Newyddion Cyn 2016

Daeth tua 15 o bobl ifanc ynghyd ar gyfer cyfarfod cyntaf y Twmiaid Bach nos Sul Medi 13eg.  Dymunwn yn dda iddyn nhw yn eu tymor newydd.

Twmiaid Bach 2 Twmiaid Bach

 

 

 

Dyma gopi o’r cylchlythyr a anfonwyd at yr aelodau i gyd yn egluro’r trefniadau dros gyfnod atgyweirio’r capel.

Cylchlythyr Medi 2015

 

 

 

NEWYDDION MIS GORFFENNAF:

PROFEDIGAETH

Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion brawychus am farwolaeth annhymig Lowri Gruffydd. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i Hefin a’r bechgyn, Trystan ac Osian. Rydym yn meddwl amdanoch.

CASGLIAD Y BANC BWYD YN ARCHFARCHNAD TESCO

Llawer o ddiolch i bawb a ddaeth ynghyd i gefnogi’r Banc Bwyd drwy gasglu nwyddau yn siop Tesco ddechrau Gorffennaf. Bu tîm o 24 ohonom o’r Tabernacl yn gwneud gwahanol shifftiau o ddwy awr yr un. Byddwn yn cyhoeddi cyfanswm gwerth y casgliad yn fuan.

PENWYTHNOS PENRHYN GŴYR

Ddiwedd mis Mehefin, cafodd y Twmiaid Bach benwythnos wrth eu boddau yng nghwmni Catrin a Heulyn ym Mhenrhyn Gŵyr. Braf eu gweld wedi cael amser mor braf gyda’i gilydd, a diolch i’r trefnwyr am roi cymaint o’u hamser i gyfoethogi profiadau’r criw ifanc.

 

OEDFA GYMUN WAHANOL

Ar Sul cyntaf Gorffennaf cafwyd oedfa gofiadwy yng nghwmni plant yr Ysgol Sul, dan lywyddiaeth Heulyn Rees. Mentrodd y plant lleiaf i ffau’r llewod ar gyfer eu cyfraniad hwy drwy ganu “Ble Mae Daniel?”, a chawsom ddatganiad o “Bythol Wyrdd” gan y Twmiaid Bach. Yna, bu Heulyn yn holi Siân Knott am ei gwaith fel Prif Ffisiotherapydd Chwaraeon Cymru, a soniodd hithau am ei phrofiadau yn y Gemau Olympaidd a Chwaraeon y Gymanwlad, gan bwysleisio’r angen i gydweithio fel tîm. Gweinyddwyd y Cymun gan Emlyn Davies, gyda’r bobl ifanc yn cymuno am y tro cyntaf.

Oedfa Gymun Gorffennaf

ARCHIF NEWYDDION:

YMGYRCH YR YSGOLION
Bu rhai o arweinwyr yr Ysgol Sul wrthi’n brysur yn dosbarthu cannoedd o daflenni yn yr ysgolion cynradd lleol i geisio denu rhagor o blant i’r capel. Pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni ragor o rieni yn dod hefyd. Dyma’r daflen ddwyieithog:

+Taflen Yr Ysgolion

BORE COFFI

Rhai o aelodau’r gynulleidfa Saesneg eu hiaith yn eu bore coffi wythnosol a drefnir ar gyfer trigolion Efail Isaf. Bydd yr elw o’r boereau hyn yn mynd i achosion da yn yr ardal.

IMG_1266

HAMPERI NADOLIG

Diolch i bawb a gyfrannodd i greu’r hamperi Nadolig eleni eto  i bobl ifanc sy’n sefydlu cartref am y tro cyntaf yn yr ardal. Cafodd yr hamperi eu dosbarthu drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhontypridd.

IMG_1264

BANC BWYD PONTYCLUN

Bu dros ugain ohonon ni’n brysur ddiwedd Tachwedd yn helpu trefnwyr Banc Bwyd Pontyclun yn eu casgliad yn Tesco Tonysguboriau. Dyma’r ail dro i aelodau’r Tabernacl wneud hyn a’r bwriad yw helpu ym mhob casgliad o hyn allan.
Helpu achos teilwng yw’r prif reswm, wrth gwrs, ond rhaid cyfaddef hefyd ei fod yn brofiad amheuthun. Mae’n gyfle gwych i weld ochr orau pobl, mae haelioni pobl o bob cefndir yn gwneud i rywun deimlo’n wylaidd iawn, a’u hagwedd fel chwa o awyr iach mewn oes mor faterol. Mae’r rhoddion i gyd yn cael eu pwyso fel bod Tesco’n ychwanegu 30% yn ariannol at y cyfanswm. Mae cefnogaeth staff Tesco Tonysguboriau yn ddiarhebol.
Mae’n braf teimlo ein bod yn gwneud rhywbeth ymarferol sydd o les i gymaint o bobl, ond cyn swnio’n annioddegol o hunangyfiawn, mae’n bwysig ychwanegu ei fod yn brofiad sy’n eli i’r galon, ac mae pawb mor brysur, mae shift ddwyawr yn hedfan!
Byddwn yno eto ym mis Gorffennaf. Os ydych chi’n awyddus i fod yn rhan o’r profiad gwerth chweil yma, gallwch wneud hynny drwy ymateb i’r ebost fydd yn eich cyrraedd ddechrau mis Mehefin.

Tair Cenhedlaeth wrth y gwaith

Tair cenhedlaeth wrth y gwaith – Lowri, Math, Glenys a Gwenno.

PRIODASAU UN RHYW

Mae disgwyl i bob eglwys Annibynnnol benderfynu a ydyn nhw o blaid neu yn erbyn cofrestru eu hadeilad ar gyfer priodasau un rhyw.  Byddwn ni’n gwneud hynny ar Ionawr 11eg, a chyhoeddwyd y ddogfen isod i ysgogi’r drafodaeth:

PRIODASAU UN RHYW

 

AR DRYWYDD WALDO

Cliciwch ynma i gael hanes y daith i Sir Benfro ar Sul y Cofio, 2013:

Ar Drywydd Waldo

PREGETH OLAF EIRIAN

Yma y cewch chi hanes pregeth olaf Eirian ym mis Rhagfyr 2013:

Pregeth Olaf Eirian

 

LLYTHYR AT Y GWLEIDYDDION

Wrth i’r Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol drafod y Banc Bwyd yn eu cyfarfod cyn y Nadolig fe nodwyd gyda phryder y defnydd cynyddol a wneir o’r Banciau Bwyd ar draws y Deyrnas Gyfunol a’r cyni y mae hynny yn ei ddynodi. Cwestiynwyd pam fod angen Banc Bwyd o gwbl mewn gwlad sydd i fod i edrych ar ôl y gwannaf yn y gymdeithas trwy’r Wladwriaeth Les. Daethpwyd i’r penderfyniad y dylid datgan y pryder yn gyhoeddus ac anfon llythyr at Adran Gwaith a Phensiynau y Llywodraeth yn Llundain sydd â chyfrifoldeb dros y ddarpariaeth i’r tlawd a’r difreintiedig, gan anfon copi o’r llythyr at y Prif Weinidog David Cameron, Canghellor y Trysorlys George Osborne ynghyd â’n Haelod Seneddol Owen Smith, ein Haelod Cynulliad Mick Antoniw a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru. Dyma gopi o’r llythyr a anfonwyd:

Llythyr y Gwleidyddion