Newyddion Arall

CASGLIAD ADREF

Yn dilyn y newyddion annisgwyl na fydd Adref yn gyfrifol am hosteli pobl ddigartref RhCT  yn y dyfodol, ac er mawr syndod i Paul a’i dîm o wirfoddolwyr ac i ninnau yn y Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol, bydd siopau Adref yn cau, ac felly ni fyddwn bellach yn casglu dillad a nwyddau ar eu cyfer.

Cewch fwy o fanylion am gasgliadau yn y dyfodol ar ôl cyfarfod mis Mawrth y Gweithgor.

Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth hael dros y blynyddoedd.

NEWYDDION ARALL

CASGLIAD BANC BWYD TAF ELÁI 

Diolch yn fawr i’r criw selog lwyddodd i helpu gyda’r casgliad eleni, ynghanol tywydd diflas, a hynny ar fyr rybudd. Bu’n dda i ni fod yno, gan fod ein hangen i chwyddo’r rhengoedd, yn wahanol i droeon diweddar.

TALEBAU NADOLIG

Unwaith eto eleni, bu’r casgliad yn llwyddiant rhyfeddol, sy’n golygu y bydd rhai o bobl ifanc yr ardal sy’n gadael gofal yn medru siopa ar gyfer y Nadolig yng nghwmni eu gweithwyr cymdeithasol, ac yn cael cyfle i brofi rhywfaint o lawenydd yr Ŵyl.  Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd.