan yn y capel ar gost o £23-13s-0d. 1920 Sefydlwyd y Parch John Howell, Fonciau Rhos.

1921 Gadawodd y Parch John Howell am Moreia, Rhymni. Derbyniodd 27 o aelodau yn ystod y 14 mis.

1922 Gosodwyd peiriant cynhesu newydd yn y capel, peintiwyd y capel a chodwyd ystafell i’r gweinidog a’r diaconiaid am £400.00

1925 Gorffennaf 24. Cyfarfodydd ordeinio myfyriwr o Goleg Caerfyrddin, Mr. D. Stanley Jones o Ffynnongroyw, Sir Fflint. Ehangwyd y fynwent wrth brynu hanner erw o dir am £133.00

1926 Nifer mwyaf o aelodau yn hanes yr Eglwys. 176 o aelodau.

1941 Canmlwyddiant yr Achos. Cafwyd oedfaon dathlu ar Fedi 6 – 8. Aelodaeth yn 118.

1945 Penderfynwyd cau Ysgol Sul y Gwynfa. Aelodaeth 114.

1951 Adnewyddu’r to capel am £81,00. Aelodaeth 119.

1953 Gadawodd y Parch D. Stanley Jones am Dregwyr.

1958 Aelodaeth yn 78.

1963 Penderfynwyd gwerthu Gwynfa.

1967 Peintiwyd y capel.

Gweinidogion 1905 – 1953

Y Parchedig Evan Bruant Powell    1906 – 1909
Y Parchedig Thomas E Jones          1909 – 1916    
Y Parchedig John Howell                  1920 – 1921
 Y Parchedig D. Stanley Jones         1925 – 1953

    

 

Dathlu Canmlwyddiant

Roedd Diwygiad 1904-05 wedi bod o fydd i ehangu’r achos yn y Tabernacl ac yn ystod y cyfnod rhwng y ddau Rhyfel Byd bu galw i ehangu ac adeiladu capel ym Mhentre’r Eglwys.

Gwelwyd 1941 fel cyfle arbennig i ddathlu llwyddaint yr Achos ac yn ogystal â’r dathliadau rydym yn ffodus fod Llyfr y Canmlwyddiant wedi ei gyhoeddi.  

 Gallwch ddarllen y llyfr sy’n cofnodi’r 100 mlynedd cyntaf yma >> Canmlwyddiant

Adroddiad y Canmlwyddiant

Margaret Rosser

Roedd dylanwad Miss Margaret Rosser (1882 – 1967) ar y Capel, yr ardal a’r iaith Gymraeg yn sylweddol iawn.

Yn Llyfr y Canmlwyddiant cyfeirir ar Margaret Rosser yn y rhestr Organyddion :-
MARGARET J. ROSSER a ddewiswyd yn lle Mrs. Thomas yn 1902 , a hyd yma y mae yn glynu gyda’r gorchwyl. Gwnaeth waith mawr ac arhosol ym myd cerdd a llen yn y cylch. Mae wedi arwain y Gobeithlu am amser hir, ac yn parhau i wneud. Cododd Gôr Plant yn y lle, yr hwn a fu yn llwyddiannus iawn o dan ei harweiniad, pan dynnai am y dorch gyda chorau Caerdydd, Blaenrhondda a Nantyffyllon.
Yn 1918, wedi ennill yr Urdd Ofydd, derbyniwyd hi i gylch yr Orsedd, dan yr enw ‘Megan Illtyd’. Cvfansoddodd amryw ddramâu i blant yr Ysgolion Elfennol, a Gwerslyfrau dan nawdd yr Enwad, at wasanaeth yr Ysgol Sul. Yn y flwyddyn 1931, mwynhaodd y fraint o gael annerch Cyfarfod y Plant yn `Undeb’ Aberteifi. Hi hefyd a enillodd y wobr am y Traethawd gorau ar `Hanes yr Eglwys’ yn adeg gweinidogaeth y Parch E. B. Powell. Treuliodd ei hoes ym myd Addysg, ac ar hyn o bryd, hi ydyw Prifathrawes Ysgol y Gwindy, Caerffili.

Ceir crynodeb o’i hanes yn y llyfr Pontypridd Bro’r Eisteddfod

Ceir rhagor o wybodaeth am Margaret Rosser mewn dyfyniad o waith Dillwyn Lewis >> Margaret

Llyfrau Margaret Rosser

Engreifftiau o’r llyfrau a ysgrifennwyd gan Margaret Rosser

Dramau 1920’au

 .  

 

Gwynfa

I ateb y galw am wasanaethau ym Mhentre’r Eglwys cychwynnwyd Ysgol Sul yn Neuadd y Bedyddwyr Saesneg ar y Sul cyntaf yn 1907.  

Penderfynwyd adeiladu festri yn Church Village, at wasanaeth yr Ysgol Sul. Costiodd yr adeilad ar Heol Sant Illtyd £600, ac fe’i hagorwyd ar Chwefror l6eg, 1910.

Cam pwysig yn y flwyddyn 1914 oedd cychwyn gwasanaeth cyson ar nos Sul yng Ngwynfa.

Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yng Ngwynfa ar  20 Hydref 1955.

Llun: Aelodau Gwynfa yn cynnal Cyngerdd yn 1923 

Cynnal yr Achos

Roedd cynulleidfa ffyddlon a swyddogion brwdfrydig yn cynnal yr achos yn ystod y 1950’au a’r 1960’au. Er fod y gynulleidfa yn dirywio yn araf penderfynwyd parhau i gynnal y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wneud yr hyn oedd yn bosib i’r adeiladau. Gwerthwyd adeilad Gwynfa yn 1966 gan ddod ac arian i barhau i gynnal yr achos yn y Tabernacl.

Yn 1968 penderfynodd aelodau Tabernacl a Bethlehem, Gwaelod y Garth i uno a’i gilydd mewn un fugeiliaeth. Ond ni benodwyd Gweinidog yr adeg honno.    

Yn 1969 roedd 59 o aelodau yn cynnal yr achos gan gynnwys o leiaf chwech o aelodau newydd.  

ATGOFION GERAINT ROBERTS
Daethom i fyw i’r Efail Isaf ym 1963. Roedd y Tabernacl yn eglwys annibynnol a thraddodiadol iawn. Roedd un oedfa Saesneg yn cael ei chynnal bob mis, ond er hynny mynnid canu emynau Cymraeg. Ar oedfa dda roedd 40 o bobl yn mynychu. Ond o fewn rhyw bum mlynedd roedd y gynulleidfa wedi gostwng i ryw bymtheg a hynny trwy farwolaethau. Roedd y ffyddloniaid yn sicr mai eglwys Gymraeg oedd y Tabernacl. Roedd afiaith ar y canu er bod y nifer yn fychan.
   Roedd yn gyfnod o anobaith ac o ofn gweld y drws yn cau. Roedd Gwynfa wedi ei werthu ac nid oedd modd defnyddio’r festri ac roedd y fynwent wedi ei gadael i dyfu’n wyllt. Methwyd yn aml â llenwi’r pulpud, ac ar aml i dro roedd safon y pregethu’n druenus o wael.
   Bu i ni fel teulu gael Byrdwn Gweddi ar ran y Tabernacl, gweddi am weinidog ifanc, un a allai ymroddi i waith cenhadol yn y cylch. Rhoddwyd y cyfan gerbron Un a fedrai ateb gweddi. Rhyfeddod un diwrnod oedd cyfarfod ag Eirian a’r teulu ar ochr y ffordd – hen ffrindiau i ni o ddyddiau llencyndod; rhyfeddod mwy oedd deall eu bod yn symud i fyw i’r pentre. Ai hwn oedd y person yr oeddwn wedi gweddïo amdano?

Hanes Tabernacl 1970 -1989

Adfywiad Tabernacl

Cadwodd pentref Efail Isaf ei gymeriad Cymraeg a Chymreig am flynyddoedd lawer, a does dim dwywaith nad oedd y capel yn gymorth mawr i hynny. Fel ym mhob capel, bu  yma genedlaethau o arweinwyr a chymwynaswyr disglair, a hwythau’n bobl oedd yn gefn i’r bywyd Cymraeg mewn talcen caled ym Mlaenau Morgannwg am flynyddoedd lawer. Bu’r Parchg. D. Stanley Jones yn weinidog yma am flynyddoedd, ac roedd bri mawr ar y côr plant oedd yn perthyn i’r capel. Ond maes o law, fe adawodd y  dylanwadau estron eu hôl,  ac fe ddechreuodd yr achos ddirywio yn y Tabernacl.

Ar ddiwedd y chwedegau, dim ond 40 o aelodau oedd yma, a’r rhan fwyaf o’r rheiny yn bensiynwyr. Saesneg oedd iaith yr Ysgol Sul, ac fe ystyriwyd troi’r oedfaon yn Saesneg.  Ond yna, fe gyrhaeddodd gwaed newydd, egni  ffres, a brwdfrydedd heintus. Wrth i’r ysgolion Cymraeg gael eu sefydlu yn y fro, denwyd mwy a mwy o Gymry Cymraeg i ymsefydlu yn y cylch, a dechreuwyd cenhadu o’r newydd. Dyrchafwyd y Parchg. D. Eirian Rees yn weinidog gyda chefnogaeth werthfawr pobl fel Edward Morris-Jones a Penri Jones, ac yn raddol daeth tro ar fyd.

Ochr yn ochr â’r bywyd newydd yn y capel ei hun, daeth Efail Isaf yn ganolbwynt i nifer o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Cynhaliwyd Eisteddfod Y Garth ar ddechrau’r ‘1970au, ac er fod honno wedi hen ddiflannu, mae Côr Godre’r Garth yn rhywbeth a dyfodd ohoni. Yn ddiweddarach daeth Côr Merched y Garth a Pharti’r Efail, a’r tri grŵp yn ymarfer yn rheolaidd yn y pentref, naill ai yn y neuadd neu yn festri’r capel.

1970    Canmlwyddiant y capel presennol. Derbyniwyd y Parchedig a Mrs Eirian Rees yn aelodau.     
Gwneud y Parchedig D. Eirian Rees yn ddiacon a gwahoddwyd ef i bregethu o leiaf un Sul y mis.            

1973    Cwrdd ymgysegru i’r holl eglwys gan sefydlu Y Parchedig D. Eirian Rees yn weinidog anrhydeddus. Aelodaeth yn 64.

1974    Peintiwyd y capel.

1976    Derbyniwyd 41 o aelodau yn ystod y flwyddyn.

1977    Adeiladwyd ystafell ymolchi a chegin i’r tŷ capel ar gost o £6,806.84c.

1980    Penderfynwyd atgyweirio’r festri gan ychwanegu estyniad ar gost o £6,600.
Dathlu pen-blwydd y capel presennol yn 110 mlwydd oed. Aelodaeth yn 143.

1970’au


Ceir darlun o sefyllfa Tabernacl yn ystod y 70’au gan Penri Jones, a oedd yn Ysgrifennydd y Capel o 1971 i 1975. Ysgrifennodd am y Tabernacl yn ei lyfr Capeli Cymru.

“Ar ddiwedd y ’60au roedd aelodaeth y capel yn 40 a’r rhan fwyaf yn bensiynwyr. Ond daeth ychydig o deuluoedd newydd a chynhaliwyd ymgyrchoedd o dŷ i dŷ … daeth pobl newydd, pan welsant cyn lleied oedd yn y gwasanaeth ni ddaeth y rhan fwyaf yn ôl, ond yn araf roedd newid yn digwydd.”

Yn nechrau’r ’70au roedd yr Ysgol Sul yn Saesneg ond gyda’r cynydd mewn galw am addysg Gymraeg roedd yn amlwg fod angen Ysgol Sul Cymraeg hefyd. Daeth hyn a chwyldro i fywyd y capel gyda aelodaeth yr ysgol Sul yn cyrraedd 80.

Ffurfiwyd Teulu Twm ar gyfer y bobl ifanc.

Cynyddodd aelodaeth y capel o 78 yn 1974 i 143 yn 1978.

ATGOFION PENRI JONES
(Allan o Capeli Cymru, Gwasg y Lolfa, 1983)
Cofiaf yn dda symud i fyw o Gaerdydd i Don-teg yn 1968 ac ar ôl clywed pregeth Saesneg yn un neu ddau o gapeli honedig Gymraeg y cylch, dyma fentro i’r Tabernacl un bore Sul, Nid oeddwn yn gwybod enw’r capel, pa enwad ydoedd na chwaith iaith y gwasanaethau. Holi gwraig yn y cyntedd a
chael yr esboniad yn nhafodiaith bersain Cwm Taf: ‘Cwmra’g yw popeth yma hyd yn hyn.’
   Gwyrth oedd canfod cymdeithas o bobl yn byw ryw ychydig o filltiroedd o Gaerdydd ac yn siarad Cymraeg fel iaith naturiol yn y dafodiaith frodorol. Y frenhines yn eu mysg oedd Anti Fei, neu Elvira Davies, a fu’n cyfeilio ac yn hyrwyddo cerddoriaeth ymysg plant y Tabernacl ers cenedlaethau.
   Ar ddiwedd y chwedegau 40 oedd rhif aelodaeth yr eglwys a’r mwyafrif yn bensiynwyr. Hwy oedd y to olaf o Gymry Cymraeg yn y pentref. Saesneg erbyn hyn oedd iaith yr Ysgol Sul er bod rhai Cymry o’r Ysgol Gymraeg yno. Pur ddigalon oedd trwch yr aelodau ynglŷn â’r dyfodol, a bu cwrdd eglwys i ystyried newid y gwasanaethau i Saesneg, ond pleidleisiodd bron pawb yn erbyn hynny. Ymaelododd nifer fechan o deuluoedd newydd yn yr eglwys a dechreuwyd cynnal Ysgol Sul Gymraeg ar fore Sul.
   Gan fod y Cymry Cymraeg yn symud i’r ardal yn gyson a’r Ysgol Gymraeg yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn roedd cyfle gwych i gryfhau’r eglwys. Paratowyd pamffled at bwrpas cenhadu ac aethpwyd o gwmpas yr ardal yn gwahodd pobl i fynychu. Roedd y Parchedig Eirian Rees wedi ymsefydlu yn y pentref ac etholwyd ef yn weinidog. Deuai rhai i’r oedfaon a digalonni’n syth o weld dim ond rhyw ddwsin wedi dod ynghyd ar nos Sul ond arhosai ambell un ac yn araf daeth yn amlwg fod yr eglwys ar gynnydd.

Auntie Vi yn 80

 

Tafod Elái Hydref 1985

1980’au

Wrth i’r capel barhau i dyfu bu rhaid edrych ar yr adeilad a’r adnoddau a phenderfynwyd ar nifer o welliannau

1980 – Atgyweiriwyd ac adeiladwyd estyniad ir Festri ar gost o £6,600.

1985 – Adnewyddwyd to y Capel, gosodwyd ffenestri newydd, tynnwyd allan y “Sêt fawr” a gosodwyd trawst newydd i gynnal y galeri.

1987 – Adeiladwyd wal newydd o gwmpas y fynwent a gwnaed gwelliannau pellach i’r festri ar gost o £11,000.

1989 – Gosodwyd toiledau newydd, yn costio £5,000.

 1991 – Gosodwyd organ newydd, yn costio £6,000.

 

Teulu Twm

Wrth i’r to newydd o blant dyfu yn y capel gwelwyd yr angen am weithgareddau i bobl ifanc. Fe enwyd y criw ar ôl Twm, cath Eirian ac Ann Rees a ymunai â’r dyrnaid o bobl ifanc oedd yn cyfarfod bob nos Sul ar yr aelwyd yn Efail Isaf yn 1985.

Mewn cyfnod byr tyfodd Teulu Twm ac erbyn 1988 roedd dros 50 o bobl ifanc yn ymgynull yn Festri’r Tabernacl yn wythnosol. 

 

 

 

Hanes Tabernacl 1990 – 2010

Cynyddu ac Ehangu

Parhaodd y Tabernacl i fod yn llewyrchus gan ddenu aelodau newydd.

Medi 2009 – Llun John Sayle

Yr Oedfaon

Mae Tabernacl wedi gweld ffurf ac awyrgylch yr oedfaon yn newid ac yn dod yn fwy cyfoes dros y blynyddoedd. Roedd y capel ymhlith y cyntaf i ddysgu’r caneuon ac emynau modern sy’n rhan o fywyd pob capel erbyn hyn. Bu’r Gweinidog yn ogystal â phregethu a chynnal y gwasanaethau, yn annog aelodau’r gynulleidfa i gymryd cyfrifoldeb am rannau o’r oedfa.

Mae Efengyl Crist yn parhau i fod yn gonglfaen i holl weithgarwch y capel.

Ysgol Sul

Mae’r Ysgol Sul wedi cynnal y capel gan fagu to ar ôl to o aelodau newydd.

Mae’r brwdfrydedd a’r gefnogaeth yn parhau ac mae ffrwyth y gwaith yn cael ei weld yn aml yn y Gwasanaethau Teulu misol yn ogystal a pherfformiadau arbennig adeg y Cynhaeaf a’r Nadolig.

Elusennau

Mae’r traddoddiad  o gefnogi elusennau a’r genhadaeth wedi bod yn rhan o fywyd y capel dros y blynyddoedd ac ar ddechrau 1990 ffurfiwyd pwyllgor i ehangu’r gwaith.

Yn ogystal â chasglu arian i Cymorth Cristnogol yn flynyddol mae’r capel yn cefnogi nifer o elusennau lleol ac wedi ymateb ar sawl achlysur i alwad brys am adnoddau i argyfyngau ar draws y byd .

  

Ehangu yn 2010

I ateb y galw am well cyfleusterau bu’r capel yn edrych ar ffyrdd i ychwanegu at y ddarpariaeth oedd ar gael i’r gynulleidfa ac i’r gymuned.

Furfiwyd Cwmni Elusennol i warchod buddiannau’r Capel a gyda chymorth grantiau a chefnogaeth y gynulleidfa cychwynwyd ar y gwaith sylweddol i ehangu’r festri a gwella’r capel.

Y cam cyntaf oedd adeiladu’r Ganolfan a agorwyd ym Medi 2010. 

Gwres yr Efail

Fel rhan o ddathliadau agor y Ganolfan ym Medi 2010 cyhoeddwyd llyfryn sy’n olrhain hanes y Tabernacl ac yn arbennig y datblygiadu diweddar. Mae’r gyfrol yn deyrnged i Eirian Rees am ei gyfraniad disglair a’i weledigaeth sicr fel bugail.

 

Agor y Ganolfan

Anerchiad Geraint Stanley Jones
wrth agor y Ganolfan, Tabernacl, Efail Isaf. 5 Medi 2010

TABERNACL, EFAIL ISAF

Diolch am ‘Wres yr Efail’ ac am y cyfle i brofi ychydig ohono unwaith eto.
Mae hi bron yn drigain mlynedd, ers i mi sefyll yn y fan hon, ar Fore Sul y Plant, yn adrodd ‘ Duw cariad yw’ , a nhad yn gwgu arnai, am mod i heb ddysgu adnod newydd am yr ugeinfed tro.

Fe allai nhad ddweud, fel Emlyn Williams, wrth iddo gychwyn ei anerchiad lywyddol yn Steddfod y Rhyl, erstalwm. “Bachgen bach o Sir y Fflint ydwi” . Dyna oedd nhad, ac er iddo golli acenion y sir, fe fu dylanwadau Ffynnongroew a’r ardal yn gry arno trwy ei oes.

OND – ‘Crwtyn o’r Efail ‘ ydwi. Cael fy ngeni ym Mhontypridd a’m magu yma yn yr Efail Isaf am y ddwy flynedd ar bymtheg cynta o’m hoes. A dwi’n eitha sicr fod dylanwadau’r blynyddoedd hynny, wedi bod yr un mor gry arna i, ag y bu Ffynnongroew ar nhad. Er holl grwydro’r blynyddoedd, yma mae’ ngwreiddiau.

Fe lifodd cryn dipyn o ddŵr drwy nant fach y Dyffryn, ers i’r Dr Gareth Edwards a minnau ddal y trên, o orsaf Efail Isaf, ar ein ffordd i’r Brifysgol ym Mangor, a dwi’n hynod falch ei fod yma efo ni bore ma, gan fod y fangre hon mor bwysig yn ei hanes bersonol o ag ydio i mi. Mil naw pump tri oedd hi ac roedd y siwrne honno yn fwy tyngedfennol i mi na gadael am y coleg, gan fod nhad a mam ar fin symud i Dregwyr, a Thabernacl newydd yn eu hanes.

Minnau hefyd, felly, yn torri cysylltiad â chymdeithas oedd wedi bod yn gymaint rhan o’m magwraeth. Cymdeithas war, hynod ddiwylliedig, a aeth ati’n egniol i oresgyn pryderon ail rhyfel byd, a’i rwystrau, trwy weithgaredd unigol ac ar y cyd, gyda phenderfyniad llawen, ac mewn ysbryd gwir Gristnogol, o oddefgarwch a charedigrwydd.

Fel  teulu mawr o deuluoedd rydwi’n cofio’r Tabernacl yn y dyddiau hynny, – y Chubbs, y Rossers, y Curnows, Olivers, Rees, Rowlands, Humphreys, Davies, Jones, Morgan, Griffiths, Powell ac yn y blaen. Yn eitha treibal yn ei ffordd ond yn cyd dynnu i greu cymdeithas gadarnhaol, hwyliog.
Mi roedd yna weithgarwch diddiwedd yma yn y capel, bryd hynny hefyd, yn enwedig i fab y gweinidog, oedd ar alwad parhaol i gymryd rhan mewn rhywbeth neu i gilydd, a thu allan, mi roedd yna lot o sbort i ni blant. Mi roedd yr allotments, drws nesa i’r fynwent, a’r fynwent ei hun hefyd, yn llefydd da i chwarae cuddio a cowbois ag indians, er waetha ymdrechion gwarchodol y diweddar annwyl Tom Powell Ac i mi’n arbennig, yr oedd yard y stesion, (bellach wedi diflannu) drws nesa i lle ro ni’n byw, yn ysgogi’r dychymyg i greu pob math o sefyllfaoedd anhygoel, a breuddwydio am bellafoedd byd.

Cynhaeafu wedyn, gyda cheffylau, ar ffermydd Y Dryscoed, a Tŷ Newydd, a dilyn yr helfa fyddai’n ymgynnull wrth Y Carpenter’s Arms.( Unwaith yn unig, cofiwch chi y bues i mewn yn y dafarn, a hynny i weld a chlywed Tom Bryant yn chwarae’r delyn. A hyd heddiw fedrai ddim camu dros y drws rhag ofn i nhad glywed!)

 

‘Roedd peryglon rhyfel yn bell iawn i ffwrdd i ni blant yn Efail Isaf, gan ein bod ni’n teimlo mor ddiogel yn ein bydau bach ein hunain. Adeg, a lle, arbennig o dda, i feithrin creadigrwydd a dychymyg.

Ac ar ôl y rhyfel, y Carnifal a’i Fandiau Bazooka yn y cae gyferbyn a’r capel, a the partis llawn jelly a blankmange ar bob achlysur posib yn y Festri.
Ia’r festri, sy’n ganolbwynt i’r dathliadau heddiw. O gofio am gwrs y mywyd i, yn y byd darlledu, mae’n siŵr gen i mae yn y festri y cefais i flas am y tro cynta, ar y byd theatrig, a afaelodd ynof yn ddiweddarach. Dwi’n siŵr mae yn y fan honno y gwelais i ffilm am y tro cynta – sef y sinema deithiol, a ddeuai o gwmpas adeg rhyfel, yn gymysgedd o ffilmiau propaganda, a chomedïau di- sain Chaplin, Laurel and Hardy, ag ati.

Ond yn fwy pwysig wrth gwrs, oedd y cyfle i ddysgu sol-ffa, i ganu, i adrodd, a chymryd rhan yn nramâu yr anfarwol Bopa. ‘Pwca’r Trwyn’, ‘Mrs Morgrugyn a Sioncyn y Gwair’ a’r gweddill. Mae nhw i gyd gen i o hyd. A’r pasiant mawreddog hwnnw a grëwyd ganddi i ddathlu Steddfod Caerffili. Gareth yn Fardd Coronog a finnau’n sblenydd o Archdderwydd – ysywaeth, am yr unig dro yn ein hanes.

Ia Bopa – Margaret Rosser, Megan Illtyd, bach o gorff ond anferthol o fawr o egni, brwdfrydedd, penderfyniad, a thalentau. Ac, wrth gwrs, fel nhad, ar dan, mewn cyfnod digon llugoer, dros achos iaith a diwylliant. Ac wrth ei hochor bob amser Aunti Vi – Elvira Davies, oedd yn medru troi ei llaw at unryw offeryn allweddol, ac unryw fath o gerddoriaeth, heb feddwl ddwywaith.

Hi oedd meistres y ‘crossover’ rhwng piano’r dafarn a’r operetta, accordion y ddawns,  harmonium y capel a’r festri, mor ddi-lol â neb welais i erioed mewn hanner canrif o ddarlledu. Fe fyddai’r ddwy wedi bod yn gaffaeliad i S4C.

Wrth geisio dilyn hynt a helynt y Tabernacl a’r pentre dros y blynyddoedd mae’n amlwg fod ysbryd Bopa ag Anti Vi, yn dal yn fyw yn eich amryfal weithgareddau, crefyddol, cymdeithasol, a cherddorol, ac mae’n amlwg, o fod yn eich plith bore ma, fod y gwmnïaeth deuluol, a ddylanwadodd arna i a Gareth a’n cenhedlaeth ni, yn dal i fodoli.

‘R oedd yma le amlwg i geffylau yn y dyddiau hynny. Doedd hi ddim yn beth rhyfedd, felly, i stabal gysurus gael ei adeiladu iddyn nhw dan y festri. Nag ychwaith o edrych nôl, mod i wedi mynnu treulio cymaint o oriau pleserus dros y blynyddoedd yn marchogaeth.

I feel, a little like Dr Who this morning. My time capsule has taken me back sixty and more years, to a place once so familiar, so changed, yet so the same. So much has happened in the interim years, and yet the link between my yesteryear in Efail Isaf, and especially its Tabernacl, and my being here this morning, is remarkably in tact. I’ve made a point over the years of trying hard, not to revisit old memories, in an attempt to encourage new experiences. But that does not mean airbrushing them away. If they have been worthwhile, they remain as part of who I am. Such is the connection between my yesterdays in this place, and my today in this spot. Being here is an extraordinarily happy experience, and to be opening a new chapter in the life of Chapel and Village is a great honour.

Y mae llwyddiannau’r Tabernacl sy’n dal i ddatblygu fel canolfan grefyddol, ddiwylliadol a chymdeithasol, mewn oes o ddymchwel Tabernaclau, yn rywbeth i’w ddathlu. Fe fyddai’n nhad am i mi ychwanegu- ‘Annibynia ar ei orau’.

Diolch i chi i gyd.
Geraint Stanley Jones
(Traddodwyd yn y Tabernacl, Efail Isaf, Medi 5ed 2010)TABERNACL, EFAIL ISAF